Sunday, September 14, 2014

Pam bod y Bib wedi ei cholli hi

Mae'n hen gwyn gan Flogmenai bod y Bib yn strwythurol - anymwybodol bron - yn gefnogol i'r sefydliad Prydeinig a chenedlaetholdeb Prydeinig ac yn elyniaethys i genedlaetholdeb Celtaidd.

Mae honna wedi ffrwydro i'r wyneb yn yr Alban yr wythnos diwethaf ac wedi arwain at o bosibl bum mil o bobl yn hel o gwmpas pencadlys BBC Scotland ar lannau'r Afon Clyd i brotestio heddiw.  Pedwar peth o'r gorffennol agos sydd wedi dod a phethau i hyn.  

Y cyntaf ydi penderfyniad dw lali Nick Robinson i ddweud celwydd noeth ar y newyddion ddydd Mawrth.  Roedd wedi gofyn cwestiwn i Alex Salmond mewn cynhadledd i'r newyddion ddydd Mawrth, ac roedd hwnnw wedi mynd ati i roi ateb llawn, cyn mynd  ymosod ar y Bib.  Wnaeth Robinson ddim cymryd hyn yn dda. Honodd  na chafodd ateb i'w gwestiwn, er i 100,000 weld y fideo ar y We  cyn Newyddion 6  ac i filiynnau weld yr ateb yn fyw.  

Yr ail ydi'r ffaith i'r Bib neidio i ddilyn naratif Cameron wedi i hwnnw fwlio'r archfarchnadoedd i honni - i gyd ar yr un pryd - y byddai prisiau yn codi yn sgil annibyniaeth.  Tyllwyd hen straeon i fyny gan y Gorfforaeth o'r gorffennol cymharol bell i bwrpas atgyfnerthu'r naratif.  Ni ofynwyd y cwestiynau amlwg - Pam bod nifer o archfarchnadoedd yn dweud yr un peth ar yr un pryd, a pham ddiawl y byddai codi prisiau uwch yn fater o ofid i archfarchnad?  Dydi'r ffaith iddi ddod yn amlwg i benaethiad yr archfarchnadoedd gael eu galw i Stryd Downing i gael eu bwlio heb fod o gymorth.

Mae'r trydydd yn gysylltiedig a'r ail.  Mae lle i gredu bod Stryd Downing wedi bod yn rhyddhau gwybodaeth masnachol sensetif i Robinson i bwrpas ei helpu efo'i naratif gwrth annibyniaeth.

Ac yn bedwerydd mae'r Bib wedi bod yn cynrychioli raliau anferthol o blaid annibyniaeth yng nghanol dinasoedd mawr yr Alban efo lluniau o chwech neu saith o bobl sydd wedi eu tynnu o'r dorf.

Rwan dydi hyn ddim yn newydd - cafwyd protest y tu allan i bencadlys y Bib yn Glasgow yn erbyn celwydd a phropoganda'r Bib tua mis yn ol.  Roedd pawb yn dal cerdyn evo rhif arno i fyny.  Y rhif uchaf oedd tua 1,200.  Cyfeiriodd y Bib yn frysiog at y digwyddiad gan honni mai 400 o bobl oedd yn bresenol.

Ond yr hyn sy'n wahanol ar hyn o bryd ydi bod y Bib o dan bwysau - mae yna bosibilrwydd gwirioneddol bod eu hannwyl Deyrnas Unedig yn syrthio'n ddarnau o dan bwysau'r anghyfiawnder cymdeithasol sydd wedi ei adeiladau i mewn i'r wladwriaeth ei hun.  O dan amgylchiadau felly mae rhagfarnau yn torri i'r wyneb go iawn - ac mae'r Bib wedi gadael iddi'i hun ymddwyn fel Pravda ar steroids.  


1 comment:

Cneifiwr said...

Yn ol golygydd y Financial Times oedd yn siarad ar Radio 4 y bore 'ma, aeth Cameron a Sir Jeremy Heywood, Ysgrifennydd y Cabinet, ati i ffonio penaethiad llwyth o gwmniau mawr wythnos diwetha i gydlynu ymosodiad ar "Ie".

Canodd sawl ffon yn y Bib hefyd, mae'n debyg.