Tuesday, January 25, 2011

Cyngor Mon a Chyngor Gwynedd i uno?

Mae Betsan yn awgrymu ar ei blog bod newidiadau posibl i'r Mesur Llywodraeth Leol sy'n gwneud ei ffordd trwy'r Cynulliad ar hyn o bryd, yn awgrymu bod cynlluniau ar y gweill i orfodi Cyngor Mon i uno efo Cyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Mon wrth gwrs yn ddihareb oherwydd methiant llwyr rhai o'i gynghorwyr i gydweithredu a chyd dynnu efo'i gilydd ac efo swyddogion. Tra bod Cyngor Gwynedd efo enw llawer gwell yn hyn o beth, mae'r cyngor hwnnw yn llai effeithiol am gyd weithio'n briodol ers ethol nifer o gynghorwyr Llais Gwynedd yn 2008. Gallai ychwanegu rhai o gymeriadau cwbl anhydrin Cyngor Mon i'r pair greu cymysgedd eithaf ffrwydrol mae gen i ofn.

6 comments:

Iolo Morganwg said...

Y diawlad! Da chi ddim isio ni groesi'r bont yn nag ydach!

Cai Larsen said...

Ym - mi fyddai'n fendith cymysg.

Simon Brooks said...

Y peth hanfodol ydi fod unrhyw gyngor newydd yn gweinyddu'n fewnol trwy'r gymraeg. Oes sicrwydd o hynny?

Cai Larsen said...

Dyddiau cynnar ydi'r rhain wrth gwrs - a does dim sicrwydd y bydd dim yn digwydd.

Mater i'r cyngor newydd fyddai'r iaith weinyddol mae'n debyg gen i.

Mi fyddai yna fwy o gynghorwyr o Wynedd, ac mae cytundeb traws bleidiol ar y cyngor hwnnw ar hyn o bryd ynglyn a lle'r iaith yn y Cyngor. Byddwn yn disgwyl i nifer dda o gynghorwyr Mon gefnogi'r safbwynt honno hefyd.

Anonymous said...

Y peth hanfodol ydi fod unrhyw gyngor newydd yn gweinyddu'n fewnol trwy'r gymraeg. Oes sicrwydd o hynny?
- er dwim yn meddwl mai hwn yw'r prif beth!.

Mawr siom ydyw os yw hyn yn wir. A mawr siom ydio bod AC Ynys Mon heb neud DIM am y peth, ond styrio y gwleidyddion i fyny.

Ta waeth, dwin siwr (fel y tro diwethaf) fydd yr Ynys unwaith eto yn annibynol mewn ryw ddegawd!!

Cai Larsen said...

Go brin - cyngor bach iawn ydi o beth bynnag o ran poblogaeth. Os caiff ei ail uno efo Gwynedd, fydd yna ddim cyngor annibynnol arall ar yr ynys yn y dyfodol rhagweladwy.