Monday, March 14, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 11

Dydan ni ddim yn nhir y celwydd noeth y tro hwn - ond rydan ni yn edrych ar gam arwain bwriadol - a digon anymunol.  

Ymddengys bod yr Aelod Seneddol Llafur Jack Dromey yn ymgyrchu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru heddiw - yn rhannol i hyrwyddo ymgyrch ymgeisydd Llafur am swydd Comiwsiynydd yr Heddlu yn y Gogledd.  Mae'n honni bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17%.  Dydi o ddim yn egluro'r ffigwr - ond mae'n debyg ei fod yn cyfeirio at ganfyddiad yr ONS (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol) bod tor cyfraith treisgar wedi cynyddu 17% yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.  



Y problemau ydi bod y cynnydd mewn tor cyfraith treisgar yn uwch ar hyd gweddill y DU nag yng Ngogledd Cymru a bod yr ONS ei hun yn dweud mai'r prif resymau am hynny ydi oherwydd gwelliannau yn y ffordd mae ymysodiadau rhywiol yn cael eu cofnodi a mwy o barodrwydd gan bobl i riportio ymysodiadau felly i'r heddlu.

Mae tor cyfraith yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ddadansoddi mewn ffordd arall - trwy ganfyddiadau'r Crime Survey of England and Wales.  Nid edrych ar ystadegau heddlu mae'r CSEW, ond holi'r cyhoedd ynglyn a'u profiad nhw o dor cyfraith.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried canfyddiadau'r CSEW yn fwy dibenadwy na rhai'r ONS.  Mae astudiaeth y CSEW yn awgrymu nad oedd yna fawr o newid wedi bod mewn lefelau tor cyfraith treisgar tros y cyfnod tan sylw.

Rwan mae ffigyrau fel hyn yn cael eu taflu o gwmpas mewn etholiad - ond mae'n anghyfrifol i daflu ffigyrau na ellir dibynnu arnynt o gwmpas mewn perthynas a thor cyfraith.  Mae llawer o bobl yn meddwl eu bod yn byw mewn Byd mwy peryglus na maent yn byw ynddo go iawn - ac mae hynny yn arwain at boeni di angen, ac mewn rhai achosion bobl yn ofn gadael eu tai.  

Mae'n gwbl anghyfrifol i greu canfyddiad ffug o don o dor cyfraith treisgar.  

No comments: