
Diddorol ydi nodi bod Llafur yn defnyddio'r tactegau mae'r Lib Dems yn eu defnyddio yn lleol herbyn ar lefel cenedlaethol. Hynny yw ceisio cael pobl i bleidleisio trostynt ar sail yr hyn nad ydynt yn hytrach nag ar sail yr hyn ydynt.
Cyfaddefiad fod yr hwch wedi mynd trwy'r siop wleidyddol ydi hyn yn y bon - cyfaddefiad gan blaid ei bod yn fethdalwr gwleidyddol ac nad oes ganddi ddim oll i'w gynnig ag eithrio nad ydyw yn blaid arall. Trist iawn.
No comments:
Post a Comment