Saturday, March 05, 2016

Llafur - mor wrth Gymraeg ag erioed

Mae blogiad diweddaraf ymgeisydd Llafur yn Llanelli yn un digon diddorol.  Blogiad ydi o yn y bon sy'n egluro pam y dylai pobl bleidleisio iddo fo.  I rhywun sydd wedi arwain y IWA mae'r blogiad yn un arwynebol a rhagweladwy - amrywiaeth bach ar wleidyddiaeth yr anterliwt.  Mae'r Toriaid yn bobl arbennig o ddrwg - ac os byddwch yn pleidleisio i Blaid Cymru bydd yr hen bobl ddrwg 'na yn cael eu hethol.  



Ond ynghanol y rwdlan gwrth resymegol dyma hon yn ymddangos.


Plaid have not made the breakthrough that the SNP has, and research shows that in Wales their obsession with independence and the Welsh language turn-off many voters.

A gadael o'r neilltu'r ffaith bod yna gryn dipyn o gwyno o rai cyfeiriadau nad ydi'r Blaid yn canolbwyntio digon ar annibyniaeth a materion ieithyddol, ac a gadael o'r neilltu'r ffaith nad ydi polau cyfredol yn awgrymu bod yna gefnogaeth eang i annibyniaeth ar hyn o bryd - pa ymchwil sy'n dangos bod gan etholwyr Cymru rhywbeth yn erbyn y Gymraeg?  Oes yna ymchwil felly?  Pwy sydd wedi ei wneud?  'Dydi Lee ddim yn trafferthu dweud wrthym - felly ei air o sydd gennym am y peth.  Beth bynnag am hynny - mae'n amlwg bod Lee yn gwneud defnydd o'r iaith yma i bortreadu gwrthwynebwyr gwleidyddol mewn goleuni negyddol.  

Y pethau bach sydd yn ddadlennol yn aml iawn - ac mae'r esiampl fach yma o ddefnyddio'r iaith fel offeryn gwleidyddol etholiadol yn awgrymu nad ydi agweddau gwrth Gymraeg gwaelodol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi newid rhyw lawer.  Beth bynnag am yr ystumio cefnogaeth i'r iaith mae'n cael ei defnyddio i bwrpas portreadu negyddol, mae hyd yn oed 'pencampwr iaith' Llafur -Sion Jones - yn credu bod cymryd rhai o'r camau sydd rhaid wrthynt i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg (fel cyflogi pobl sy'n siarad y Gymraeg) yn 'ymylu ar fod yn hiliol', mae'r gweinidogion sy'n gyfrifol am y Gymraeg wedi eistedd ar eu dwylo am bron i bum mlynedd, mae llywodraeth Lafur y Cynulliad yn gwrthod caniatau i'r Comiwsiynydd Iaith fabwysiadu safonau iaith rhy radicalaidd, ac yna'n mynd ati i herio'r safonau glastwreiddiedig pan maent yn eu derbyn.

Dydi Llafur Cymru yn y bon byth yn newid - gwleidyddiaeth yr anterliwt yn cuddio agweddau gwaelodol wrth Gymraeg.

4 comments:

Anonymous said...

Ti yn llygad dy le. Mae'r blaid lafur yn bathologaidd wrth gymreig

Ond pam tybed ?

Anonymous said...

Mae'n ymddangos bod Yr Ymgeisydd Llafur yma yn Hapus I wleidydda yn negyddol, ond pa hawl sydd gennym ni fel Plaid I gwyno am hyn. Methodd ein ymgyrch diwethaf oherwydd ein negyddiaeth, ac yn ôl y polau piniwn ymddengys ein bod am gael ein canlyniad etholiad Cynulliad gwaethaf erioed. Hen bryd i'r Blaid roi neges bositif ymlaen, yn hytrach na ymosod ar Llafur trwy'r adeg

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl eich bod yn camddeall y blogiad os ydych yn meddwl mai tynnu sylw at wleidydda negyddol ydw i. Tynnu sylw at agweddau gwrth Gymraeg gwaelodol Llafur ydw i.

Cai Larsen said...

Thanks to the anonomous poster who left a post here at 10.15am. I can't publish the post as it is because of the usual legal considerations, & I don't edit posts. If the poster is willing for me to remove a couple of sentences, then I'm happy to publish it.

Interesting nonetheless.