Wednesday, September 10, 2014

Mynd i'r Alban i fyllio

Mae'r papurau wedi mynd yn dw lali am yr Alban ers tro wrth gwrs - does ond eisiau edrych ar fwy neu lai unrhyw un - o'r Mail i'r Guardian i weld y sterics, y myllio a'r rwdlan afresymegol.  Ond mae prif wleidyddion Lloegr (a Chymru) yn colli eu pwyll yn dilyn cyhoeddi cwpl o bolau piniwn anffafriol o'u safbwynt nhw yn  ystod y dyddiau diwethaf.

Dyna i chi David Cameron - ymddengys ei fod bellach o blaid rhywbeth sydd ddim yn rhy bell o Devo Max er iddo wrthod gadael i hynny fynd ar y papur pleidleisio, ac iddo daeru du'n wyn flwyddyn a hanner yn ol na fyddai'r Alban yn cael y fath ddarpariaeth, hyd yn oed petai'n pleidleisio tros hynny mewn refferendwm.  Mae o hefyd wedi ploncio Saltire ar ben ei dy - yn union fel mae llawer o gefnogwyr yr ymdrech Ia yn yr Alban yn ei wneud - er mai eu crogi o'u fflatiau mae'r rheiny erbyn meddwl. Ychydig wythnosau yn ol doedd ganddo ddim hyd yn oed ddigon o ddiddordeb yn y refferendwm i wylio'r dadleuon teledu rhwng Salmond a Darling.

Ac wedyn mae gennym Ed Milliband - mae hwnnw bellach yn caru'r Alban i'r fath raddau mae eisiau gweld ei baner yn cahwfan uwchben trefi Lloegr, er ei fod tros y penwythnos wrthi'n bygwth anfon y fyddin i'r ffin pe bai'r Alban yn ennill annibyniaeth.  Mae o, Cameron a Clegg wedi gohirio eu sesiwn wythnosol o fyllio a thantro ar ei gilydd er mwyn ei heglu hi am yr Alban i egluro i drigolion y wlad honno pam mai nhw eu hunain ydi'r bobl orau i reoli eu bywydau. Mi fyddan nhw mewn cwmni da - mae Nigel Farage a miloedd o aelodau'r Urdd Oren ar y ffordd o Ogledd Iwerddon i'r un pwrpas.

Yn y cyfamser mae Gordon Brown wedi argyhoeddi ei hun ei fod o'n brif weinidog unwaith eto gan fynd ar yr awyr i addo y lleuad, y ser a'r llynoedd i'r Alban tros y blynyddoedd nesaf, er ei fod eisoes wedi dweud ei fod yn ymddiswyddo o San Steffan y flwyddyn nesaf a bod ymgeisydd Llafur wedi ei ddewis i gymryd ei le.  Yn wir mae wedi bod yn disgrifio ei hun fel 'cyn wleidydd' ers 2010.  Ac eto gwta bedair blynedd yn ol roedd mewn sefyllfa i roi unrhyw beth oedd eisiau i'r Alban, ond dewisodd beidio.

Mae ein prif weinidog cyfredol ni, Carwyn Jones yntau wedi gwneud ei ffordd i'r Alban i wasgaru ei weledigaeth lachar ymysg yr Albanwyr, ac o bosibl i gyfarth bygythiadau na all eu gwireddu hefyd. 

Mae JK Rowling hithau wrthi'n mynd trwy ei phethau y dylai Llafur ddweud rwan hyn eu bod am ganiatau Devo Max o gael eu hethol flwyddyn nesaf.  Mae rhan o'r £1 miliwn mae wedi ei roi eisoes i'r ymgyrch Na wedi ei roi i Saatchi & Saatchi fel tal am baratoi rhan o'r hysbysebion mwyaf trychinebus a gwrth gynhyrchiol yn hanes gwleidyddiaeth etholiadol. 

Mae hyd yn oed aelod seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi cymryd amser oddi wrth ei amrywiol frwydrau efo'i etholwyr, Hamas, Heddlu Gogledd Cymru,  y trydarfyd, y Gwyddelod, David Jones, pobl efo anhwylderau iechyd meddwl a'r Byd modern i ddisgrifio'r sefyllfa fel un 'ddifrifol' - er nad ydi o'n debygol o wneud ei ffordd i'r Gogledd pell efo Cameron, Farage a Milliband am wn i.  Mae ganddo  ddigon ar ei blat ar hyn o bryd.

A dyna chi - dau bol piniwn, a diffyg diddordeb llugoer yn cael ei drawsnewid banig lloerig mewn amrantiad.  Yn wir cymaint y panig nad oes neb wedi gofyn y cwestiwn amlwg - ydi llwyth o wleidyddion Seisnig - sy'n amhoblogaidd hyd yn oed yn eu gwlad eu hunain - yn rhedeg o gwmpas yn goch, chwyslyd ac ofnus yr olwg am newid meddwl unrhyw un?

                                            
                                                            Glasgow Gorbals


                                                       10 Downing Street

No comments: