Monday, September 15, 2014

Lluniau o Lundain y tro hwn

Gan fy mod wedi postio lluniau o gynulliadau mawr yr ochr Ia, byddai'n well i mi bostio lluniau o gynulliad mawr o blaid yr ochr Na o amgylch symbol imperialaidd enwog yng nghanol dinas Llundain.  Fyswn i ddim eisiau i neb feddwl fy mod mor unllygeidiog a'r Bib. 

Dwi'n siwr y byddwch yn cytuno y bydd y delweddau hyn yn dwyn perswad pwerus ar drigolion Govan a Kelvinside i fotio Na.  








2 comments:

Anonymous said...

Blydi hel, Wyt ti'n gallu anfon y lluniau lan i'r blogs yn yr Alban fel Wings Over Scotland neu Bella Caledonia? Siwr bydd diddordeb yno.

Unknown said...

Waw! Lluniau pwerus iawn, bron wneud i mi eisiau ymuno ag UKIP! Gwefreiddiol.

Well i mi fod o ddifri am eiliad - pam nad yw prydeinwyr rhonc yn cael eu galw'n British Nationalists neu Genedlaetholwyr Brydeinig tybed?

Pob lwch i chi'r Alban! Ewch amdani a phleidleisiwch IE gyda balchder, urddas a hyder!