Sunday, March 13, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhif 10

Jones yr ieuengaf unwaith eto mae gen i ofn.  Nid yn nhir y troelli, na chamarwain trwy beidio cyflwyno'r ffeithiau i gyd ydan ni y tro hwn, ond yn nhir y celwydd noeth di addurn.



Mae honiad bod y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru  yn cael eu darparu gan Gyngor Gwynedd yn gyfangwbl anghywir - a dydi hi ddim yn bosibl i neb ddod i'r casgliad hwnnw yn ddamweiniol.  

Yn ol y ffigyrau diweddaraf sydd ar gael mae yna 81 o weithwyr Cyngor Gwynedd ar gytundebau sero awr.  Mae'r ffigwr hwnnw wedi gostwng o 477 yn 2014 - y rheswm am hynny ydi bod Cyngor Gwynedd yn dilyn polisi bwriadol o ddileu cytundebau sero awr.  

Ond hyd yn oed yn 2014 byddai'n gwbl gelwyddog i ddweud mai Cyngor Gwynedd oedd yn cynnig y rhan fwyaf o gytundebau sero awr Cymru.   Roedd yna 4,000 o gytundebau felly yn cael eu gweinyddu yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol - gyda thua hanner y rheiny i'w cael ym Mhowys - cyngor sydd (ac oedd) yn cael ei redeg gan grwp annibynnol.  Roedd cannoedd lawer hefyd yn cael eu cynnig gan gynghorau Llafur gyda Chyngor Pen y Bont (sy'n cynnwys rhan o etholaeth Carwyn Jones) yn gyfrifol am 418 ac Abertawe yn gyfrifol am 482.  Mae'n debygol gyda llaw bod gwir ffigyrau rhai cynghorau Llafur yn uwch o lawer na'r hyn sy'n wybyddus oherwydd arfer nifer ohonynt i gontractio gwaith cyngor i gwmniau a chorfforaethau annibynnol - does yna ddim ffigyrau ar gael ar gyfer cyrff felly.  Tua 12% o gytundebau sero awr Cymru oedd yng Ngwynedd bryd hynny.

Fel y dywedais, mae Cyngor Gwynedd wedi cael gwared o tua 80% o'u cytundebau sero awr mewn cyfnod o tua blwyddyn a hanner oherwydd eu bod yn dilyn polisi bwriadol o wneud hynny.  Does gen i ddim gwybodaeth am ffigyrau diweddaraf cynghorau eraill Cymru - ond mae'n anhebygol bod y cwyp wedi bod yn agos at yr hyn sydd wedi digwydd yng Ngwynedd oherwydd nad ydi'r rhan fwyaf o gynghorau yn dilyn polisi rhagweithiol o'u dileu.  Yn wir - os ydi'r graffeg mae Jac Capon yn ei ddyfynu yn gywir, mae yna gynnydd wedi bod yng ngweddill Cymru.

Yn ol pob tebyg mae rhywbeth yn yr amrediad 1% -  2% o gytundebau sero awr awdurdodau lleol Cymru yng Ngwynedd ar hyn o bryd - er nad oes gen i ffordd o fod yn gyfangwbl siwr am hynny.  Mae hyn ymhell, bell o'r 50%+ sy'n cael ei honni gan Sion.  Mae'r honiad yn gyfangwbl gamarweiniol.  

Mae hefyd yn hynod anffodus gweld cynghorydd yn dwyn anfri ar ei gyngor ei hun trwy ddweud celwydd amdano.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Mi fyddai sylwadau tebyg gan aelod am Gyngor Sir Conwy yn torri rheolau Cod Ymddygiad y Cyngor, siŵr bod gan Wynedd cod tebyg

Cai Larsen said...

Siwr o fod Alwyn.