Ian James Johnson soniodd y diwrnod o'r blaen ar ol y rali yng Nghaerdydd ei fod o'r farn y gallai'r polau fod yn anghywir ac ei bod yn fwy na phosibl bod y naill ochr neu'r llall am ennill yn rhwydd. Dwi'n tueddu i gytuno - dydi joban y polwyr ddim yn un i'w chwenych y tro hwn.
1). Mae methodoleg polio fel rheol wedi ei fireinio trwy gymharu perfformiad efo etholiadau go iawn. Does yna ddim refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban wedi bod o'r blaen.
2). Mae'r rhan fwyaf o gwmniau polio yn addasu eu canfyddiadau yn ol eu barn o debygrwydd pobl i bleidleisio. Mae addasiadau felly yn amhosibl y tro hwn oherwydd bod y gyfran sy'n pleidleisio am fod mor uchel.
3). Mae mwyafrif y cwmniau polio yn gwneud hynny ar y We. Mae pobl yn gwirfoddoli i gymryd rhan yn yr ymarferiadau hyn. Mae'n fwy na phosibl bod yr un pobl yn gwirfoddoli i sawl cwmni. Os felly yr un pobl sy 'n cael eu polio i raddau helaeth - mae hynny'n gwneud camgymeriadau polio yn llawer, llawer mwy tebygol.
4). Mae yna ugeiniau lawer o filoedd o bobl wedi cofrestru i bleidleisio yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'n debygol na fydd mwyafrif llethol y rhain yn cael eu polio.
5). Mae yna hanes o gam bolio mewn refferenda. Ceir refferenda yn aml yn yr Iwerddon gan na ellir addasu'r cyfansoddiad heb gynnal un. Mae'n gyffredin i'r polau wneud smonach o bethau.
6). Dydi polio ffon ddim yn dda am ddal dynion ifanc - mae'r grwp yma yn llai tebygol o ateb cwestiynau canfaswyr na neb arall. Dydi hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr gan amlaf am nad ydyn nhw'n deueddol o fotio chwaith. Ond mae'n debyg y byddant yn fotio mewn niferoedd mawr yn y refferendwm yma.
7). Dydi polio ffon ddim yn cysylltu efo pobl sydd ond efo ffon symudol fel arfer. Eto dydi pobl sydd heb linell yn mynd i 'r ty ddim yn tueddu i fotio fel arfer - ond byddant y tro hwn.
8). Mae cefnogaeth mewn refferenda yn llai sefydlog na chefnogaeth pleidiol. Mae'r rhan fwyaf o bobl mewn etholiad yn y diwedd yn pleidleisio i'r sawl wnaethon nhw bleidleisio trosto o'r blaen. Does yna ddim. 'o'r blaen' i gyfeirio'n ol ato'r tro hwn. Gallai pethau symud yn gyflym iawn ar y diwedd.
Mae'n fwy na phosibl y bydd yr hyn ddigwyddodd yn Etholiad Cyffredinol 1992 yn digwydd eto, ac y bydd y polau oll yn anghywir.
3 comments:
Dwin credy bydd na yn ennill o 60 i 40, dwin sori ond dwi di bod ir Alban, a mae bron neb dwin gweld yn pleidleisio ie
Dwin credy bydd na yn ennill o 60 i 40, dwin sori ond dwi di bod ir Alban, a mae bron neb dwin gweld yn pleidleisio ie
3Anonymus -sylwi nad wyt yn dweud ble yn yr Alban. Nid dyna brofiad neb dw I'n nabod
Post a Comment