Thursday, April 01, 2010

A ydych chi, fel y Lib Dems, yn gwrthod Satan a'i holl weithredoedd?

Mae'r ymdrech fach yma gan Lib Dems (pwy arall?) Canol Caerdydd yn ddigon diddorol. Yr hyn sy'n digwydd yma ydi propoganda etholiadol wedi ei wisgo fel holiadur.




Fel llawer o ddeunydd y Lib Dems mae wedi ei anelu'n benodol at un grwp o bobl - yn yr achos yma y myfyrwyr hynny sy'n byw yn nhai tamp Cathays yng nghanol y llygod, y pecynnau bwyd prydau cyflym sy'n chwythu trwy'r strydoedd, a sydd o bryd i'w gilydd i'w gweld yn baglu yn y tyllau enfawr sydd yn y lonydd ar eu ffordd adref o'r Gassy Jack's, Koko Gorillaz, y Pen & Wig a The End.

'Dydi myfyrwyr ddim yn hoff o ynni niwclear, tai gwael, landlordiaid barus, ffioedd myfyrwyr, newid hinsawdd, ail gylchu, yr asiantaeth dosbarthu benthygiadau na thoriadau mewn gwariant ar addysg bellach. 'Dydi'r Lib Dems ddim angen anfon holiadur i bawb i ddarganfod hyn - mae'n rhywbeth mae'r cwn ar balmentydd bler Cathays yn ymwybodol ohono.

Yr hyn sy'n digwydd wrth gwrs ydi bod geiriad yr 'holiadur' wedi ei roi at ei gilydd mewn ffordd sy'n awgrymu'n gryf bod y Lib Dems hefyd yn casau'r holl eitemau ar y rhestr. Mae hefyd yn rhoi'r argraff i'r sawl sydd ddigon gwirion i'w lenwi eu bod mewn cytundeb efo'r Lib Dems ar pob dim - er mai amrediad bach o faterion (mae pawb bron yn Cathays yn gytunedig ynglyn a nhw) sy'n cael eu codi mewn gwirionedd.

Mae hyn yn eithaf soffistigedig - yn sicr o gymharu a'r nadu anifeilaidd, di ystyr sy'n dod o gyfeiriad Lib Dems Aberystwyth, ond twyll ydi'r ymarferiad i gyd yn y pen draw. Tystiolaeth bellach o ddirmyg y Lib Dems tuag at yr etholwyr.

1 comment:

Ifan Morgan Jones said...

"yn yr achos yma y myfyrwyr hynny sy'n byw yn nhai tamp Cathays yng nghanol y llygod, y pecynnau bwyd prydau cyflym sy'n chwythu trwy'r strydoedd, a sydd o bryd i'w gilydd i'w gweld yn baglu yn y tyllau enfawr sydd yn y lonydd ar eu ffordd adref o'r Gassy Jack's, Koko Gorillaz, y Pen & Wig a The End."

Gwarthus. Roedden i'n byw fel stwidant yn Cathays tan yn weddol ddiweddar (2005) - Jumping Jacks yw enw'r clwb nos a dim ond unwaith oedd rhaid i ni gael rywun draw i ddelio gyda llygod mewn tair mlynedd! A wnes i ddim pleidleisio Lib Dems yn yr etholiad chwaith.