Saturday, March 26, 2016

Dathliadau 1916 a'r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig

Dwi ar y cwch i'r Iwerddon -a bydd y sawl yn eich plith sydd wedi bod yn dilyn triniaeth (anisgwyl o gytbwys) y Bib yn gwybod bod canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn cael ei ddathlu y penwythnos yma.  Er gwaetha'r holl ddathlu - gwladwriaethol ac answyddogol - mae yna chwithdod.  Mae'r darn yma gan Fergal Keane yn egluro'n ddigon effeithiol pam - er fy mod yn anghytuno efo un elfen o'r dadansoddiad.

Y broblem ydi bod gwreiddiau'r rhan fwyaf o bleidiau Gwyddelig yn mynd yn ol i 1916 mewn gwirionedd, a 'doedd gan y gwrthryfelwyr ddim mandad democrataidd o unrhyw fath.  Gallai'r IRA a ymladdodd yn erbyn Prydain yn nechrau'r dau ddegau hawlio mandad - roedd Dail 1918 wedi rhoi caniatad o fath iddynt ymladd - ac roedd y corff hwnnw wedi ei ethol gan etholwyr oedd wedi eu radicaleiddio gan ddigwyddiadau 1916. Ond chafodd gwrthryfelwyr 1916 ddim caniatad gan neb.

Mae yna ddau draddodiad cenedlaetholgar Gwyddelig - un cyfansoddiadol ac un anghyfansoddiadol.  Yr un cyfansoddiadol sy'n dominyddu gan amlaf, ond o bryd i'w gilydd bydd y traddodiad arall yn ffrwydro i'r wyneb.  Dyna ddigwyddodd yn 1916 a'r blynyddoedd a ddilynodd hynny.  Dewisodd y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Gwyddelig y fersiwn anghyfansoddiadol yn 1918 oherwydd trawma 1916, methiant Prydain i gyflwyno datganoli, ac anfodlonrwydd oherwydd y Rhyfel Mawr a rhan cenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhyfel hwnnw.  

Felly mae'r wladwriaeth Wyddelig wedi ei geni o drais gan genedlaetholwyr anghyfansoddiadol, ond mae ei phrif bleidiau bellach yn rhai cyfansoddiadol sy 'n ymwrthod a thrais i hyrwyddo undod cenedlaethol.  O safbwynt y pleidiau cyfansoddiadol Gwyddelig (Fianna Fail, Fine Gael a Llafur)  y broblem ydi eu bod yn cystadlu efo Sinn Fein am rym.  Nid y gwrthryfelwyr cyfoes yn y Gogledd fel mae Keane yn awgrymu sy'n gwneud pethau'n anodd, ond gelynion etholiadol y presenol.



Mae'r blaid honno yn cyfiawnhau rhyfel hir yr IRA yng Ngogledd Iwerddon o ddiwedd chwe degau'r ganrif ddiwethaf i ganol y naw degau.  Yn wir cymrodd llawer o arweinwyr SF ran gweithredol yn y rhyfel hwnnw.  Mae SF yn fygythiad enfawr i'r sefydliad Gwyddelig sydd wedi sefydlu a chadarnhau ei afael ar strwythurau grym y Weriniaeth tros hanes y wladwriaeth.  Mae'n naturiol felly bod rhan SF yn rhyfel y ganrif ddiwethaf yn cael ei ddefnyddio fel gordd gwleidyddol i'w waldio yn ystod pob ymgyrch etholiadol.  

Daeth yn draddodiad gwleidyddol diweddar i'r cyfryngau Gwyddelig chwifio amdo, rhywun neu 'i gilydd a laddwyd gan yr IRA yn y ganrif ddiwethaf, i'r pedwar gwynt am wythnosau pan mae yna gymaint ag awgrym o etholiad.  Mae codi cyrff y ganrif ddiwethaf yn fwy effeithiol ac yn haws nag ateb am wendidau presenol y gyfundrefn wleidyddol.  Ond - fel yr awgrymwyd  - fyddai'r wladwriaeth Wyddelig erioed wedi dod i fodolaeth oni bai am Wrthryfel anghyfansoddiadol 1916, ac am y rheswm hwnnw mae'n ddigwyddiad arwyddocaol a phwysig i lawer o Wyddelod o pob plaid (ag eithrio unoliaethwyr y Gogledd).  

Mae natur y dathlu yn adlewyrchu'r ddeuoliaeth yma - ac mae'n nodweddiadol o sut mae'r sefydliad gwleidyddol Gwyddelig yn delio efo cymlethdodau anodd y gorffennol - cymylu ffiniau, cymysgu elfennau gwahanol, gwneud llinellau eglur yn aneglur.  

Mae'r ddelwedd uchod yn dangos baner a godwyd gan Gyngor Dulyn.  Mae'n dathlu Gwrthryfel 1916, ond roedd y  pedwar arweinydd cenedlaethol a ddangosir yn wleidyddion cyfansoddiadol o gyfnodau gwahanol yn hanes Iwerddon.  Roedd tri ohonynt wedi marw cyn 1916, ac arweiniodd y Gwrthryfel at ddifa plaid y pedwerydd - John Redmond.  Byddai'r pedwar wedi casau'r hyn ddigwyddodd yn 1916 gyda chasineb perffaith - ond maen nhw ar y faner beth bynnag.




No comments: