Saturday, March 26, 2016

Chwarae'r cerdyn iaith

Mae'n siwr y byddai wedi bod yn ormod i ddisgwyl i'n cyfeillion Llafur adael i un etholiad fynd heb chwarae'r cerdyn iaith.

6 comments:

Anonymous said...

Mae llawer o wrthwynebiad i'r cynllun yn y gymuned, yn cynnws aelod o'r bwrdd llywodraethol sy'n aelod o Blaid Cymru.

Cai Larsen said...

A felly?

Anonymous said...

Credaf mai'r pwynt sy'n cael ei wneud am 11:07 yw nad ydi pob un aelod o Blaid Cymru yn yr ardal mor gefnogol i'r syniad o newid polisi iath ac y buasai rhywun yn gobeithio, neu'n disgwyl, a dweud y gwir.
Mae'n anffodus fod ffrwgwd ieithyddol yn codi yn ystod cyfnod etholiad, ond dalied y blaid ati i frwydro dros y Gymraeg.

Cai Larsen said...

Y pwynt roeddwn yn ei wneud ydi bod Llafur - cynghorydd Llafur - yn ceisio defnyddio ffrae ynglyn a'r Gymraeg i ennill fots. Chwarae Cerdyn y Gymraeg.

Anonymous said...

Ai yn etholaeth Llanelli y mae'r ffrae ?. Pam fuasai chwarae cerdyn y Gymraeg yn ennill pleidleisiau iddynt felly ?

Cai Larsen said...

Ia. Am bod yna lawer o bobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg yno.