Sunday, September 07, 2014

Pleidlais yr Alban a dyfodol Cymru

Mae yna rhywfaint - dim llawer ond rhywfaint - o drafodaeth wedi bod ar oblygiadau posibl pleidlais Ia i Gymru.  Efallai mai'r rheswm am y diffyg trafodaeth ydi bod pawb wedi cymryd hyd yn ddiweddar mai Na fydd canlyniad y refferendwm - yn rhannol oherwydd yr hyn mae'r polau piniwn a'r marchnadoedd betio yn ei awgrymu.  Dydi canlyniad felly ddim yn anhepgor o bell ffordd yn fy marn i, a dwi'n rhyw feddwl y byddai unrhyw un sydd wedi treulio amser yn yr Alban yn ddiweddar yn cytuno petaent yn onest.

Mae Ifan Morgan Jones yn gefnogol i annibyniaeth i'r Alban, ond nid yw'n gweld fawr o fantais o safbwynt Cymru.  Mae Simon Brooks bellach yn gefnogol hefyd, ond mae'n gweld peryglon i Gymru hefyd yng nghyd destun bod yn rhan o wladwriaeth  mwy Seisnig, ac yng nghyd destun datblygiad Seisnigrwydd llawer mwy ymwthgar na'r hyn a geir ar hyn o bryd.  Tra fy mod yn cytuno efo llawer o'r hyn mae Simon yn ei ddweud am ddwyieithrwydd a lle'r Gymraeg yn hunaniaeth sific Cymru ar hyn o bryd, dwi ddim mor siwr ei fod yn gywir ynglyn ag effaith ymadawiad yr Alban a'r DU.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn.  Nid maint ydi'r peth pwysicaf o ran ennill parch gan San Steffan tuag at wledydd llai y DU.  Mae'r Alban yn cael ffafriaeth cyllidol o gymharu a Chymru oherwydd bod yr Alban yn fwy anhydrin ac anystywallt na Chymru, nid oherwydd ei bod yn fwy.  Dydi San Steffan - hyd yn oed os mai Johnson a Farage fydd yn rhedeg y sioe - ddim am wneud unrhyw beth sy'n sathru ar gyrn y 800k Pabydd sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon chwaith.  Y rheswm am hynny ydi nad ydyn nhw eisiau mynd yn ol at y dyddiau pan roedd rhaid talu am gadw 55,000 o aelodau'r lluoedd diogelwch yng Ngogledd Iwerddon a phan roedd cyfres o loriau efo  tunnell o ffrwydrolion ynddyn nhw yn cael eu symud o gorsydd De Armagh i ganol Llundain i bwrpas chwythu rhai o adeiladau'r ddinas honno i fyny ar gost o biliynnau o bunnoedd i'r trysorlys.

Mae pethau'n wahanol yng Nghymru wrth gwrs.  Tra bod iwfforia yn sgubo'r Alban yn sgil y cyfle i ffurfio gwladwriaeth annibynnol, mae iwfforia yn sgubo'r Gymru sefydliadol yn sgil llwyddo i lwyfanu uwch gynhadledd NATO heb i'r un o'r gwesteion farw o wenwyn bwyd.

Rwan dwi ddim yn awgrymu bod Carwyn yn bomio dim wrth reswm, ond dydi ei ymddygiad cyffredinol o a'i lywodraeth ddim yn gwneud unrhyw ffafr a Chymru o gwbl.  Er enghraifft dydi sefyll y tu ol i David Cameron fel hogyn bach yn gweiddi bygythiadau na all byth eu gwireddu pan mae hwnnw'n cael ffrae efo Alex Salmond ddim yn syniad arbennig o dda.  Efallai bod Carwyn yn meddwl bod ei grafu am annog Cameron i roi pob math o bethau neis iddo fel arwydd o ddiolchgarwch, ond dydi pethau ddim yn gweithio fel yna yn y byd go iawn.  Y wers y bydd Cameron (a phob Prif Weinidog Prydeinig arall) yn ei chymryd o waseidd-dra Carwyn ydi ei bod yn saff i ddi ystyru Cymru oherwydd ei bod mor ufudd beth bynnag.

Yn y bon y sawl sy'n mynnu parch, sydd yn ennill parch, dydi'r  sawl ddim yn hawlio parch ddim yn ei gael.  Os ydi Cymru yn ethol llywodraethau taeog dydi hi byth am gael fawr o barch.  Mae faint o barch rydyn yn ei gael yn fater  i ni ein hunain yn y pen draw.

Mae dadl Simon yn un ehangach wrth gwrs - mae'n ymwneud a 'rhyfel diwylliannol' yn ogystal  - neu efallai yn hytrach - na'r ymarferiad o rym gwleidyddol.  Y peth cyntaf i'w ddweud am hynny ydi bod Lloegr ei hun yn llai Seisnig ar hyn o bryd nag a fu ers Oes y Normaniaid.  Mae hynny heb amheuaeth wedi esgor ar Seisnigrwydd mwy hunan ymwybodol ac ymwthgar ymysg llawer o Saeson - yn arbennig Saeson dosbarth gweithiol.  Mae hunaniaethau eraill yn cael eu hatgyfnerthu ar yr un pryd wrth gwrs.  Mae hynny'n digwydd os ydi'r Alban yn rhan o'r DU neu beidio.  Does yna ddim cysylltiad rhwng y prosesau cymdeithasegol sy'n mynd rhagddynt ar stadau tai ardaloedd dosbarth gweithiol Lloegr a bodolaeth pum miliwn o bobl efo hunaniaeth Albanaidd i'r gogledd o Fur Hadrian.

Mae yna oblygiadau gwleidyddol yn debygol o fod i'r newidiadau hyn wrth gwrs, ond dydi o ddim yn  dilyn y byddai hunaniaeth wleidyddol anoddefgar Seisnig yn niweidio hunaniaeth wleidyddol Gymreig - gallai yn hawdd ei gryfhau.  Mae hunaniaethau gwleidyddol ymwthgar, ond croes i'w gilydd yn aml yn adgyfnerthu ei gilydd.  Unwaith eto mater i ni a'r ffordd y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau ol annibyniaeth ydi'r math o hunaniaeth wleidyddol Gymreig fyddai'n datblygu.  Dof yn ol at y pwnc hwn maes o law.

Mae Ifan yn holi beth fyddai'r manteision i Gymru o annibyniaeth Albanaidd ar wahan i gael gweld wynebau Cameron ac Osborne.  A dweud y gwir petai'r Alban yn fotio Ia - ac mae hynny'n parhau yn fater o gryn amheuaeth er gwaetha pol YouGov heddiw - gallaf feddwl am sawl mantais.  Mae'r ymgyrch Ia yn pwysleisio y gallai llywodraeth Albanaidd fod yn fodel i weddill Ynysoedd Prydain bod yna ffordd well a challach o reoli - ffordd sy'n arwain at lai o ryfela, llai o wariant ar arfau ond mwy o degwch cymdeithasol a gwell defnydd o adnoddau cenedlaethol.  Mae Cymru angen model gwell na'r un mae San Steffan yn ei gynnig o sut i ymarfer grym gwleidyddol er lles pawb. 

Ond mi fyddai'r weithred o ennill ynddi ei hun hefyd yn hwb seicolegol fawr i'r sawl sydd eisiau i Gymru gymryd cyfrifoldeb am ei bywyd cenedlaethol ei hun.  Byddai'r fuddigoliaeth wedi dod yn wyneb gwrthwynebiad llwyr - yn wir hysteraidd yn aml - gan y cyfryngau torfol a'r sefydliad gwleidyddol yn eu cyfanrwydd.  Byddai cyfuniad o strategaeth wleidyddol  ddeallus, naratif cadarnhaol a manwl, ymgyrch llawr gwlad bwerus a defnydd effeithiol o'r cyfryngau amgen wedi sgubo'r hen sicrwydd nad ydi hi'n bosibl creu newid yn wyneb gwrtheynebiad sefydliadol o'r neilltu am byth.  Byddai Alban annibynnol yn brawf dyddiol nad ydi gwyrthiau etholiadol yn amhosibl wedi'r cwbl.  

Byddai gwybod hynny ynddo'i hun yn hwb i'r sawl sydd am weld Cymru well.




No comments: