Wednesday, September 24, 2014

Y pol Cymreig diweddaraf - y neges bwysig

Mae'n ddiddorol bod y Bib a Golwg360 fel ei gilydd wedi dotio ar y gyfradd isel iawn o gefnogaeth i annibyniaeth (3%) a gofnodwyd yn y polBBC / ICM a gyhoeddwyd heddiw.  Roedd yna bol arall yr wythnos diwethaf oedd yn priodoli cefnogaeth llawer uwch i annibyniaeth yng Nghymru (17%), ond chafodd hynny ddim cymaint o sylw am rhyw reswm neu'i gilydd.

Ta waeth, nid dyna fy mhrif bwynt.  Mae'r canolbwyntio ar annibyniaeth yn peri i'r cyfryngau golli patrwm pwysicach o lawer.  Yn 2012 roedd Llafur yn polio mwy na 52% yng Nghymru, erbyn 2013 roedd hynny i lawr i 48%, ac eleni mae'n 42% - efo'r tri pol diwethaf yn eu rhoi ar 38%.  Dydi hyn ddim llawer uwch na'r hyn gawsant yn etholiad cyffredinol 2010 (36%).  Os bydd y cwymp yn eu cefnogaeth yn parhau byddant yn perfformio'n salach na wnaethant yn 2010 - ac roedd y perfformiad hwnnw ymysg y gwaethaf yn eu hanes yng Nghymru.  

Mae'n debyg bod tri pheth yn gyrru'r cwymp cyson yma yng Nghymru - perfformiad sal llywodraeth Carwyn Jones, ymysodiadau gan y wasg Doriaidd yn Lloegr ar lywodraeth Cymru a thwf UKIP.  Does yna'r un o'r sefyllfaoedd yna'n debygol o newid cyn mis Mai.  Bydd ymysodiadau'r Mail a'r Express yn mynd yn fwyfwy hysteraidd fel y bydd yr etholiad yn nesau - bydd llywodraeth Carwyn Jones yn cael ei ddefnyddio fel esiampl o'r 'erchyllderau' sy'n aros pawb yn y DU os etholir Miliband.  Mae UKIP wedi bod yn perfformio'n gryf mewn blynyddoedd diweddar ymysg y dosbarthiadau cymdeithasegol D ac E - grwpiau sydd yn cefnogi Llafur gan amlaf.

Mae'r blog yma wedi nodi yn aml mai un o'r patrymau mwyaf cyson yn hanes etholiadol Cymru ydi gallu'r Blaid Lafur i adeiladu cefnogaeth yn gyflym  a'i gadw pan mae'r Toriaid mewn grym yn San Steffan.  Mae'n ymddangos bod y patrwm hwnnw am gael ei dorri y flwyddyn nesaf.  Dyna ydi'r neges fwyaf arwyddocaol o'r pol yma. 

3 comments:

Anonymous said...

dw'i ddim yn deall y berthynas rhwng y pol ICM/BBC a'r disgyn yng nghefnogaeth Llafur.

Byddai'n dda cael trafodaeth fanylach o'r arolygon barn am annibyniaeth, e.e. sut yn union y cafwyd hyd i'r bobl oedd am eu hateb. Rhaid cofio fod annibyniaeth yr Alban wedi dod i ymddangos yn bosib achos darganfyddiad olew Mor y Gogledd. Pa adnoddau crai sydd gan Gymru fyddai'n helpu hybu hyder fel yn yr Alban? Byddai trafod hyn yn dangos y gwahaniaeth rhwng Plaid Cymru a Llafur yn gyflym iawn am nifer o resymau.

Ian Johnson said...

Roedd pol piniwn ICM/BBC nid yn unig am annibyniaeth ond hefyd yn cynnwys cwestiwn am sut fyddech chi'n pleidleisio - sy'n cadw 3 sedd i'r Blaid, gyda llaw.

Roedd cwestiwn cyfansoddiad yn un aml-dewis a mi dewisodd bron hanner ar gyfer fwy o bwerau i Gymru, gyda hyd yn oed fwy yn cefnogi pwerau dros yr heddlu a rhai pwerau lles a nawdd cymdeithasol.

Ond dwi ddim yn siwr am effaith perfformiad sal Llywodraeth Llafur ar gwymp cefnogaeth Llafur. Faswn i'n dweud mae perfformiad sal Miliband sy'n gyfrifol, a'r ffaith mae Llafur fel wrthblaid wedi bod mor wan. Roedd twf aruthrol yn eu cefnogaeth ar ol 2010, ond erbyn hyn mae pobl wedi sylwi nad yw Llafur yr ateb i'r Toris. Rhaid i'r Blaid dangos fod ni yw'r unig ateb go iawn.

Cai Larsen said...

Ia - mae Llafur Cymru yn tan berfformio Llafur y DU. Mae hyn yn anghyffredin iawn pam mae'r Toriaid wrth y llyw yn Llundain. Perfformiad llywodraeth Carwyn Jones - neu'r ffordd mae'r cyfryngau yn diffinio'r berthynas honno sy'n gyfrifol am hynny yn fy marn i.