Gobeithio nad ydi'r cyfieithiad o ddywediad diweddar Saesneg yn rhy hyll ar y glust, ond dyna'r dywediad ddaeth i fy mhen i neithiwr wrth wrando ar Guto Bebb, ymgeisydd y Toriaid yn Aberconwy. yn amddiffyn y ffaith bod gwybodaeth - ahem - camarweiniol yn cael ei ddosbarthu gan ei ymgyrch.
Os oeddwn i'n deall yn iawn mae Guto yn y cyfweliad efo'r Bib (yr un Cymraeg a'r un Saesneg) yn mynegi siom - nid siom yn ei ymgyrch ei hun wrth gwrs, ond siom mewn sylw gan yr aelod aelod o'r cyhoedd, Gwen Gray a ddaeth a'r camarwain i sylw'r cyfryngau.
Mi fydd y senedd lwgr bresenol yn cael ei diddymu ddydd Llun, a bydd y lle'n cael ei garthu o'i aelodau seneddol gwaethaf. Mae hyn yn fendith i bawb. Ond mae'n werth nodi bod llawer o'r hyn sydd wedi arwain at ddifa hygrededd y lle tros y blynyddoedd diwethaf yn deillio, yn y pen draw, o draha a hyfdra ei haelodau a'u diffyg parch tuag at y cyhoedd. Mae'n fater o ofid felly i nodi bod y traha a'r diffyg parch tuag at y cyhoedd yn parhau ymhlith y sawl sydd eisiau cymryd lle'r hen do.
Mi fyddai wedi bod yn rheitiach o lawer i Guto ddiolch i Mrs Gray am dynnu ei sylw at y 'camgymeriad' yn hytrach na mynegi siom nad aeth i edrych ar wefan y Toriaid neu gael gair bach distaw efo swyddfa'r Toriaid yn Aberconwy.
8 comments:
Roedd ymateb Guto Bebb yn gwbl, gwbl warthus.
Yn ei amdduffyniad ar newyddion BBC wales neithiwr, meddai rhywbeth i'r perwyl hwn: "Rwy'n ymddiheurio am y ffaith ein bod ni wedi methu cynnwys un gair yn ein pamffled".
Yr awgrym oedd fod y ddyness a gwynodd yn blentynaidd a 'petty' am roi y fath gwyn, gan mai, wedi'r cyfan, dim ond UN gair bach ydoedd.
Ond roedd yr un gair bach yno yn newid holl fwrdwn y polisi. Neges y daflen oedd fod busnesau bach yn mynd i beidio a gorfod talu yswiriant gwladol ar y 10 staff cyntaf. Y polisi Ceidwadol yw nad ydyn nhw am beidio a thalu YG ar y 10 staff yma am flwyddyn yn unig. Mae'n nhw'n ddwy polisi cwbl wahanol.
Os mai dyma fydd safon yr AS Ceidwadol dros Gonwy, yna mae'n amlwg nad yw arferion pwdr y Senedd blaenorol wedi cael eu dysgu o gwbl. Llai o gelwydd os gwelwch yn dda Mistar bebb.
c'mon hogia, be da chi ddisgwyl gan bebb! Os neith o ddim ennill yn yr etholiad yma ( a ma siwr neith o ddim!) pa blaid eith o at wedyn? BNP, UKIP?
Pretty! Thіѕ has bеen an extremely wonԁerful
article. Thank you for providing theѕe dеtaіls.
Also visit my homepage : connect.webwaponline.com
Yοur mode of ԁeѕcгibіng
еνerуthing in this post іs reallу pleаsant,
all be able to effortlеsѕly undегstand іt, Thanks a lot.
Here is my ωebsitе; gowebpage
We ωould suggest stoρping by the helpful wеbsite for additiοnal data.
Alsο vіsit my web pаgе; more information
Τhe ѕixtу day comρlimentary trіal gіvе is a fantastiс ѕeleсtion, in the case of the flex waistband.
mу webѕite :: my website
Also see my webpage > http://Www.Vidaplenaparatodos.Com/
Results wіll almost certаinly be shown if utilizеd 30 minutеs every single day.
My ωebsite :: Wiki.fastzep.scholtz.sk
I wаs suggestеd this wеb ѕite by my сοusin.
I'm not sure whether this post is written by him as no one else know such detailed about my problem. You are amazing! Thanks!
Here is my blog post :: Click The Next Website Page
Also see my page :: scenari-platform.org
Post a Comment