Monday, September 01, 2014

Datganiad i'r wasg gan Fanc Bwyd Caernarfon

DATGANIAD I’R WASG 25 Medi 2014
BANC BWYD CAERNARFON YN BWYDO 2,500 O BOBL
Cyrhaeddodd Banc Bwyd Caernarfon garreg filltir nodedig yr wythnos hon, gan fwydo’r 2,500fed person ers agor ei ddrysau lai na dwy flynedd yn ôl. Mae cyfanswm o 1,543 o oedolion a 958 o blant wedi cael eu bwydo gan y Banc Bwyd, gan ddarparu dros 7,500 o brydau bwyd.
Dyma oedd gan reolwr y Banc Bwyd, Paul Dicken, i’w ddweud:
“Ryw deimladau cymysg sydd gen i wrth drafod yr ystadegau hyn. Ar y naill law, rydym yn hynod o falch ein bod wedi gallu helpu teuluoedd a fyddai, fel arall, wedi mynd heb fwyd, ac mae haelioni pobl ardal Caernarfon a Bangor, sydd yn cyfrannu bwyd a phres fel unigolion neu drwy ysgolion, eglwysi a busnesau yn ein rhyfeddu o hyd. Ac wrth gwrs, mae cyfraniad ein partneriaid hael, Tesco, yn amhrisiadwy.
“Ond ar y llaw arall, nid yw’r adferiad economaidd yn cyrraedd yr ardal hon, ac mae’r galw’n parhau i gynyddu. Rydym hefyd yn gwybod am deuluoedd sy’n methu bwydo eu plant yn ystod gwyliau’r ysgol, pobl oedrannus sy’n mynd heb fwyd am fod rhaid iddynt dalu biliau a phobl sydd ond yn gweithio rhan-amser sy’n cael eu taflu i argyfwng ariannol pan fydd bil annisgwyl o fawr yn dod drwy’r drws. Nid ydym yn eu gweld nhw yn y Banc Bwyd, ond rydym yma iddynt hwythau hefyd. Mae pawb yn wynebu cyfnod caled o bryd i’w gilydd, ac rydym yn gallu bod yn bont i gario pobl drwy’r cyfnodau anodd hynny.”
Trodd bron i hanner (44%) o gleientiaid y Banc Bwyd atom am barsel bwyd oherwydd newid ac oedi gyda budd-daliadau (yn benodol y Dreth Llofft a chosbau budd-daliadau), 18% oherwydd incwm isel, ac 11% oherwydd dyled. Mae’r chwarter sy’n weddill yn derbyn parseli bwyd am eu bod yn ddigartref, yn dioddef trais domestig, salwch hir dymor neu am resymau eraill.
 Mae’r ystadegau moel hyn yn cuddio stori y bobl go iawn sydd y tu ôl i’r ffigurau. Fel yr esbonia Paul Dicken:
“Ymhlith ein cleientiaid diweddar mae dynes a oedd yn mynd heb fwyd er mwyn cynilo ei phres ar gyfer talu am docyn trên i weld ei babi sâl yn Ysbyty Alder Hay; cyn-filwr o ryfel Afghanistan a oedd wedi anafu ei gefn, ac yn methu gweithio; pâr oedrannus a oedd wedi derbyn bil trydan aruthrol o uchel ac a oedd yn gorfod dewis rhwng ei dalu, neu fwyta. Ond weithiau, mae’r straeon yn cynhesu’r galon, fel hanes yr hogyn ifanc digartref a gafodd lety gan Gyngor Gwynedd ac a dderbyniodd barsel creu cartref gennym, a oedd yn cynnwys amrywiol hanfodion ar gyfer ei fflat newydd.”
Mae Banc Bwyd Caernarfon yn gynllun dan Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon, yn aelod o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell o fanciau bwyd, ac mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o sawl eglwys leol ac aelodau eraill o gymuned Caernarfon.
Mae cleientiaid y Banc Bwyd yn cael tocyn i roi digon o fwyd iddyn nhw a’u teulu am dri diwrnod gan asiantaethau budd-daliadau ac asiantaethau statudol eraill, mudiadau cyngor a chymorth cymunedol, elusennau cam-drin sylweddau, asiantaethau gwirfoddol, ymwelwyr iechyd, meddygfeydd ac ysgolion.
Mae bwyd yn cael ei gyfrannu drwy gyfrwng casgliadau mewn archfarchnadoedd neu mewn biniau parhaol yn siop Tesco ym Mangor neu Gaernarfon neu yn swyddfa’r Caernarfon and Denbigh. Mae rhai eglwysi a mudiadau cymunedol yn casglu bwyd yn rheolaidd, ac mae ysgolion lleol yn cyfrannu ffrwyth dathliadau eu Gŵyl Ddiolchgarwch.
Mae gennym gyflenwadau da o rai pethau, ond mae angen y canlynol arnom ar frys:
·      Pwdin reis / cwstard
·      Tatws stwnsh parod
·      Cig/pysgod mewn tun
·      Ffrwythau mewn tun
·      Siwgr (500g)
·      Saws Pasta
·      Grawnfwydydd brecwast
·      Pwdin llefrith powdwr/jeli
·      Tatws/moron/pys/indiacorn mewn tun
·      Sebon/jêl cawod/siampŵ/past dannedd

Mae croeso bob amser i wirfoddolwyr ymuno â ni i ysgwyddo amrywiol dasgau yn y Banc Bwyd.  Cysylltwch â Gwyn ar 07847 192896 i gael mwy o wybodaeth.
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth cysyllter â: Paul Dicken, Rheolwr y Banc Bwyd 07803 968272

1 comment:

Mari said...

Byddai'n ddefnyddiol gwybod faint o'r 2,500 yna oedd yn ymweld am yr ail/trydydd tro er mwyn cael syniad o wir faint y broblem. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i ystadegau banciau bwyd ar raglen More or Less ychydig fisoedd yn ôl http://www.bbc.co.uk/programmes/b042lp94