Wednesday, September 03, 2014

Ffradach Llafur arall - yn Wrecsam y tro hwn

Pob dim yn mynd i'r diawl i'r grwp Llafur yng Nghaerdydd i ddechrau, ac yna Abertawe ac yn awr Wrecsam.  Os ydi'r patrwm i barhau Casnewydd fydd y lle nesaf i 'r cyfeillion ddechrau ymddwyn fel gwenciod mewn sach - ac wedyn mi fydd yna ffradach ym mhob tref fawr yng Nghymru.

Rwan dwi'n siwr bod yna amgylchiadau penodol gwahanol yn y tri achos, ond mae yna rhywbeth yn gyffredin hefyd.  Mae pob cyngor yng Nghymru yn gorfod torri gwariant i'r bon.  Y prif reswm tros ddominyddiaeth Llafur yng Nghymru ydi eu gallu i wobreuo grwpiau sy'n eu cefnogi - clienilism.  

Mae cleiantiaeth mewn llywodraeth leol yn anos o lawer mewn amgylchiadau o dorri ar wariant llywodraeth leol.  Ac o ganlyniad mae rheoli cynghorau yn llai o hwyl o lawer nag a fu yn y gorffennol - ac o ganlyniad i hynny mae'r hogiau i gyd yn flin fel tinceriaid.

No comments: