Thursday, April 22, 2010

Ymgeisyddiaeth Louise Hughes - eglurhad o fath.



Os ydi’r rhifyn cyfredol o Golwg yn gywir, ymddengys nad oedd y sibrydion y cyfeirwyd atynt ar y blog hwn yn ddiweddar ynglyn a bwriad Louise Hughes i ymddiswyddo o Lais Gwynedd yn wir. Mae Louise yn parhau i fod yn aelod o Lais Gwynedd. Mae hefyd yn parhau i fod yn ymgeisydd seneddol ym Meirion Dwyfor, ond ddim ar ran Llais Gwynedd.


Heb fod yn hollol siwr, 'dwi'n meddwl fy mod yn deall pethau. Ceisiodd Louise sefyll yn enw Llais Gwynedd, ond nid oedd y grwp hwnnw’n fodlon gadael iddi sefyll. Ar y cychwyn ildiodd (o dan gryn brotest) i ewyllys y grwp cyn newid ei meddwl a sefyll yn annibynnol. Er iddi weithredu’n groes i ddymuniad y grwp mae’n dal yn aelod ohono, ac mae’r rhan fwyaf o gynghorwyr Llais Gwynedd yn gefnogol i’w hymgeisyddiaeth, - er bod cnewllyn ohonynt yn boenus oherwydd ei diffyg rhuglder yn y Gymraeg. Yn ol Louise hithau, bai ei mam ydi’r diffyg rhuglder nid ei bai hi. Mae Louise hefyd yn nodi am rhyw reswm ei bod yn berson blin, ac mai camgymeriad fyddai cymryd person felly yn ysgafn. Ymddengys ei bod hefyd yn bleidiol i ‘doiledau, ysgolion, swyddfeydd post a bysiau’. Dydi hi ddim yn dweud os ydi ei blaenoriaethau wedi eu rhestru yn nhrefn eu pwysigrwydd iddi.


Gobeithio bod y nodiadau uchod yn gwneud pob dim yn glir i bawb.

10 comments:

Anonymous said...
This comment has been removed by a blog administrator.
Anonymous said...

Mae Louise Hughes wedi deud wrth bobol Llwyngwril ei bod hi'n ymddiswyddo o Llais Gwynedd.

Dyfrig said...

Dim ond dyfalu ydw i, ond mae'n bosib bod Llais Gwynedd yn ymwybodol o beth fyddai effaith ymadawiad Louise yn digwydd ar yr un pryd a helyntion Gwilym Euros. Haws gadael iddi sefyll yn annibynnol na'i cholli fel aelod o'r grwp.

Cigfan said...

Ar bwnc gwahanol,
newydd fod yn gwylio pawb a'i farn a gweld Guto Bebb hyd yn oed fwy blin ac annymunol nac arfer,tybed os yw'r cefnogaeth 100% y clywn amdano ar ei wefan ddim cweit mor gywir ac yr hoffai iddo fod wrth i ni nesau at y diwrnod tynghedfenol!

menaiblog said...

Mi gawn ni weld ar Fai'r seithfed os ydi'r consensws 100% tros Guto yn Aberconwy yn wir ynteu'n ffrwyth ei ddychymyg.

Anonymous said...

rhaglen od oedd pawb a'i farn heno. Albert a'r ddynes lib dem yn iwsles a felly guto Vs elfyn. Dechra da gan guto on yn sicr elfyn gurodd dros yr awr.

Mi ddyla elfyn rwan wneud yn glir be oedd yn digwydd gyda'r bwyd.

Siomedig iawn di gweld gymaint o doris cymraeg!!

Dyla plaid gychwyn rhaglen marchnata yn aber conwy yn dangos lluniau o guto yn ei ddydoa fel aelod o'r blaid. Byddai hun, a'r saeson eithafol sy'n debygol o fynd am ukip yn torri ei gefnogaeth ac agor y drws i phil.

menaiblog said...

Bisar braidd gweld rhywun o blaid yr ynysoedd hwyaid, y ffosydd o gwmpas y stadau a'r fflipio tai di ddiwedd yn cwyno am dreuliau aelodau seneddol.

Cigfran said...

Dwi'n siwr fod na rhyw erthygl o ddyddiau Guto yn Pantycelyn yn feirniadol o'r frenhines neu rwbath ac mi fysai'n effeithio ar y clymblaid bregus y mae'n ceisio ei hel yn Aberconwy.Ond ,dwn im taflu baw ar ei lefel o fuasai huna!
Un peth dwi'n hoffi di'r sylw y mae yn ei godi ar ei ymadawiad o'r blaid. Dweud ei fod "ousted " am ei wrthwynebiad i'r euro yr oedd.Nonsens llwyr, ffrae wedi ei greu ganddo wedi iddo golli enwebiad y blaid i Hywel Williams oedd y cwbwl.
Gyda 'r daflen am drethi busnesau bach a rhyw bethau fel hyn ,credwn fod Mr Bebbyn dechrau cael fform am gamarwain!

Diddorol hefyd oedd sylw Mr Cameron fod rhaid torri ar wariant cyhoeddus yn Gogledd Iwerddon a Gogledd ddwyrain Lloegr oherwydd ei fod rhy uchel
O gofio fod gwariant cyhoeddus yng Nghymru rhywle rhwng y ddau ydi Mr Cameron wedi rhoi ei droed ynddi am wariant cyhoeddus yng Nghymru?

menaiblog said...

Heb son am y niwed y gwnaiff y sylwadau i chwaer blaid y Ceidwadwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Gyda llaw, mae'r gwariant cyhoeddus yn ninas Llundain gyda'r uchaf yn y DU. Tybed os bydd hwnnw yn mynd?

Anonymous said...

cyntuno blog menai fod y toris y gwaethaf i bwyntio bys. Da ni gwbod na plaid y cyfoethog sy'n piso arna ni y werin ydi hi.

Ond, mae'r bobl wedi blino ar wel AS yn cymeryd y piss efo expenses. Felly os oes na ddrwg (un bach iawn o'i gymharu) dyle elfyn ddod allan a sythu yr hanes. Mae mwd yn sticio fel arall.

O ran taflu baw fydda defnyddio posteri neu yn wir erthygl gan guto pan oedd yn y blaid, wel rhaid i ni beidio bod mor naif. Os am gymeryd 5 ne 6 sedd rhaid i'r blaid ddeffnyddio tagtegau lleol mwy effeithiol.