Thursday, September 18, 2014

Pwy sydd yn fotio Na?

Os ydi pol STV neithiwr yn gywir pobl sydd ddim yn rhentu eu ty, pobl sydd tros 55 oed, y sawl sydd heb blant yn byw yn y ty a'r sawl sydd wedi ymddeol.  Mae mwyafrif pobl pob sector arall o'r boblogaeth yn pleidleisio Ia.  

1 comment:

Anonymous said...

Weles I hwn neithiwr - diolch am ei roi lan. Mae'n cyfateb I be mae eraill wedi dweud.

On i'n byw yn yr Alban tan yn ddiweddar, am dros ddegawd. Un peth darodd fi ar ol cyrraedd yno oedd fod y papurau newydd yn dweud fod poblogaeth yr Alban nid yn unig yn heneiddio ond yn disgyn rhywbeth ddylai ddigwydd I boblogaeth Cymru a Lloegr ar ol tua 2030. Roedd tipyn o son am gau wardiau mamau ac ysgolion cynradd yn yr Ucheldiroedd. Dyna'r union le ble mae mewnfudwyr Saesneg, sy dros 55 ac heb blant, wedi mynd I fyw. Nhw fyddai wedi achosi'r ardaloedd hynny I bleidleisio 'Na'.

Y manylyn hyn, am boblogaeth yr Alban yn disgyn, sydd ar goll yn y cyfryngau. EFallai fod pobl ifancach yn fwy parod I bleidleisio 'Ie', ond doedd 'na ddim digon ohonyn nhw.