Saturday, September 20, 2014

Ai Llafur fydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i ddydd Iau?

Mae'n ddiddorol bod aelodaeth yr SNP wedi cynyddu'n sylweddol ers dydd Iau.  Ymddengys bod rhan o'r cynnydd hwnnw yn dod yn uniongyrchol o aelodaeth y Blaid Lafur. Rydym eisoes wedi son am yr is set o bol YouGov sy'n awgrymu bod Llafur bellach y tu ol i'r SNP - hyd yn oed ar lefel San Steffan.  

Mi'r ydan ni'n gwybod i 37% o bleidleiswyr Llafur bleidleisio Ia, a rydan ni hefyd yn gwybod i ugeiniau o filoedd o bobl gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn sgil y refferendwm.  Mae yna gryn dipyn o ddrwg deimlad go iawn ar lawr gwlad yn yr Alban ar hyn o bryd, ac os llwyddith yr SNP i harnaesu hwnnw gallai eu cefnogaeth gynyddu yn sylweddol.  

Ar ben hynny - fel rydym eisoes wedi trafod - byddai etholiad cyffredinol yn Lloegr sydd wedi ei ymladd ar y cwestiwn o hawliau Lloegr mewn cyfundrefn newydd yn un a fyddai'n anodd iawn i Lafur ei hennill.  Mae'n fwy na phosibl bod Darling, Brown, Murphy ac ati wedi sicrhau y bydd Llafur ar y cyrion gwleidyddol yn y DU am ddeg neu bymtheg mlynedd.  

No comments: