Friday, September 26, 2014

Aelodaeth y Blaid Lafur yng Nghymru

Cyn ein bod wedi trafod rhifau aelodaeth yr SNP tros y dyddiau diwethaf, efallai ei bod werth cael cip ar rhywbeth cyffelyb sydd yn nes adref - aelodaeth y Blaid Lafur Gymreig. Rydym yn gwybod yn fanwl beth oedd yr aelodaeth yn 2010 oherwydd i'r blaid gyhoeddi canlyniadau yr etholiad am yr arweinyddiaeth etholaeth wrth etholaeth.

11,118 o aelodau oedd ganddynt bryd hynny - ac maent wedi eu dosbarthu tros y wlad fel a ganlyn:



Aberafon.      325

Aberconwy 155
Arfon 154
Alyn a G Dyfrdwy 305
Blaenau Gwent 310
Pen y Bont 288
Caerffili 315
Canol C/dydd 324
Gog C/dydd 408
De C/dydd 375
Gorll C/dydd 454
Dwyrain C/fyrddin 203
Gorll C/fyrddin 207
Ceredigion 146
De Clwyd 252
Gorll Clwyd 161
Cwm Cynon 309
D/for / Meirion 89
Llanelli 276
Merthyr 317
Trefaldwyn 86
Castell Nedd 391
Dwyrain Casnewydd 250
Gorll Casnewydd 346
Islwyn 275
Pontypridd 333
Preseli / Penfro 201
Rhondda 404
Dwyr Abertawe 212
Gorll Abertawe 325
Torfaen 359
Bro Morgannwg 373
Wrecsam 209
Ynys Mon  160
Gwyr 383
Delyn 269
Brych a Maesyfed 220
Mynwy 329
Ogwr 359
Dyffryn Clwyd 261
Rwan, tra'n cydnabod bod gan y Blaid Lafur Gymreig fwy o aelodau na'r un blaid arall yng Nghymru, dydi 11,000 ddim yn llawer o bobl.  Meddyliwch am y peth am funud.  Mae'r blaid yma yn dominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, yn dominyddu grym gwleidyddol yng Nghymru, yn cymryd mantais o'i gafael ar rym gwleidyddol i enwebu ei phobl ei hun i 'wasanaethu' ar gyrff cyhoeddus o Fon i Fynwy.

Ac eto does ganddyn nhw ddim llawer mwy o aelodau na sydd yna bobl yn byw yng Nghaernarfon, neu faint o bobl sy'n mynd i Barc y Sgarlets i weld gem ddarbi efo'r Gweilch.  Mae'n anodd gen i feddwl bod prin unrhyw wlad ddemocrataidd arall efo criw mor fach o bobl yn tra arglwyddiaethu tros fywyd cyhoeddus yn ei gyfanrwydd na sy'n digwydd yng Nghymru. Mae yna fwy o seiri rhyddion yng Nghymru nag aelodau o'r Blaid Lafur - sy'n beth rhyfedd braidd ag ystyried mai pobl sydd ar ol grym a dylanwad nad ydynt yn ei haeddu ydi'r mesyns yn amlach na pheidio. Byddai ymuno efo'r Blaid Lafur yn llawer gwell ffordd o ennill dylanwad anheg yn y Gymru sydd ohoni na mynd i lawr i'r loj i gymryd rhan mewn ymarferiad mymbo jymbo.

Ffigyrau wedi ei cymryd o'r fan hyn.  Amcangyfrif gen i ydi'r rhifau am y ddwy etholaeth gyntaf - am resymau amlwg. 

3 comments:

Anonymous said...

faint yw aelodaeth y Blaid?

Cai Larsen said...

Rhyw 3,000 yn is nag un Llafur.

Plaid Whitegate said...

Roedd hwn yn dipyn o agoriad llygad yn lleol. Dim ond 209 aelod yn Wrecsam - etholaeth y mae LLafur yn dal gafael arni yn san Steffan a Chaerdydd yn ogystal a bod efo 23 o gynghorwyr (tan yr anffawd diweddar pan adawodd 10 ohonynt).
Dwi'n amau erbyn hyn fod tipyn yn llai na 200 ganddynt - sef tua dwbwl y 90 aelod o'r Blaid sy'n yr etholaeth. Diddorol iawn.