Sunday, August 09, 2026

Llanbedr: mae mwy o gwestiynau angen eu hateb

Mi wnes i flogio’n ddiweddar am y newid sydd wedi digwydd yng Nghanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr – safle gafodd ei ddatblygu a’i hyrwyddo fel canolfan awyrofod sifil, ond sydd bellach yn chwarae rôl gynyddol ym maes amddiffyn.

Ers ‘sgwennu’r blogiad hwnnw, mae rhagor o wybodaeth wedi dod i’r amlwg. A dweud y gwir, mae’r wybodaeth newydd yn codi mwy o gwestiynau nag mae’n eu hateb.




Y peth sy’n taro rhywun fwyaf ydi’r llinell amser.

Mae Maes Awyr Llanbedr ei hun, wrth gwrs, yn llawer hŷn na’r ganolfan bresennol. Agorodd fel maes awyr RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac roedd ganddo hanes milwrol hir cyn i ddefnydd y Weinyddiaeth Amddiffyn ddod i ben yn 2004.

Yn 2008, prydlesodd Llywodraeth Cymru’r safle i’r cwmni ddaeth yn Snowdonia Aerospace, ac yn 2013 daeth Llanbedr yn rhan o Barth Menter Eryri. O hynny ymlaen, y weledigaeth oedd datblygu canolfan ar gyfer ymchwil, arloesi a phrofi technoleg awyrofod sifil.

Yn 2019 daeth buddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Roedd Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am weinyddu pecyn oedd yn cynnwys £7.5m o gyllid Ewropeaidd. Ac mae cofnodion Cabinet y Cyngor yn ddiddorol iawn. Roedd y Cabinet am sicrhau defnydd sifil o’r ganolfan ac, yn benodol, penderfynodd y dylai’r contract gynnwys cymal yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau oedd yn cael eu gwella drwy’r prosiect Ewropeaidd.




Cadwch hynny mewn cof.

Yna daeth 2025

Ar 2 Hydref 2025, gofynnodd y Cynghorydd Beca Brown gwestiwn yng Nghyngor Gwynedd am y posibilrwydd bod dronau oedd yn cael eu datblygu yn Llanbedr yn cael eu defnyddio at bwrpas milwrol.

Aeth Cyngor Gwynedd at Snowdonia Aerospace i ofyn am sicrwydd.

Yr ateb gafodd y Cyngor oedd mai cwmnïau masnachol oedd yn defnyddio’r safle ac nad oedd gan Snowdonia Aerospace:




“unrhyw weithrediadau drôn milwrol wedi’u cynllunio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar safle yn Llanbedr.”

Roedd yr Aelod Cabinet hefyd yn cydnabod rhywbeth pwysig iawn wrth ateb cwestiwn atodol Beca. ‘Doedd dim cyfyngiadau cynllunio na thrwyddedu fyddai’n atal dronau milwrol rhag gweithredu o’r safle yn y dyfodol.

Felly roedd y posibilrwydd yno – ond y neges ar 2 Hydref oedd nad oedd gweithrediadau o’r fath gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’u cynllunio.

Yna, dim ond rhyw chwe wythnos yn ddiweddarach, ar 11 Tachwedd 2025, cyhoeddodd Anduril UK fod ganddo safle profi newydd yng ngogledd-orllewin Cymru ar gyfer technoleg oedd wedi’i bwriadu at ddefnydd milwrol y DU.

Ac nid cyhoeddi cynllun ar gyfer rhyw ddyddiad yn y dyfodol oedd hwn. Roedd Anduril yn dweud bod systemau eisoes yn cael eu profi yng Nghymru.

Mae tystiolaeth gref mai Llanbedr oedd y safle dan sylw.

Dydi hynny ddim yn profi bod Snowdonia Aerospace wedi dweud rhywbeth anghywir wrth Gyngor Gwynedd ar 2 Hydref. Mae’n bosib bod y trefniadau gydag Anduril wedi datblygu’n gyflym iawn yn ystod yr wythnosau wedyn.

Ond mae o’n codi cwestiwn amlwg:

Pryd yn union ddechreuodd Anduril ddefnyddio Llanbedr?

Ac mae yna gwestiwn hyd yn oed yn bwysicach:

Beth oedd Snowdonia Aerospace yn ei wybod am gynlluniau Anduril pan roddwyd yr ateb i Gyngor Gwynedd ar 2 Hydref?

Y newid yn cyflymu

Erbyn Chwefror 2026, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Wales Defence Growth Deal gwerth £50m, gyda’r bwriad o wneud Cymru’n ganolfan bwysig ar gyfer technoleg amddiffyn awtonomaidd.

Ym mis Mai roedd Anduril yn un o bedwar cwmni oedd yn parhau yn Project NYX – rhaglen y Fyddin Brydeinig i ddatblygu systemau awyr di-griw i weithio gyda hofrenyddion Apache. Dydi hynny ddim yn golygu bod Project NYX yn dod i Lanbedr; does gennym ni ddim tystiolaeth o hynny. Ond mae’r math o allu sydd yn Llanbedr – yn enwedig y gallu BVLOS, sy’n caniatáu profi dronau y tu hwnt i olwg y peilot – yn amlwg yn gallu bod yn ddeniadol iawn i raglenni milwrol o’r math yma.

Erbyn haf 2026 roedd y newid wedi mynd gam ymhellach.




Mae Snowdonia Aerospace bellach wedi cadarnhau bod Anduril wedi cymryd prydles hirdymor ar gyfres o adeiladau yn Llanbedr i sefydlu European Test and Training Site – ETTS.

Mae Snowdonia hefyd wedi cadarnhau bod Anduril wedi cynnal arddangosiadau a hyfforddiant i Luoedd Arfog Prydain yn Llanbedr.

Ac mewn ymateb ddiwedd Gorffennaf, dywedodd Snowdonia Aerospace ei fod wedi gweld:

“significant increase in defence-related activity”

dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae hynny’n mynd â ni yn ôl at tua 2024.

Mae’r un ymateb yn sôn am gynlluniau i ehangu’r gofod awyr arbennig D217 ac am rôl Llanbedr mewn profi, treialu, hyfforddi a gwerthuso systemau awtonomaidd.

Felly dydi ETTS ddim yn edrych fel digwyddiad bach, unigol. Mae’n edrych fel rhan o newid strategol llawer ehangach yn natur y safle.

Felly beth sydd angen ei ateb?

Mae yna gyfres o gwestiynau gweddol syml rŵan.

Pryd ddaeth Anduril i Lanbedr am y tro cyntaf?

Pryd gynhaliwyd yr hediad neu’r prawf cyntaf gan Anduril yno?

Oedd unrhyw weithgarwch Anduril eisoes yn digwydd – neu wedi’i gytuno – pan atebodd Snowdonia Aerospace gwestiwn Cyngor Gwynedd ar 2 Hydref 2025?

Os oedd Snowdonia yn trafod gydag Anduril ar y pryd, pam na chafodd hynny ei gynnwys yn yr ateb i’r Cyngor?

Mae gwahaniaeth pwysig yma. Mae’n bosib bod yr ateb a roddwyd yn dechnegol gywir oherwydd y geiriad penodol – “gweithrediadau drôn milwrol wedi’u cynllunio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn”. Gallai Anduril fod wedi bod yn profi neu’n datblygu technoleg filwrol fel cwmni preifat heb i hynny gael ei ystyried yn “weithrediad gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn”.

Os felly, mae angen egluro hynny.

Ond os oedd gweithgarwch milwrol perthnasol eisoes yn digwydd neu wedi’i gytuno, ac os oedd Snowdonia yn gwybod hynny, mae cwestiwn mwy difrifol yn codi:

A gafodd Cyngor Gwynedd y darlun llawn?

Dwi ddim yn dweud ar hyn o bryd bod Snowdonia Aerospace wedi camarwain y Cyngor. Does gennym ni ddim digon o dystiolaeth i ddweud hynny. Ond mae’r amserlen yn golygu bod y cwestiwn yn un cwbl resymol i’w ofyn.

A beth am y cytundeb o 2019?

Mae yna ail gyfres o gwestiynau sydd, o bosib, hyd yn oed yn fwy arwyddocaol.

Rydym ni’n gwybod beth benderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn 2019. Roedd eisiau cyfyngu defnydd y datblygiad i bwrpas sifil ac, yn benodol, roedd eisiau cymal yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau a wellwyd gydag arian Ewropeaidd.

Ond dydan ni ddim eto wedi gweld y contract terfynol a gafodd ei lofnodi rhwng Cyngor Gwynedd a Snowdonia Aerospace.

Mae hynny’n bwysig.

Mae angen gwybod beth oedd union eiriad y cymal. Pa adeiladau oedd yn dod o dan y gwaharddiad? Beth oedd ystyr “defnydd milwrol”? Pa mor hir oedd y cyfyngiad yn para? Oedd modd is-brydlesu’r adeiladau? Ac os felly, oedd y cyfyngiad yn parhau i fod yn berthnasol i’r is-brydlesai?

Ac wedyn mae’r cwestiwn amlwg:

Ai unrhyw un o’r adeiladau gafodd eu gwella gydag arian Ewropeaidd yn 2019 sydd bellach wedi’u prydlesu i Anduril?

Os mai na ydi’r ateb, mae hynny’n egluro llawer.

Os mai ie ydi’r ateb, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn.

Byddai angen edrych wedyn ar union delerau’r contract i weld a ydi gweithgarwch ETTS, profi technoleg filwrol neu hyfforddi Lluoedd Arfog Prydain yn gyson â’r cytundeb.

Ac os nad ydi, fydden ni ddim bellach yn trafod newid gwleidyddol neu newid mewn gweledigaeth yn unig. Byddai cwestiwn posib ynghylch cydymffurfiaeth â chytundeb cyfreithiol oedd yn gysylltiedig â miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus.

A lle mae Llywodraeth Cymru yn hyn i gyd?

Mae yna haen arall hefyd.

Llywodraeth Cymru ydi perchennog Maes Awyr Llanbedr. Snowdonia Aerospace ydi’r lesddeiliad a’r gweithredwr.

Mae Snowdonia bellach yn mynd ymhellach na disgrifio’r hyn sy’n digwydd ar y safle. Yn ei ddatganiadau diweddar mae’n trafod “New Cold War”, gallu amddiffyn sofran y DU a phwysigrwydd Llanbedr i allu amddiffyn newydd y DU.

Mae gan gwmni preifat hawl, wrth gwrs, i fod efo barn am bolisi amddiffyn.

Ond mae Snowdonia Aerospace yn gweithredu ased cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd wedi derbyn buddsoddiad cyhoeddus sylweddol ac a gafodd ei ddatblygu am flynyddoedd ar sail gweledigaeth sifil.

Felly beth ydi barn Llywodraeth Cymru am y newid yma?

Pryd gafodd Llywodraeth Cymru wybod bod Anduril am sefydlu ETTS yn Llanbedr?

Oedd angen caniatâd Llywodraeth Cymru i’r brydles hirdymor?

Pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros is-brydlesu’r safle a newid natur ei ddefnydd?

Ac ydi Llywodraeth Cymru yn gyfforddus bod ased sydd yn ei pherchnogaeth yn cael ei gyflwyno bellach fel rhan bwysig o seilwaith amddiffyn y DU?

Dyna pam mae’r dogfennau’n bwysig

Yn y blogiad diwethaf, roeddwn i’n gofyn cwestiwn gwleidyddol ehangach: sut aeth Llanbedr o gael ei gyflwyno fel canolfan awyrofod sifil i fod yn rhan o seilwaith amddiffyn?

Erbyn rŵan, mae’r cwestiwn hwnnw wedi dod yn fwy penodol.

Mae angen gweld contract 2019 rhwng Cyngor Gwynedd a Snowdonia Aerospace.

Mae angen gwybod pa adeiladau sydd wedi’u prydlesu i Anduril.

Mae angen gwybod pryd ddechreuodd y berthynas rhwng Anduril a Llanbedr.

Ac mae angen gwybod beth oedd Snowdonia Aerospace, Llywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wybod – ac ar ba ddyddiad.

Efallai bod yna esboniad cwbl syml am bopeth.

Efallai bod Anduril wedi cyrraedd ar ôl yr ateb i Beca Brown. Efallai nad ydi’r adeiladau mae Anduril yn eu defnyddio yn rhai gafodd eu hariannu drwy’r prosiect Ewropeaidd. Efallai bod pob un o’r trefniadau presennol yn gwbl gyson â phob cytundeb sydd mewn grym.

Ond mae’n bosib hefyd bod yr atebion i’r cwestiynau hyn yn codi cwestiynau llawer mwy difrifol.

A dyna pam mae angen yr atebion.

Oherwydd dydi’r cwestiwn bellach ddim jest pam mae gweithgarwch milwrol yn digwydd yn Llanbedr?

Mae’r cwestiynau rŵan yn fwy penodol:

Pryd y penderfynwyd ar y newid? Pwy oedd yn gwybod amdano? Oedd y cyhoedd a Chyngor Gwynedd yn cael y darlun llawn? Ac ydi’r hyn sy’n digwydd heddiw yn gyson â’r cytundebau gafodd eu gwneud pan fuddsoddwyd miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus yn y safle?

Dyna’r cwestiynau sydd angen eu hateb rŵan.