Wednesday, April 21, 2010

Lib Dems - y blaid lwcus

Mae etholiadau yn bethau digon defnyddiol - i flogiwr o leiaf. Er nad ydw i'n cael llawer o amser i flogio, am resymau amlwg, mae yna lawer iawn o ymwelwyr yn galw yma pob dydd. Llawer iawn o sylw heb lawer o waith. Neis iawn.

Ta waeth, hwyrach y dyliwn gyfeirio at yr eliffant ar y stepan drws - y twf 'anisgwyl' yng nghefnogaeth y Lib Dems yn sgil 'buddugoliaeth' Clegg yn y ddadl fawr.

Y pwynt cyntaf i'w nodi ydi nad yw mor anarferol a hynny i blaid anisgwyl wneud yn dda mewn etholiad. Er enghraifft gwnaeth y Blaid yn rhyfeddol o dda yn etholiadau'r Cynulliad yn 99, gwnaeth UKIP yn dda yn etholiadau Ewrop 2005 a 2009 ac mae gen i frith gof i'r Gwyrddion wneud yn dda yn un o etholiadau Ewrop yn y nawdegau. Yr hyn sy'n anarferol y tro hwn ydi bod plaid anisgwyl yn llwyddo mewn etholiad cyffredinol.

Yr ail bwynt ydi hwn - mae'n eithaf hawdd gweld y rheswm am y canlyniadau hyn. Yn achos y Gwyrddion, hysbysebu etholiadol effeithiol oedd yn gyfrifol, fflam cenedlaetholdeb yn codi yn sgil y refferendwm oedd y tu ol i lwyddiant y Blaid yn 99, Killroy Silk oedd yn gyfrifol am lwyddiant UKIP yn 2005 a'r sgandal treuliau yn 2009.

'Dwi fy hun ddim yn meddwl mai'r ddadl ynddi ei hun oedd yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd y tro hwn ond yn hytrach ymateb rhyfeddol o gytun y cyfryngau iddi. O'r ychydig a welais i ohoni doedd yna fawr o wahaniaeth rhwng y tri, ond creuwyd 'stori'r' etholiad (sef bod Clegg yn foi da wedi'r cwbl) gan y cyfryngau a chafodd hynny yn ei dro effaith sylweddol ar y tirwedd etholiadol.

Rhywbeth nad ydi llawer o bobl sydd a barn wleidyddol gryf yn ei sylweddoli ydi bod llawer yn newid y ffordd maent yn pleidleisio o etholiad i etholiad. Fel rheol maent yn newid i pob cyfeiriad, ond weithiau bydd amgylchiadau yn codi sy'n gwneud i'r rhan fwyaf ohonynt symud i'r un cyfeiriad - dyna pryd fydd newidiadau etholiadol sylweddol yn digwydd, a dyna pryd mae 'stori' etholiadol' yn cael y mwyaf o effaith.

Rwan fyddai hyn heb ddigwydd oni bai bod amgylchiadau ehangach yn caniatau hynny. Ni all 'stori' etholiadol gael effaith oni bai bod y tir yn aeddfed ar ei chyfer. Diflastod efo'r patrwm etholiadol presenol sydd wedi paratoi'r ffordd. Roedd UKIP wedi gobeithio elwa o hynny, ond fel y Blaid, yr SNP a phleidiau llai eraill dydi'r gyfundrefn newydd o ymgyrchoedd etholiadol arlywyddol eu naws, sydd wedi eu canoli ar ddadleuon ar y teledu ddim yn caniatau iddynt wneud argraff ddofn mewn etholiad cyffredinol. Rhyw fath o aparteid etholiadol gyda phob plaid yn gyfartal, ond rhai yn fwy cyfartal na'r gweddill os y mynwch.

Felly'r blaid 'wahanol' yn ol y cyfryngau oedd y Lib Dems, ac maent o ganlyniad wedi elwa o'r diflastod cyffredinol tuag at wleidyddion - sy'n eironig ag ystyried bod roedd ganddynt hwythau eu siar o Aelodau Seneddol llwgr.

Cafodd y Lib Dems lwyddiant yn yr Alban a Chymru y tro o'r blaen oherwydd bod eu gwrthwynebiad (digon sigledig ar adegau) i'r rhyfel yn Irac yn cael sylw cyfryngol tra nad oedd gwrthwynebiad llawer cadarnach y Blaid a'r SNP ddim yn derbyn llawer o sylw o gwbl.

Byddai'n eironi chwerw petai'r un patrwm yn cael ei ailadrodd gyda'r Lib Dems yn cael ei phortreadu fel y blaid wrth sefydliadol, er bod trwynau llawer o'i gwleidyddion wedi eu stwffio'r un mor dwfn yn y cafn ag aelodau'r ddwy blaid fawr unoliaethol arall. Byddai hefyd yn tipyn o lwc cwbl anhaeddianol.

No comments: