Thursday, March 31, 2016

Hybu busnesau bach - postscript

Un pwt bach arall ynglyn a chynlluniau Plaid Cymru a chynlluniau Llafur Arfon i roi hwb i fusnesau bach.

Yn y bon cynllun Plaid Cymru i hybu busnesau bach ydi ail strwythuro'r gyfundrefn drethiannol mewn modd lle gellid cefnogi yn ariannol pob busnes efo gwerth ardrethol o hyd at £20,000.  Byddai hyn o gymorth 90,000 o fusnesau, gyda 70,000 ddim yn talu unrhyw drethi busnes o gwbl ac 20,000 yn talu llai o drethi.

Mae cynllun Llafur Arfon wedi ei seilio ar berswadio'r Cynulliad i orfodi trefi i gynnig parcio rhad ac am ddim am ddwy awr y dydd. Bu Llafur mewn grym ers 1999 wrth gwrs a dydyn nhw heb wneud hyn.  Efallai mai 'r rheswm am hynny ydi y byddai cymryd camau o'r fath yn creu twll mawr du yng nghyllidebau cynghorau - yn arbennig felly rhai dinesig fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.  Byddai'n rhaid llenwi'r twll trwy dorri gwasanaethau, sacio gweithwyr neu godi treth y cyngor.

Ta waeth, yr hyn sy'n rhyfedd am y stori ydi nad ydi ymgeisydd Llafur yn Arfon - hyd y gwn i - erioed wedi dadlau ar lawr y cyngor y dylid cynnig parcio rhad ac am ddim yn nhrefi Gwynedd.  Byddai'n llawer haws sicrhau parcio rhad ac am ddim yng Ngwynedd trwy gael y cyngor i wneud hynny na thrwy gael y Cynulliad i greu deddf fyddai'n eu rhoi ben ben a phob cyngor bron yng Nghymru.

Rwan, efallai fy mod yn anghywir - ac fel arfer dwi 'n mwy na bodlon cywiro camargraff os mai dyna'r sefyllfa - ond mae'n ymddangos bod Sion eisiau cynnig parcio rhad ac am ddim trwy'r Cynulliad - trywydd fyddai'n nesaf peth i amhosibl.  Serch hynny nid yw wedi ceisio gwneud hynny trwy drywydd haws o lawer - cael y cyngor sy'n uniongyrchol gyfrifol am godi am barcio yn Arfon i beidio a gwneud hynny.

Pam tybed?


No comments: