Mi fydd yna lawer o bobl eraill yn ‘sgwennu am ddigwyddiadau heddiw, felly mi edrychwn ar yr etholiad cyffredinol o ongl ychydig yn wahanol.
Yn wahanol i’r pleidiau unoliaethol nid yr etholiad yma ydi’r un bwysicaf i Blaid Cymru – etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf fydd yr un allweddol i ni – yr etholiad fydd yn penderfynu pwy fydd yn arwain llywodraeth Cymru am bedair blynedd. Arwain llywodraeth Cymru o 2011 ddylai fod yn brif darged i’r Blaid. Llywodraeth sy’n cael ei harwain gan genedlaetholwyr fydd y ffordd mwyaf effeithiol o amddiffyn y wlad yn ystod y blynyddoedd anodd sydd i ddod.
Byddai bod mewn sefyllfa i fargeinio mewn senedd grog hefyd yn bwysig iawn, iawn wrth gwrs - ond hyd yn oed os na fydd hynny'n bosibl mi fyddai llwyddiant yn gosod y cywair ar gyfer etholiadau 2011.. Felly mae’n bwysig bod y Blaid yn perfformio’n gryf fis nesaf. Dyma ddylai’r targedau fod yn fy marn bach i:
1) Perfformio’n gryf ym mhob un o’r seddi sy’n cael eu dal gan y Blaid ar lefel Cynulliad ar hyn o bryd – Ynys Mon, Arfon, Aberconwy, Meirion Dwyfor, Ceredigion, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr a Llanelli. Golyga hyn ennill neu ddod yn ail agos.
2) Perfformio’n gryf mewn amrediad o seddi eraill – Gorllewin Clwyd, y ddwy sedd Sir Benfro, Castell Nedd, Cwm Cynon, y Rhondda, Pontypridd, Caerffili, Islwyn a Gorllewin Caerdydd. Golyga hyn ddod yn ail, neu’n drydydd cryf.
3) Cael canran uwch o’r bleidlais tros y wlad nag a gafwyd erioed o’r blaen mewn etholiad cyffredinol. Golyga hyn fod yr ochr iawn i 15%.
Ydi’r targedau uchod yn heriol? Ydynt wrth gwrs – ond maent hefyd yn rhai sy’n bosibl i’w gwireddu. Mae gan y Blaid pob dim i ymladd trosto - yn 2010 1 2011.
5 comments:
Mae isio ychwanegu Aberconwy i rhif 1 a byswn i'n ychwanegu De Clwyd i rhif 2.
Fel arall... amdani!
Targed arall ddylai Plaid Cymru anelu amdano ydi cyrraedd y trothwy 200,000 o bleidleisiau am y tro cyntaf ar y lefel hon. Cwbl gyrraeddadwy - gallai fod yn lifeline os nad ydi pethau'n mynd yn wych yn yr etholaethau.
O ran yr etholaethau, dwi'm yn meddwl bod 'dod yn ail cryf' yn ddigon yng Ngheredigion nac Ynys Mon (er y bydd Ynys Mon yn anodd iawn ei hennill) - fel yn 2005, rhaid i Blaid Cymru wirioneddol ennill yma i hawlio llwyddiant yn yr etholiad.
Dylid adio Aberconwy i'r seddi yn rhestr (1).
Ac Aberconwy, siwr. Peidied a gadael Phil allan!!!
Dwy sedd ydy "Castell Nedd Port Talbot" wrth gwrs - Castell Nedd ac Aberafan. Castell Nedd fydd y tir mwyaf ffrwythlon i Blaid Cymru
Sori gyfeillion - dylai aberconwy fod ar y rhestr wrth gwrs - ac mae dwy sedd yng Nghastell Nedd Port talbot, sef Castell Nedd ac Aberafan.
'Dwi i ffwrdd o gartref ac mae fy mynediad i'r We yn gyfyng - felly 'dwi'n gwneud pob dim ar frys gwyllt mae gen i ofn!
Post a Comment