Sunday, April 11, 2010

Karen Robson - hogan fach neis


Mae'n debyg gen i na fydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma wedi clywed am Karen Robson, darpar ymgeisydd y Toriaid yng Nghanol Caerdydd. Mae ei phamffledi (uniaith Saesneg wrth gwrs) yn ei phortreadu fel athrawes fach neis iawn sydd o blaid gwell trafnidiaeth i'r hen a'r methedig, chware teg i fyfyrwyr, gwasanaeth hel sbwriel effeithiol ac ati.

Mae Karen hefyd yn hoff o wleidydda negyddol - fel y gallwch weld o'r pamffled uchod. 'Dydi o ddim fy lle fi i amddiffyn y Lib Dems wrth gwrs, ond mae'r cyfryw blaid wedi bod mewn grym yng Nghaerdydd ers blynyddoedd ac mae'n debyg bod y cynnydd o 18% yn nhreth y cyngor yn is na chwyddiant.

Ta waeth, os ydi Karen eisiau gwleidydda'n negyddol, iawn - mae'n rhan o'r gem (yn arbennig os mai'r Lib Dems ydi'r gwrthwynebwyr). Ond os ydi hi'n mwynhau y math yna o ymgyrchu efallai y dylai fod yn onest am y peth. Mae'n ufuddhau i'r gyfraith ac yn cydnabod mai'r Toriaid sy'n gyfrifol am yr ohebiaeth, ond yn gwneud hynny mewn ffont maint 3 eu 4. Lleiafrif bach o bobl all ddarllen ysgrifen mor fach heb gymorth chwyddwydr.

No comments: