Friday, September 19, 2014

Rydan ni'n troedio tirwedd newydd

Gwirioneddol dor calonus.  

Y pedwar awdurdod efo'r mwyaf o dlodi, a'r mwyaf o amddifadedd yn yr Alban yn pleidleisio Ia yn y gobaith o symud i drefn gallach o lywodraethu - trefn sydd ddim yn creu'r lefelau rhyfeddol o uchel o anghyfartaledd a thlodi a greir gan y wladwriaeth Brydeinig.  Trefn sy'n deg a phawb.  Cafodd y gobaith hwnnw ei chwalu gan  o bobl gyfoethog  - yn wleidyddion, uwch reolwyr banciau ac arch farchnadoedd, perchnogion papurau newydd, gohebwyr y Bib, ser pop, perchnogion busnesau mawr - yn bwlio, gweniaethu, bygwth a chrafu pob yn ail.  Maent wedi gwneud yr hyn maent pob amser yn llwyddo i'w wneud - amddiffyn eu buddiannau eu hunain ar draul pawb arall.

Y bobl sydd am fod yn byw yn yr Alban am chwe deg neu saith deg neu wyth deg o flynyddoedd eto'n pleidleisio'n drwm tros ddyfodol gwell, a'u neiniau a'u teidiau yn pleidleisio'n drwm yn erbyn - ac yn colli cyfle unwaith mewn bywyd i adael y etifeddiaeth fwyaf gwerthfawr y gallant fod wedi ei adael i'w wyrion a'u wyresau - y cyfle i weithio efo'u gilydd i greu gwlad gyfoethog, goddefgar a chyfartal. Rhywbeth na chawsant yn ystod eu bywydau eu hunain Mae'r etifeddiaeth honno wedi ei thaflu i'r pedwar gwynt erbyn heno. Tor calonus.

A rwan rydan ni'n lle ydan ni - a dydi'r fan honno ddim yn lle da o safbwynt Cymru.  Yn y panig gwyllt i gadw olew Mor y Gogledd a'r canolfannau WMDs addawyd mwy a mwy  o bwerau i'r Alban oddi mewn i wladwriaeth Brydeinig, ac o ganlyniad mae holl wrthdaro mewnol y setliad presennol wedi ei ddinoethi'n llwyr.  Mae mwy o rym i'r Alban am arwain at fwy o rym i Loegr.  Mi fydd y broses o wireddu hynny yn ail lunio'r tirwedd gwleidyddol - ac yn ol pob tebyg y tirwedd etholiadol hefyd.  

Bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei ddominyddu gan gwestiynau cyfansoddiadol - a llawer o'r rheiny yn ymwneud a hawliau Saeson yn y wladwriaeth Brydeinig newydd  Mae'r project datganoli wedi colli ei gydbwysedd yn llwyr.  Dydi Llafur ddim am ennill etholiad sy'n cael ei hymladd yn y tirwedd hwnnw - y Toriaid sydd am wneud - efo UKIP hefyd yn elwa ac yn eu llusgo i'r Dde.  Ni fydd perfformiad trychinebus Ed Milliband ar ei ymweliadau a'r Alban wedi helpu chwaith.

Mi fydd pwy bynnag fydd yn arwain yr SNP (Sturgeon 99% sicr), Peter Robinson, Martin McGuiness, Carwyn Jones a Cameron yn llunio'r wladwriaeth newydd.  Byddwn yn cael ein cynrychioli gan ddoli glwt o ddyn sy'n meddwl mai ufudd-dod i'w feistri yn Llundain ydi'r rhinwedd gwleidyddol mwyaf, a bydd ynghanol pobl wrthnysig, penderfynol a chaled.  Yr hyn y byddwn i yn ei gael ydi'r hyn fydd pobl eraill yn caniatau i ni ei gael.  Byddwn yn cael unrhyw frywsion sy'n digwydd syrthio oddi ar y bwrdd.  






4 comments:

Anonymous said...

Pam fod yr ynysoedd a'r ucheldiroedd, a wnaeth ddioddef mwy yn hanesyddol o dan y Saeson, ac sydd a hynny o'r iaith Gaeleg sydd ar ol, wedi gwrthod, tra fod glasgow, a elwodd yn ofnadwy o'r ymerodraeth Brydeinig a'i llynges, wedi cytuno ?
Mae fel Sir Gaernarfon yn gwrthod, a Chaerdydd o blaid.
Dwi'n gweld rhyw eironi fod cenedlaetholwyr yn yr Alban a Cymru mor gefnogol i Ewrop, ond roedd y gymuned Ewropeaidd i' weld yn ffyrnig yn erbyn annibyniaeth i'r Alban.

Alwyn ap Huw said...

Fel cenedlaetholwr o Gymro Cymraeg un o'r delweddau tristaf i mi oedd gwylio'r unig gyfrif i gael ei gyhoeddi yn yr Aeleg yn cyhoeddi buddugoliaeth enfawr i'r achos Na. Ond doedd o ddim yn syndod.

Mae 'na gysylltiad rhwng yr achos cenedlaethol yng Nghymru ag achos yr iaith, fel mae 'na yn Llydaw a Chernyw. Mae nifer yn yr SNP yn gweld hynny yn wendid sydd wedi gwanychu ein cenedlaetholdeb ni. Siawns bod nhw'n gywir (er na fyddwn byth yn fodlon ffeirio fy iaith am annibyniaeth os oedd rhaid dewis). Penderfynodd Llywodraeth yr SNP yn erbyn papurau pleidleisio dwyieithog cyn Cytundeb Caeredin, am y rheswm syml eu bod yn gwybod byddai papurau dwyieithog yn pechu mwy o bleidleiswyr na fyddai'n plesio.
Mi fûm yn canfasio yn frwd ym Meirionnydd dros "IE" yn refferendwm 1979. Ar ddechrau'r ymgyrch cefais groeso gwresog; erbyn canol yr ymgyrch pan oedd Kinnock, Absey a'u criw wedi bod yn malu am "orthrwm y Gymraeg", doedd y croeso dim mor wresog. Roedd Cymry Cymraeg a chenedlaetholwyr yn dweud mai gwell byddid i'r Gymraeg cael ei anwybyddu gan Lundain na chael ei reoli gan y bobl Sowth 'na. Mae siaradwyr yr Aeleg yn teimlo rhywbeth tebyg am agwedd Senedd yr Alban ac agwedd cyffredinol yr SNP i'w hiaith.

O edrych ar Twitter, byddwn yn dweud bod 90% o Twibbons Bu Chòir (IE) ar gyfrifon Cymry Cymraeg, prin ar y diawl oedd yr Albanwyr oedd am ei ddefnyddio.

Anonymous said...

Mi fydd yr etholiad cyffredinol nesa yn un anodd iawn i Lafur. Dydw i ddim yn gweld y blaid honno yn ennill oherwydd 1. Dydy Milliband ddim yn lawer o arweinydd, unwaith bydd o'n dod o dan y chwydd wydr go iawn gan y wasg mi fydd yn dadfeilio'n llwyr.
2. Mae'r economi yn ymddangos fel petai wedi gwella a bod cynlluniau Osborne wedi dwyn ffrwyth. Fydda nhw'n gallu dadlau y byddai cynlluniau Llafur i ddadwneud y llanast greodd Brown a Darling wedi bod yn gwbl drychinebus. Ar ben hynny, mae Llafur am gadw gyda chynlluniau'r ceidwadwyr felly fydda 'na ddim newid i'r rhai gwanaf yn ein cymdeithas. Synnwn ni ddim i weld canran uchel o rheini yn troi at UKIP ond stori arall yw honno.
3. Y cyfansoddiad yn dilyn y bleidlais siomedig ddydd Iau. Fe all Cameron ddadlau mai ei blaid o yw'r unig un all roi devo max i'r Alban gan fod Llafur yn anghytuno ag o yn enwedig pam mae hi'n dod i gael aelodau Lloegr yn unig i bleidleisio ar faterion Seisnig. Gall yr SNP elwa ar hyn a dwyn seddi oddiwrth Llafur.
Mi fydd rhoi pwerau i'r Saeson yn siwr o ennill pleidleisiau yno.
Y broblem ydy, lle mae hyn yn gadael Cymru?

Anonymous said...

"Pam fod yr ynysoedd a'r ucheldiroedd, a wnaeth ddioddef mwy yn hanesyddol o dan y Saeson, ac sydd a hynny o'r iaith Gaeleg sydd ar ol, wedi gwrthod"

llawer o fewnfudwyr Saesneg
mwy o hen bobl - cofier fod poblogaeth yr Alban nid yn unig yn heneiddio ond yn disgyn hefyd.
Roedd rhai o weinidogion yr Eglwys Rydd yn erbyn 'Ie' am fod yr SNP wedi cefnogi priodasau un rhyw, ac wedi cael llond bol o Alban seciwlar. Dyw'r ddau bwynt olaf ddim wedi cael sylw o'r wasg - mae hi'n rhy anffyddiol ac 'anti-natalist' i drafod y pethau hyn yn agored.