
Record a chwe mil o 'ddefnyddwyr unigryw' er nad ydw i wedi gwneud fawr o ymdrech y mis hwn oherwydd fy mod yn treulio llawer o fy amser hamdden yn canfasio.
Pwy ddywedodd bod etholiad yn boen yn y pen ol?
Os ydi’r rhifyn cyfredol o Golwg yn gywir, ymddengys nad oedd y sibrydion y cyfeirwyd atynt ar y blog hwn yn ddiweddar ynglyn a bwriad Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd yn wir. Mae Louise yn parhau i fod yn aelod o Lais Gwynedd. Mae hefyd yn parhau i fod yn ymgeisydd seneddol ym Meirion Dwyfor, ond ddim ar ran Llais Gwynedd.
Heb fod yn hollol siwr, 'dwi'n meddwl fy mod yn deall pethau. Ceisiodd Louise sefyll yn enw Llais Gwynedd, ond nid oedd y grwp hwnnw’n fodlon gadael iddi sefyll. Ar y cychwyn ildiodd (o dan gryn brotest) i ewyllys y grwp cyn newid ei meddwl a sefyll yn annibynnol. Er iddi weithredu’n groes i ddymuniad y grwp mae’n dal yn aelod ohono, ac mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr Llais Gwynedd yn gefnogol i’w hymgeisyddiaeth, - er bod cnewllyn ohonynt yn boenus oherwydd ei diffyg rhuglder yn y Gymraeg. Yn ol Louise hithau, bai ei mam ydi’r diffyg rhuglder nid ei bai hi. Mae Louise hefyd yn nodi am rhyw reswm ei bod yn berson blin, ac mai camgymeriad fyddai cymryd person felly yn ysgafn. Ymddengys ei bod hefyd yn bleidiol i ‘doiledau, ysgolion, swyddfeydd post a bysiau’. Dydi hi ddim yn dweud os ydi ei blaenoriaethau wedi eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd iddi.
Sesiynnau 2008-09 a Sesiynnau 2009-10
Sesiynnau: 54
Hywel Williams: 41
Sian James: 28
Albert Owen: 24
Nia Griffith: 19
Mark Pritchard: 13
Martyn Jones: 12
David Davies: 7
Llongyfarchiadau i David Davies am lwyddo i bresenoli ei hun mewn saith o 54 cyfarfod y Pwyllgor Dethol Tros Faterion Cymreig. Fel Tori 'dydi materion Cymreig ddim o llawer o ddiddordeb iddo wrth gwrs - ag eithrio pan mae'n ceisio atal datblygiad democratiaeth yng Nghymru.
Rydym eisoes wedi nodi nad ydi Martin Jones yn gwybod fawr ddim am faterion Cymreig, er ei fod yn gyn gadeirydd o'r pwyllgor, felly nid yw'n fawr o syndod nad yw yntau'n trafferthu i fynychu'r pwyllgor chwaith. Tori sy'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr ydi Mark Pritchard, felly fydd yna neb yn syrthio oddi ar ei sdol o ddeall na fydd o'n tywyllu'r drws yn rhy aml.
Mwy anisgwyl ydi'r ffaith bod Nia Griffith ac Albert Owen yn methu mwy na hanner y sesiynnau - wedi'r cwbl mae'r ddau yn rhoi'r argraff bod ganddynt rhyw fath o ddiddordeb mewn materion Cymreig.
Efallai bod ganddynt rhywbeth pwysicach i'w wneud na gwastraffu amser yn ymwneud a'r hen bethau plwyfol 'na sydd mor bwysig i'w hetholwyr.
Dau lythyr a geir uchod sydd wedi eu bwriadu nid ar eich cyfer chi, ond ar gyfer aelodau Plaid Lafur Gorllewin Caerdydd. Mae’r naill wedi ei ‘sgwennu gan aelod seneddol yr etholaeth, Kevin Brennan a’r llall gan ei asiant, David Costa. Mae’r ddau lythyr yn eithaf dadlennol.
Mae, wrth gwrs ychydig yn ddigri nodi bod Kevin yn defnyddio termenoleg Hen Lafur (Dear Comerade, socialist values ac ati) wrth anerch y ffyddloniaid, tra bod gohebiaeth ar gyfer pawb yn cadw’n sobor o glir oddi wrth y fath dermenoleg. Mae hefyd yn eglur bod Kevin yn ddoeth yn ei ddewis o asiant - mae’n amlwg bod yr ymgyrch wedi ei chynllunio’n fanwl iawn.
Yn fwy diddorol, fodd bynnaf, ydi’r ymdeimlad o banic sy’n amlygu ei hun o ddarllen y ddau lythyr. Mae Kevin yn cychwyn ei lythyr efo’r frawddeg – We face the fight of our life in the General Election that has now been called. O ddarllen ymlaen mae’n amlwg mai cyfeirio at etholaeth Gorllewin Caerdydd mae Kevin, ac nid y DU yn ei chyfanrwydd.
Mae’n rhaid bod calon Kevin yn suddo at ei sodlau pan mae’n ystyried yr holl ganfasio mae David wedi ei drefnu ar ei gyfer tros yr wythnosau nesaf – tri sesiwn dyddiol yn ystod yr wythnos a dau ar y penwythnosau. Os ydi fy syms i yn gywir, golyga hyn y bydd Kevin allan wyth deg dau o weithiau tros y mis nesaf. Un ffordd o golli pwysau am wn i.
Ac nid dyna’r unig ganfasio chwaith; mae David am i pob cangen fynd allan i ganfasio bedair gwaith yr wythnos. Mae gan Lafur wyth cangen yng Ngorllewin Caerdydd, felly dyna ni dri deg dau sesiwn arall – 114 sesiwn o ganfasio i gyd mewn cyfnod o fis. Ac nid dyna’r cwbl – mae Dave hefyd eisiau i bobl fynd i beth sy’n weddill o Transport House i ffonio etholwyr anffodus Gorllewin Caerdydd.. Mae’r hogiau a’r genod am fod wrthi o chwech o’r gloch ymlaen pob nos ar y ffonau ac o ddeg o’r gloch y bore pob dydd Sadwrn. Ymddengys bod Dave hefyd yn bygwth anfon pobl i fynd o gwmpas yn crefu ar bleidleiswyr Llafur i fynd allan i fotio am ddeg diwrnod cyfan – o Ebrill 27 hyd at ddiwrnod y bleidlais.
Rwan, mi fyddai dyn wedi rhyw ddisgwyl hefyd y byddai mwyafrif sylweddol Llafur yn sicrhau y gallai Kevin gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol. Mae’n demtasiwn hefyd i nodi na fyddai’n rhaid iddo daflu ei hun i’r holl weithgaredd lloerig yma petai wedi bod ychydig yn fwy gweladwy yn yr etholaeth tros y blynyddoedd diwethaf. Mae Kevin yn gymeriad llawer llai amlwg yng ngorllewin y ddinas nag oedd y ddau aelod seneddol Llafur a ddaeth o’i flaen. Ond mae hynny braidd yn arwynebol. Adlewyrchiad ydi’r sefyllfa o’r graddau mae Llafur wedi colli eu cefnogaeth yn ninasoedd mawr y De yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r cwymp rhyfeddol yma mewn cefnogaeth i’w weld ar ei amlycaf yng nghanlyniadau’r etholiadau lleol diweddaraf, ond mae canlyniadau etholiadau Ewrop a’r Cynulliad yn tystio i’r chwalfa hefyd. Mae’n amlwg o lythyr David nad ydi Llafur yn canolbwyntio ar ennill pleidleiswyr newydd – mae holl ffocws pethau ar berswadio pleidleiswyr traddodiadol i fynd allan i bleidleisio. Gellir ddweud mai strategaeth o grefu ydi un Dave a Kevin.
Problem fawr Kevin ydi bod Llafur yng Nghaerdydd wedi gelyniaethu llawer o’u cefnogwyr naturiol (tybed os bydd Russell Goodway yn cymryd rhan yn yr holl ganfasio?). Eglura hyn pam bod yr holl ganfasio yn cychwyn ar strydoedd proletaraidd y stadau sy'n gyfochrog a Cowbridge Road West – dyma’r bobl sydd wedi bod fwyaf selog i Lafur, a dyma’r bobl mae Llafur wedi eu hanwybyddu. ‘Dwi’n rhyw dybio y bydd yr holl weithgaredd lloerig a'r holl grefu yn ddigon i gadw’r sedd i Lafur y tro hwn – ond fyddwn i ddim yn rhoi ffadan goch ar ragolygon Llafur yn etholiadau’r cynulliad y flwyddyn nesaf.
ON – mi fyddwn yn awgrymu eich bod yn cadw’n glir o’r Janata Palace (yr hen Far Pavilions a'r Royal Curry cyn hynny) am fis rhag i chi orfod gwrando ar sesiynnau briffio dolefus Dave. Ceir digon o fwytai Indiaidd blasus ar ochr y dref i