Wednesday, March 30, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 12

Bydd darllenwyr Blogmenai yn falch o wybod nad Plaid Lafur Arfon sydd dan sylw y tro hwn, ond Dib Lems Gorllewin Caerdydd.  Dyma'r pamffled o dan sylw.


A dyma berfformiad trychinebus eu hymgeisydd yn etholiad y Cynulliad, yn etholiadau San Steffan y llynedd:


A dyma eu canlyniad dim cweit mor drychinebus yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.


A dyma'r ganran maent wedi ei gael mewn is etholiadau yng Ngorllewin Caerdydd ers 2011 - Glan yr Afon 2015 4%, Pentyrch 2015 1%, Treganna 2014.3%, Glan yr Afon 2013 3%.  Yr ymgeisydd yn yr etholiad yma a'r sawl sy'n gyfrifol am y pamffled oedd eu hymgeisydd ym Mhentyrch - a chafodd o bosibl y canlyniad gwaethaf i'r Dib Lems yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru.

Felly am wn i y byddai unrhyw sylwebydd gwrthrychol yn dod i'r casgliad bod Cadan mor debygol o ennill yr etholiad fis nesaf yng Ngorllewin Caerdydd ag yw o godi'r meirw'n fyw neu droi dwr yn win.  Felly be goblyn ydi'r stwff Elections here are a close fight between the Dib Lems & Labour 'ma?  

Wel - ag ystyried mai yn Llandaf mae'r pamffled yn cael ei ddosbarthu, mae'n debyg mai cyfeirio at etholiad Cyngor Caerdydd yn y ward honno mae Cadan.  Wele'r canlyniad yno, bryd hynny:


Felly mae Cadan yn dweud rhyw hanner gwir mewn ffordd - pleidleisiodd rhywbeth tros fil o unigolion gwahanol i ymgeiswyr ei blaid yn y ward fach hon mewn etholiad cyngor yn 2012 ac roedd Llafur yn ail agos.  Felly nid y celwydd noeth, di addurn y byddwn yn ei gael weithiau gan Blaid Lafur Arfon yma - ond ymgais i gamarwain trwy ddefnyddio gobyldigwc ystadegol - arbenigedd y Dib Lems ym mhob man.  Ystyrier

1) Dyma'r unig ward yng Ngorllewin Caerdydd lle cafodd y Dib Lems bleidlais barchus yn 2012.  Mae yna wyth ward arall - a doedd y Dib Lems ddim yn agos at fod yn gystadleuol mewn unrhyw un ohonyn nhw.  

2). Dydi Llandaf ddim yn uned yn etholiadau'r Cynulliad - ward braidd yn fach mewn uned llawer mwy ydi hi.  Fydd gan fawr o neb efo syniad na diddordeb pwy enilliodd yn Llandaf erbyn Mai 6ed.

3). Gallwn fod yn weddol siwr nad oedd y Dib Lems yn gystadleuol hyd yn oed yn Llandaf yn etholiadau Cynulliad 2012 a San Steffan yn 2015.  Tua 2,000 o bleidleisiau gafodd y Dib Lems trwy Orllewin Caerdydd ar y ddau achlysur - go brin bod unrhyw beth yn agos at hanner y rheiny yn Llandaf.  Trydydd neu bedwerydd oeddynt hyd yn oed yno yn 2012 a 2015 yn ol pob tebyg.

Felly yr hyn sydd gennym eto fyth ydi ymgais i dwyllo'r etholwyr.  Dydym ni ddim yn dweud celwydd wrth bobl yr ydym yn eu parchu, nag yn eu trin fel idiotiaid.  Beth bynnag arall y gellir ei ddweud am drigolion Llandaf, nid idiotiaid mohonynt - o bell, bell ffordd.  Daw'r cyfle i dalu'r pwyth i Cadan a'i blaid am eu sarhau ym mis Mai.  






No comments: