Sunday, September 28, 2014

Golwg360 yn dal un o afiechydon y Bib

Ymddengys bod y stori hon wedi arwain arlwy newyddio Golwg360 am gyfnod go lew o'r penwythnos yma - bod UKIP yn sefydlu cangen yn y Rhondda.

Rwan, peidiwch a cham ddeall - dwi'n hoff o Golwg360, a fel rheol mae'n llwyddo i gynnig gwasanaeth sy'n wahanol ddarpariaeth Brydeinllyd arferol y cyfryngau newyddion Cymreig eraill. Ond wir Dduw, dydi sefydlu cangen gan blaid wleidyddol ddim yn stori.  Mae straeon am drefniadaeth mewnol pleidiau Cymreig yn weddol anarferol ar y gorau - ac mae yna rhywbeth gwirioneddol bisar am roi'r fath sylw i addasiad bychan iawn mewn trefniadaeth mewnol plaid wleidyddol.  Mae'n fater cyffredin i ganghenau o bleidiau gwleidyddol gael eu ffurfio, eu huno neu'i diddymu.  Fedra i ddim cofio i stori am ffurfio cangen hyd yn oed wneud y newyddion yn y gorffennol.

Rwan, mae rhywun yn deall bod UKIP yn dominyddu'r newyddion Prydeinig ar hyn o bryd, ond mae hyn yn swnio fel ymdrech wirioneddol bisar i wneud i'r newyddion Cymreig adlewyrchu'r newyddion Prydeinig - un o brif wendidau'r cyfryngau newyddion Cymreig.  Dylai Golwg360, y Bib ac ati ar pob cyfri adael i ni wybod am lwyddiannau etholiadol i UKIP yng Ngymru, twf yn eu haelodaeth, newidiadau polisi sydd a goblygiadau i Gymru ac ati.  Ond dydan ni ddim angen gwybod os ydyn nhw'n ffurfio un cangen diolch yn fawr iawn.  

4 comments:

Ifan Morgan Jones said...

Mae yna ddau beth sydd angen eu gwahanu fan hyn -

'News values' Golwg 360 a BBC Cymru, h.y. pa straeon mae golygydd y wefan yn eu hystyried yn bwysig.

'Ffynonellau newyddion' Golwg 360 a BBC Cymru, h.y. pa newyddion sydd ar gael iddynt.

Rwy'n credu bod y stori hwn yn fwy tebygol o adlewyrchu y diffyg ffynonellau newyddion sydd ar gael i'r safloedd rhain dros y penwythnos. Staff bychan sydd gan Golwg 360 a BBC Cymru Fyw (yn ahos Golwg 360, mae'n debygol iawn mai un newyddiadurwr sydd i mewn dros y penwythnos). Mae hynny yn cyfyngu ar eu gallu i fynd ar ol straeon newyddion gwreiddiol eu hunain, ac felly maent i raddau yn ddibynnol ar ffrwd newyddion mewnol y BBC yn achos BBC Cymru Fyw, ac yn achos Golwg 360 ar yr asiantaethau newyddionm gwasanaethau newyddion eraill, ac ar ddatganiadau ayyb sy'n dod i mewn i'r blwch e-byst. Mae hyn yn golygu nad oes cymaint a hynny o sgop i'r gwasanaethau hyn wahaniaethau eu darpariaeth nhw oddi wrth naratifau newyddion Prydeinig, gan mai yn y cyd-destun hwnnw mae'r rheini sy'n darparu'r newyddion ar eu cyfer yn gweithio ynddynt.

Cai Larsen said...

Dwi'n derbyn beth ti'n ei ddweud Ifan - ond roedd yna fwy na hanes am UKIP yn sefydlu cangen yn y Rhondda ar gael i bwy bynnag oedd yn cynhyrchu straeon Golwg360 - llawer mwy.

Ond mi gafodd y stori fach gyfangwbl ddi ddim yma ei hun ar ben y wefan - ac mae hynny'n rhyfedd.

Anonymous said...

Mae gwasanaethau teledu Cymraeg yn derbyn symiau sylweddol iawn bob blwyddyn tra mae'r ddarpariaeth ar-lein yn byw ar friwsion. Mae angen newid y pwyslais.

Anonymous said...

Braf fuasai papur newydd bob diwrnod yn y Gymraeg, gan orfodi pobl i chwilio am newyddion bob diwrnod - mae gwasanaeth Golwg yn ddifrifol, yn ffeithiol anghywir ac yn amaturaidd. Tybed pwy ddaru roi'r farwol i syniad Ned Thomas ?