Saturday, January 08, 2011

Pa gyfundrefnau addysg sydd orau am 'greu' siaradwyr Cymraeg?

Mae'n un o nodweddion rhyfedd (am wn i) rhannau o'r Gogledd ein bod yn tueddu i gysylltu hunaniaeth Gymreig a'r iaith Gymraeg yn agos iawn. Yn wir, pan oeddwn i'n blentyn mewn pentref yn Arfon roeddem (fel plant o leiaf) yn cysylltu hunaniaeth a iaith yn llwyr - Cymro oedd rhywun oedd yn siarad Cymraeg, Sais oedd rhywun na fedrai ond siarad Saesneg. Roedd hyn ar un olwg yn ddigon naturiol ar y pryd - go brin ein bod yn adnabod unrhyw bobl nad oeddynt yn siarad Cymraeg nad oeddynt yn Gymry. Doedd o ddim wedi gwawrio ar lawer ohonom bod llawer o bobl, hyd yn oed ym Mangor (ychydig filltiroedd i ffwrdd), nad oeddynt yn defnyddio'r Gymraeg oedd yn ystyried eu hunain yn Gymry.

Ta waeth, mae peth o'r cymhlethdod yma sy'n perthyn i ni fel Gogleddwyr yn codi ei ben yn y drafodaeth ynglyn a'r blogiad isod. Ymhellach mae Alwyn (a Dylan) yn cyflwyno dadl y dylai Gwynedd symud o'r drefn bresenol o edrych ar y rhan fwyaf o ysgolion cynradd fel rhai 'naturiol Gymraeg', a dechrau creu ysgolion penodedig Gymraeg fel y gwneir mewn siroedd eraill. Mae trefn Mon a (a 'dwi'n meddwl un Ceredigion hefyd - 'dwi ddim mor gyfarwydd a'r fan honno) yn debyg i un Gwynedd.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn - 'dwi'n rhyw gydymdeimlo ar un olwg efo Alwyn - heb wybod yn iawn 'dwi'n rhyw amau ei fod o wedi bod mewn sefyllfa lle'r oedd ei blant yn cael eu hunain mewn lleiafrif bach o Gymry Cymraeg mewn rhyw ysgol neu'i gilydd yn Nyffryn Conwy. Mi fyddwn i'n anghyfforddus efo sefyllfa felly. Ond 'dwi ddim yn cytuno y dylid mynd i'r cyfeiriad hwn - mi egluraf pam erbyn diwedd y blogiad.

Cyn gwneud hynny 'dwi am fynd ati i edrych ar ffigyrau'r Cynulliad ynglyn a rhuglder ieithyddol plant. Mi gychwynwn ni efo'r ffigyrau tros Gymru.


Sector Cynradd



Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg
Cymru - 2009/10 7.6 5.4 24.0 62.9
Cymru – 2008/09 7.5 5.2 23.3 64.0
Cymru – 2007/08 7.7 4.9 23.5 63.9
Cymru – 2006/07 7.6 5.0 23.9 63.5
Cymru – 2005/06 8.6 4.2 23.1 64.1


Dau bwynt bach ynglyn a'r rhain - rhugl ond ddim yn siarad Cymraeg adref ydi'r ail golofn wrth gwrs - ac mae'n syndod nad oes yna fwy o wahaniaeth rhwng y ffigyrau cynradd ac uwchradd ag ystyried yr holl addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael bellach. Mi fyddai dyn yn disgwyl gweld gwahaniaeth mawr rhwng ffigyrau plant yn dair a phedair oed a'r ffigyrau unarddeg oed (a dyna beth ydi'r uchod yn bennaf).

Yn ail mae'n bwysig cydnabod bod yna gynnydd graddol yn y nifer o blant sy'n siarad yr iaith yn rhugl, a bod yna leihad graddol yn y ganran na all siarad y Gymraeg o gwbl.

Sector Uwchradd



Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg
Cymru - 2009 2010 8.8 6.9 37.4 46.8
Cymru – 2008/09 8.7 6.6 36.5 48.2
Cymru – 2007/08 8.7 6.4 34.8 50.1
Cymru – 2006/07 8.6 6.8 30.2 54.4
Cymru – 2005/06 8.8 5.9 27.5 57.8


Y ffigyrau nesaf ydi'r rhai sy'n cymharu gallu ieithyddol plant mewn gwahanol awdurdodau lleol. Mae'r amrediad yn drawiadol - ac mae'n adlewyrchu cymhlethdod Cymru o ran iaith.

Yn ol Awdurdod Lleol - Cynradd

Awdurdod Lleol
Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg






Ynys Môn
36.7 6.4 39.4 17.5
Gwynedd
57.9 7.5 23.4 11.2
Conwy
11.9 1.3 24.3 62.5
Sir Ddinbych
9.9 5.3 33.0 51.8
Sir y Fflint
1.2 2.3 26.2 70.3
Wrecsam
1.7 3.6 25.1 69.5
Powys
6.0 3.8 59.0 31.3
Ceredigion
27.9 6.2 41.1 24.9
Sir Benfro
5.4 5.5 16.4 72.7
Sir Gaerfyrddin
21.3 12.9 24.5 41.4
Abertawe
2.5 3.8 9.2 84.5
Castell-nedd Port Talbot 4.6 7.5 10.0 77.9
Pen-y-bont ar Ogwr 1.2 4.3 9.7 84.8
Bro Morgannwg 3.2 5.4 5.8 85.5
Rhondda Cynon Taf 4.9 7.3 14.7 73.0
Merthyr Tudful
0.8 7.9 7.1 84.1
Caerffili
1.3 9.6 36.2 52.9
Blaenau Gwent
0.3 1.5 36.1 62.1
Tor-faen
0.1 3.5 44.9 51.6
Sir Fynwy
1.3 2.1 71.3 25.3
Casnewydd
0.2 1.9 41.1 56.8
Caerdydd
3.5 4.6 6.6 85.3
Cymru
7.6 5.4 24.0 62.9


Yn ol Awdurdod Lleol - Uwchradd

Awdurdod Lleol
Adref Rhugl Peth Cymraeg Dim Cymraeg






Ynys Môn
41.4 12.9 42.6 3.1
Gwynedd
58.6 10.7 25.5 5.1
Conwy
10.4 2.7 60.9 26.0
Sir Ddinbych
12.7 5.6 49.2 32.5
Sir y Fflint
2.5 3.3 40.0 54.2
Wrecsam
4.2 5.2 23.8 66.8
Powys
6.8 4.9 62.0 26.3
Ceredigion
37.2 18.6 33.9 10.2
Sir Benfro
8.1 7.0 33.1 51.8
Sir Gaerfyrddin
25.3 10.6 26.4 37.7
Abertawe
3.3 6.0 30.6 60.1
Castell-nedd Port Talbot 6.2 5.5 30.4 57.9
Pen-y-bont ar Ogwr 1.1 2.8 23.7 72.3
Bro Morgannwg 2.0 6.6 40.8 50.6
Rhondda Cynon Taf 4.1 15.7 8.5 71.8
Merthyr Tudful
0.2 0.2 40.6 59.1
Caerffili
0.4 9.7 63.8 26.1
Blaenau Gwent
0.1 0.2 75.2 24.5
Tor-faen
1.7 9.6 67.5 21.2
Sir Fynwy
0.1 0.2 92.0 7.7
Casnewydd
0.1 0.1 50.1 49.7
Caerdydd
4.1 5.8 11.3 78.8
Cymru
8.8 6.9 37.4 46.8

Rwan mae yna ambell i beth yn y tablau nad ydynt yn taro deuddeg. Er enghraifft 'dwi'n gwrthod credu bod pump gwaith cymaint o blant cwbl ddi Gymraeg yng Nghaerfyrddin na sydd ym Mynwy. Yr unig eglurhad y gallaf feddwl amdano am y nonsens yma ydi bod pobl mewn ardaloedd lle na chlywir y Gymraeg byth, byth, mae rhieni yn meddwl bod eu plant yn gwneud yn eithaf da os ydynt yn gallu dweud rwy'n hoffi coffi, neu bore da.

Mae yna nifer o bethau eraill i edrych arnynt, ac efallai y byddaf yn gwneud hynny maes o law. Ond i bwrpas y ddadl yma yr hyn sy'n ddiddorol ydi'r ail golofn - yr un sy'n rhoi'r ganran sy'n siarad y Gymraeg yn rhugl, ond sydd ddim yn ei siarad adref. Dyma'r golofn mwyaf arwyddocaol o ran effeithiolrwydd dysgu Cymraeg i blant o gefndiroedd di Gymraeg. Mae'r ffigyrau uwchradd yn bwysicach na'r rhai cynradd yn hyn o beth.

Rwan mae'n amlwg o edrych ar y tabl bod ffigyrau Gwynedd, Mon a Cheredigion yn uchel - ond maent mewn gwirionedd yn uwch nag ydynt yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Oherwydd bod canrannau cymharol uchel o blant sy'n siarad y Gymraeg adref yn y siroedd hyn, mae yna lai o blant o gefndiroedd di Gymraeg i'w troi yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Os ydym yn creu tabl newydd i ddangos pa ganran o'r plant sydd ddim yn siarad y Gymraeg adref sydd yn ei siarad yn rhugl, mae'r ffigyrau yn drawiadol:

Sector Uwchradd

Awdurdod Lleol
Cefndir di Gymraeg ond rhugl.



Ynys Môn
22
Gwynedd
26
Conwy
3
Sir Ddinbych 7
Sir y Fflint
3
Wrecsam
5
Powys
5
Ceredigion
30
Sir Benfro
8
Sir Gaerfyrddin 14
Abertawe
6
Castell-nedd Port Talbot 6
Pen-y-bont ar Ogwr 3
Bro Morgannwg 7
Rhondda Cynon Taf 16
Merthyr Tudful 0
Caerffili
10
Blaenau Gwent 0
Tor-faen
10
Sir Fynwy
0
Casnewydd
0
Caerdydd
6
Cymru
8

Hynny ydi yr ardaloedd sydd yn trin y rhan fwyaf o ysgolion fel rhai 'naturiol Gymraeg' ydi'r rhai mwyaf effeithiol am gynhyrchu siaradwyr Cymraeg rhugl o blith y sawl nad ydynt yn siarad y Gymraeg adref. 'Dydi'r trefniadau yng Ngwynedd, Mon a Cheredigion ddim yn hollol unffurf wrth gwrs - mae yna ysgolion cynradd Cymraeg penodedig ym Mangor, Caergybi ac Aberystwyth. Heb fod a'r ffigyrau, mi fyddwn yn betio mai dyma'r rhannau o'r siroedd hynny sydd leiaf effeithiol am gynhyrchu siaradwyr Cymraeg rhugl.

Hynny ydi mae'n ymddangos i mi bod system sy'n trin mwyafrif llethol ein hysgolion cynradd fel rhai 'naturiol Gymraeg' yn fwy effeithiol am 'greu' Cymry Cymraeg nag ydi'r systemau eraill.

'Dwi'n gwybod bod yna newidyn arall pwysig - bod yna lawer o gymunedau naturiol Gymraeg yn y siroedd o dan sylw, a bod plant yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad o'u cwmpas y tu allan i'r ysgol.

Ond - a chydnabod hynny - mi fyddwn hefyd yn nodi y byddai'n gam mawr i symud o gyfundrefn sy'n ymddangos i fod yn un llwyddiannus i un sy'n ymddangos i fod yn llai llwyddiannus.


Data Cynulliad ydi'r cwbl o'r uchod, oni bai am y tabl olaf. Ffigyrau oll yn ganrannau.

ON 3.30 - 'Dwi newydd sylwi ar y blogiad hwn gan Alwyn, sy'n ymdrin a'r pwnc dan sylw.

8 comments:

Alwyn ap Huw said...

Dydy dy gymariaethau dim yn un deg oherwydd nad ydwyt yn defnyddio'r ffigyrau i gymharu tebyg at debyg. Yn ôl polisi Gwynedd mae pob ysgol yn y sir yn ysgol Gymraeg, i gymharu llwyddiant agwedd Gwynedd tuag at addysg Gymraeg dylid cymharu canlyniadau Ysgolion "Cymraeg" honedig, Dolgellau neu Tywyn neu Gaernarfon a chanlyniadau Ysgolion Cymraeg yn Llanelwy neu Bontypridd neu Fro Gwaun. Yn ôl Wikipedia mae 95% o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd sy'n dod o gefndiroedd di-Gymraeg yn dyfod yn rhugl - yn ôl dy ffigyrau di 26% pitw o'r sawl sy'n mynd i ysgolion "Cymraeg" Gwynedd sydd yn dod yn rhugl.

Cai Larsen said...

Nid fy ffigyrau i ydyn nhw Alwyn - rhai mae rhieni yn eu darparu yn bennaf ar gyfer plant 3 a 4 oed a rhai 11 oed.

Wyt ti o ddifri o dan yr argraff bod system addysg Sir Ddinbych yn cynhyrchu mwy o ddysgwyr rhugl nag un Gwynedd? - go iawn?

Ti'n enwi tair tref - yn un o'r trefi hynny mae mwy nag 80% o blant yn siarad Cymraeg adref. Wyt ti eisiau dechrau creu ysgolion 'Seisnig' mewn ardaloedd lle nad oes yna ddigon o blant o gefndiroedd Seisnig i'w llenwi nhw?

Alwyn ap Huw said...

Na, mae'n gwbl amlwg nad ydwyf yn honni bod Dinbych yn creu mwy o siaradwyr Cymraeg nag yw Gwynedd!

Yr hyn yr wyf yn ddweud yw bod yr ysgolion sydd yn honni eu bod yn darparu addysg Gymraeg yn Ninbych yn cael gwell llwyddiant na'r ysgolion sydd yn honni eu bod yn cynnig addysg Gymraeg yng Ngwynedd.

Y rheswm syml am y gwahaniaeth rhwng eu llwyddiannau yw bod y cyfan o Ysgolion honedig Gymraeg Dinbych yn darparu addysg Gymraeg go iawn, tra fo canran (nid yn y cyfan) o ysgolion honedig Gymraeg Gwynedd yn methu darparu addysg Gymraeg go iawn.

Nid ydwyf wedi awgrymu bod angen "dau neu dri" o ysgolion Cymraeg yng Ngwynedd, fel sydd yn Ninbych, ond bod angen dau neu dri o ysgolion sy' ddim yn ysgolion penodedig Gymraeg a dau neu dri sydd efo ffrydiau Cymraeg er mwyn sicrhau nad oes blentyn o Wynedd yn cael ei hamddifadu o addysg Gymraeg oherwydd bod ryw ysgol ar lan y môr yn ffug honni ei fod yn Ysgol Gymraeg.

Yr wyt wedi crybwyll fy mhrofiad personol o orfod danfon fy mhlant i ysgol "naturiol Gymraeg" yng Ngorllewin Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd i bob pwrpas yn ysgol uniaith Saesneg. Diolch i Gynghorwyr y Blaid yng Nghonwy, mae statws yr ysgol leol wedi newid i un sydd â ffrwd Cymraeg bellach. Yn rhyfedd iawn mae traean o'r rhieni'r ysgol bellach yn mynnu addysg Gymraeg i'w plant yn y ffrwd Cymraeg. Mae'r ysgol wedi troi o un a oedd yn troi Cymru Uniaith i'r Saesneg i un sy'n llwyddo troi plant o gartrefi di Gymraeg yn rhugl yn y Gymraeg, oherwydd iddi gael ei orfodi i fod yn onest am ei allu i ddarparu addysg Gymraeg go iawn.

O dderbyn bod y ddau ohonom am weld yr hen iaith yn parhau, be sy'n ddrwg am ofyn i Gyngor Gwynedd ail edrych ar rai o'i hysgolion ffug Gymraeg er mwyn canfod os oes modd rhagorach i ddarparu addysg Gymraeg, a chynyddu'r llwyddiant o 26% i 52% neu ragor? Gwell syniad nag amddiffyn y system bresennol efo pen wystrys, tybiwn i!

Alwyn ap Huw said...
This comment has been removed by the author.
Rhys Wynne said...

Alwyn, mae erthygl Wikipedia am Glan Clwyd yn dweud:

A government inspection reported that although 70% students are from homes where English is the main or only language spoken, 95% of the students spoke Welsh as well as a native speaker.

Mae'r ffigwr o 95% yn cyfeirio at yr holl ddisgyblion nid dim ond y rhai o gefndir di-Gymraeg, ond mae'n dal yn syndod yr un fath!

Ioan said...

OK, joban amser cinio! Beth am drio rhoi marc allan o ddeg i bob sir!

O edrych ar y plant o gartrefi di Gymraeg, mi nai rhoi dau farc i'r rhai rhugl, ac un i'r rhai sy'n siarag Cymraeg ond ddim yn rhygl:


Isle of Anglesey 1.17
Gwynedd 1.14
Ceredigion 1.13
Monmouthshire 0.93
Torfaen 0.88
Caerphilly 0.84
Powys 0.77
Blaenau Gwent 0.76
Conwy 0.74
Denbighshire 0.69
Carmarthenshire 0.64
Vale of Glamorgan 0.55
Pembrokeshire 0.51
Newport 0.50
Flintshire 0.48
Neath Port Talbot 0.44
Swansea 0.44
Rhondda Cynon Taf 0.41
Merthyr Tydfil 0.41
Wrexham 0.36
Bridgend 0.30
Cardiff 0.24

A rwan newid nhw i farciau allan o ddeg:


Isle of Anglesey 10
Gwynedd 10
Ceredigion 10
Monmouthshire 7
Torfaen 7
Caerphilly 6
Powys 6
Blaenau Gwent 6
Conwy 5
Denbighshire 5
Carmarthenshire 4
Vale of Glamorgan 3
Pembrokeshire 3
Newport 3
Flintshire 3
Neath Port Talbot 2
Swansea 2
Rhondda Cynon Taf 2
Merthyr Tydfil 2
Wrexham 1
Bridgend 1
Cardiff 0

Ioan said...

Ambell i bwynt bach:

1) Dwi'n amau bysa iaith
Gymraeg plant Abersoch yn cymharu'n dda iawn efo ardaloedd 'saesneg' Nant Conwy.

2) Mi fasa'n haws cymharu Ceredigion efo Caerfyrddin - dwy sir efo tua 50% or boblogaeth yn medru siarad Cymraeg. Chdi 1 - Alwyn 0!

3) Sir Fynwy - ar ol deg blwyddyn o wersi Cymraeg, mi faswn ni wedi gobeithio bod 90% o blant pob sir yng Nghymru yn gallu dweud bod nhw'n gallu siarad Cymraeg ond ddim yn rhygl. Y cwestiwn ddylet ti ofyn ydi pam bod canrannau'r siroedd eraill mor isel. Pwynt ola am Sir Fynwy, cofia bod y plant rhygl yn cael eu addysg yn Torfaen.

Cai Larsen said...

Diolch Ioan - 'dwi'n cytuno efo pob dim ag eithrio'r sylwadau am ruglder honedig plant Sir Fynwy.

Alwyn - mae gen i ofn nad ydi'r holl ddamcaniaeth yn dal dwr.

Ar hyn o bryd mae mwyafrif llethol ysgolion cynradd Gwynedd yn ysgolion 'Cymraeg' i'r graddau eu bod yn gwneud y rhan fwyaf o'u haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n ymddangos dy fod ti eisiau newid y drefn hynod Gymreig honno i rhyw fath o drefn arall tra'n dadlau y byddai byddai hynny'n cynyddu rhuglder plant yn y Gymraeg. Mae'n anodd iawn dilyn y rhesymeg.

Petaet yn dynodi rhai ysgolion yn rhai 'Cymraeg' a rhai yn 'Saesneg' fyddai gen ti ddim ffordd o sicrhau mai Cymry Cymraeg fyddai'n mynd i dy sefydliadau Seisnig. Mi fyddai lleiafrif sylweddol yn mynd i'r ysgol agosaf - beth bynnag ei chyfrwng a'i statws swyddogol.

Mae gen i fwy o gydymdeimlad efo rhan o dy ddadl am ysgolion uwchradd - mae'n ymddangos yn fympwyol a di angen i rhai sefydliadau mewn ardaloedd Cymreig iawn i ddarparu rhai o'u cyrsiau, neu rannau o'u cyrsiau, yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Ond nid yw cyrsiau Cymraeg uwchradd yn gwneud fawr ddim i wneud mwy o blant yn rhugl. Os ydi plentyn am fod yn rhugl, bydd wedi meistrioli'r iaith erbyn ei fod yn unarddeg gan amlaf.

Mae ysgolion penodedig Gymraeg yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg ymysg plant sydd a digon o ddiddordeb i fynd i ysgol Gymraeg. Mae'r system yng Ngwynedd yn gwneud mwy na hynny.

Un pwynt bach arall - sydd yn rhannol gysylltiedig. Rhyw ddegawd yn ol roeddwn yn gwneud ychydig waith i'r Cynulliad oedd yn mynd a fi o ysgol i ysgol. 'Dwi'n cofio'n dda eistedd am ugain munud ar goridyr un ysgol Gymraeg benodedig yn y Gogledd (a gaiff aros yn ddi enw) a chael dwsinau o blant yn cerdded heibio. Ni chlywais air o Gymraeg pan oeddynt yn siarad a'i gilydd - er eu bod yn hollol rhugl wrth siarad ag oedolion.