Tuesday, March 22, 2016

Y pol piniwn Cymreig diweddaraf

Fydda i ddim yn blogio ar bolau piniwn yn aml iawn, ond mi gawn ni gip sydyn ar y diweddaraf o bolau gan Brifysgol Caerdydd.  Wele'r canfyddiadau:
Etholaethau:
Llafur: 34% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 21% (+2)
UKIP: 15% (-3)
Dib Lems: 6% (+1)
Eraill : 3% (+1)
Rhestr:
Llafur: 31% (-)
Toriaid: 22% (-)
Plaid Cymru: 22% (+3)
UKIP: 14% (-4)
Dib Lems: 5% (+1)
Gwyrddion: 4% (+1)
Eraill: 3% (-)
Petai'r polau yn cael eu gwireddu, yn ol dadansoddiad Roger Scully, byddai Llafur yn ennill 27 sedd, Plaid Cymru 13, y Toriaid 11, UKIP 7 a'r Dib Lems 2.
Rwan, dydi hi ddim yn syniad gwych i gymryd gormod o sylw o union ganrannau pol piniwn chwech wythnos cyn etholiad - gall llawer ddigwydd yn ystod ymgyrch etholiadol.  Yn ychwanegol at hynny dydi effaith refferendwm Ewrop sydd i'w gynnal ym mis Mehefin ddim yn amlwg eto.  Ond mae yna dri pheth sy'n rhoi lle i obeithio y gallai'r etholiad yma fod yn un dda i'r Blaid.
1.  Mae'n bosibl y bydd y nifer sy'n pleidleisio  yn anarferol o isel oherwydd bod naratifau ymgyrchoedd y Cynulliad yn cael eu boddi gan naratif ymgyrch Ewrop.  Mae Plaid Cymru 'n tueddu i wneud yn well pan mae'r cyfraddau pleidleisio yn isel gan bod ei chefnogwyr yn fwy parod na chefnogwyr pleidiau eraill (ag eithrio'r Toriaid o bosibl) i fynd allan i bleidleisio.  Mae hyn yn arbennig o wir am etholiad Cynulliad.
2.  Mae cyfeiriad patrymau cefnogaeth yn tueddu i fod yn bwysicach na'r union ganrannau fel mae etholiad yn dynesu.  Mae'r cyfeiriad yma yn galonogol i'r Blaid ac yn negyddol i UKIP.
3.  Mae hwn yn gysylltiedig ag 1.  Bydd Llafur yn tueddu i wneud yn salach na mae'r polau yn awgrymu mewn etholiadau Cymreig ac Ewropiaidd.  Mae'n debyg mai'r ffaith eu bod yn tueddu i ddioddef mwy na neb arall pan mae cyfraddau pleidleisio yn isel sy'n gyfrifol am hyn.
Ac mae yna rhywbeth arall hefyd - sy'n newyddion da i bob plaid ag eithrio'r Toriaid.  Mae'r pol wedi ei gymryd cyn y llanast a'r ffraeo diweddar ymysg Toriaid San Steffan.  Dim ond drwg all hynny ei wneud i'r blaid honno.  
Felly - ag edrych ar bethau o safbwynt y Blaid - mae'r pol yn addawol ac mae'n awgrymu bod canlyniad gwirioneddol dda yn bosibl ym mis Mai.  Ond mae angen ymgyrch dda i hynny ddigwydd, ac ni all hynny ddigwydd yn ei dro oni bai bod niferoedd sylweddol o bobl yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.  
Felly os ydych  eisiau gweld newid go iawn rydych chi'n gwybod beth i 'w wneud _ _ 



1 comment:

Anonymous said...

Yn ol trafodaeth rhwng Roger Scully a David Cornock ar Trydar, roedd canlyniad pol piniwn cyfatebol YouGov ym Mawrth 2011 yn dangos hyn:
Llafur 33
Ceidwadwyr 13
Plaid Cymru 9
Dem Rhydd 5

Tybed a fydd yr un patrwm yn cael ei adlewyrchu eleni?

Ond yn fwy difyr byth, dim ond swing o 5% sydd ei angen o'r pol yma i Blaid Cymru fod yn blaid fwyafrifol yn y Cynulliad (neu rhwng 2% ac 8% yn ddibynol ar y margin of error).