Friday, January 28, 2011

Pam bod Eleanor Burnham yn anghywir ynglyn a chyflwyno trefn bleidleisio AV yng Nghymru

Mae'r galwadau cynyddol am drefn pleidleisio AV yn etholiadau Cynulliad yn achosi peth penbleth i mi.

Mi fydd darllenwyr rheolaidd yn gwybod nad wyf yn hoff o'r drefn sydd gennym ar hyn o bryd - trefn rhestr wedi ei chymysgu a'r dull traddodiadol Brydeinig - First Past the Post (FPTP). Mae'r dull yn llwgr, yn gwobreuo methiant ac yn grymuso pleidiau gwleidyddol ar draul etholwyr. Ond mae iddi un rhinwedd yng nghyd destun Cymru - mae'n dileu'r posibilrwydd o lywodraeth mwyafrifol Llafur parhaol. Dyna fyddai'n digwydd efo FPTP. Mae daearyddiaeth gwleidyddol Cymru yn sicrhau y byddai'n rhaid i Lafur gael llai na tua 30% cyn colli mwyafrif llwyr. Cawsant 24 o'r 40 sedd uniongyrchol gyda 32.2% yn unig o'r bleidlais yn 2007.

Tra na fyddai'r drefn AV yn arwain at batrwm mor anheg, byddai'n fanteisiol iawn i Lafur (mewn cyd destun Cymreig). Byddai llywodraethau Llafur gyda mwyafrif llwyr yn llawer mwy tebygol o dan drefn felly nag ydyw ar hyn o bryd. Mae'n hawdd gweld pam bod hyn yn apelio at Carwyn Jones, ond yn fwy anodd gweld pam bod Ceidwadwyr a Lib Dems eisiau trefn felly.

Rwan, mae'r blog yma wedi awgrymu trefn wahanol yn y gorffennol - trefn STV gydag etholaethau aml aelod. Defnyddir y drefn yma mewn etholiadau yn Ne Iwerddon, mewn etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, ac ym mhob etholiad ag eithrio rhai San Steffan yng Ngogledd Iwerddon. Ymhellach, mae'r blog yma wedi awgrymu y gellid defnyddio'r siroedd presennol fel etholaethau aml aelod.

Byddai llawer o fanteision i drefn felly - cadw'r berthynas rhwng aelod ag etholaeth, trefn fwy teg a chyfrannol, grymuso etholwyr yn hytrach na gwleidyddion ac etholaethau y gallai pobl uniaethu efo nhw er enghraifft. Mae'n drefn debyg i'r un mae plaid Eleanor Burnham yn ei hargymell. Mae'r tu hwnt i mi pam bod Eleanor yn awgrymu trefn arall a fyddai ond o fantais i Lafur.

ON - cyn i rhywun godi'r peth, 'dwi'n gwybod bod Guto Bebb yn cael ei ddyfynnu yn yr erthygl, ond 'dydi o ddim yn manylu ynglyn a pha drefn y byddai'n ei hoffi.

8 comments:

Anonymous said...

yn odd iawn- mae'r Gweriniaeth Iwerddon eisiau symud i ffwrdd o STV. Am y rheswm bod yn fwy na un i bob etholaeth.

Un "quirk" ydy bod yr Aelodau yn mynd i cnebrwn pobol yr etholaeth, i gystadlu a'r aelod arall.

Hefyd os ydy Gweinidog yn dod o e.e Limerick. Fe wneith pob ymgeisydd dilyn o ogwmpas. Roedd hyn yn broblem hefo Bertie Ahern.

Yn ail dwim yn deall hyn yn rhy dda. Ond dwin meddwl bod na 'risg' hefo STV yn yr Iwerddon. Hynny yw, a ddylwch rhoi ddau ymgeisydd ymlaen neu beidio. Pam? wel oherwydd gall un ymgeisydd Finana Fail dwyn bleidlais o aelod arall Fianna Fail (a vice versa). Ac ella, er bod Fianna Fail wedi cael rhan helaeth or pledleisiau, gall etholaeth cael Llafur a Sinn Fein. Tra os oedd na ond 1 ymgeisydd Fianna Fail fysa nhw wedi cael ei ethol.

Felly gem gwleidyddol cryf iawn!.

Does na ddim un system yn berffaith. Ond dwin hoffi AV + yr AMS ond efallai cael rhanbarthau llai, ac ond 2 i bob rhanbarth.

Anonymous said...

Os da y cofiaf mae Guto B yn ffafrio STV. Neu mi oedd o...!

Cai Larsen said...

Dydi Gweriniaeth Iwerddon yn sicr ddim eisiau cael gwared o STV. Mae Fianna Fail wedi ceisio gwneud hynny yn y gorffennol er lles eu hunain, ond mae'r etholwyr wedi gwrthod hynny yn llwyr mewn refferendwm.

Mae yna beth gwirionedd yn yr hyn rwyt yn ei ddweud am fynychwyr cynhebryngau - ond mae hyn yn ymwneud a diwylliant y De. 'Dydi Sammy Wilson na Connor Murphy yn y Gogledd ddim yn cael eu pleidleisiau anferth oherwydd eu bod yn hoffi dilyn eirch.

O ran dy sylwadau am y broses o ethol - dydyn nhw ddim yn gywir. Os oes gan FF y mwyafrif o bleidleisiau, maent yn debygol o gael y mwyafrif o aelodau etholedig.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl fod y system sydd gan y Cynulliad yn reit dda,ond fod angen i'r Cynulliad gael 70 neu 80 sedd.

Faswn i'n hoffi gweld ni'n symud i gael 70 sedd gan gael 2 sedd yn ychwanegol ar y rhanbarth, fely 5 rhanbarth efo 5 sedd.

Mae'n golygu fod modd i bleidleiswyr 'wobrwyo' AM da, ond hefyd pleidleisio dros blaid arall ar yr ail bleidlais.

Byddai system FPTP neu AV yn golygu Llafur yn rheoli Cymru ac ond un sector o gymdeithas Cymru yn cael llais gwerth ei chlywed - ardal sydd hefyd yn diboblogi'n gyflym - y Cymoedd. Byddai hynny ddim yn dda i ddemocratiaeth na chwaith i dynnu pobl fewn i'r syniad o Gymru ond sydd ddim yn Lafurwyr.

Cai Larsen said...

Problem y drefn sydd ohoni ydi ei bod yn caniatau i bleidiau weithredu mewn ffordd gwrth ddemocrataidd, fel mae'r Toriaid wedi ei wneud y tro hwn.

Mae rhyw Sanhedrin canolog wedi caniatau i'w aelodau presennol sefyll ar frig y rhestrau - heb ymgynghori efo aelodaeth gyffredin y blaid. Mi fydd y rhan fwyaf yn cael eu hethol yn awtomatig oherwydd gwendid y Toriaid yn yr etholaethau. Mi fyddant i bob pwrpas wedi cael eu 'hethol' gan griw bach, bach. Old boy's club.

Hollol llwgr ac anemocrataidd.

Anonymous said...

efallai fydd erthygl bach yma ar RTE yn esbonio fy mhwynt i'n well:

http://www.rte.ie/news/2011/0130/politics_oflynnn.html

Mae'r arweinydd wedi gofyn i Noel O'Flynn i beidio a sefyll, nid oherwydd ei fod yn anboblogaidd. Ond mae yna risg os fysa e yn sefyll, fysa e yn dwyn pledleisiau gweddill y blaid..... yna dim ond cael un sedd. Tra os mae o yn eistedd i lawr, maen mwy debygol i gael dwy sedd.

A DYMA pam dwi ddim yn fan or STV- mae yna ormod o tactics pleidiol YN YR IWERDDON.

Dwi'n cymeryd bod Richards wedi awgrymu drefn wahanol? gobeithio!!!.

Cai Larsen said...

Na - ti'n anghywir.

Os rwyt yn rhoi'r nifer cywir (hy y nifer sy'n gweddu efo dy gefnogaeth) o ymgeiswyr ger bron yr etholwyr ti'n cael yr hyn mae dy ganran o'r bleidlais yn awgrymu y dylet ei gael - os wyt yn trefnu pethau yn iawn.

Problem FF ydi bod ganddynt ormod o ymgeiswyr i blaid sydd ar 16%. Mae eu canran debygol o'r bleidlais wedi syrthio o tua 42% o'r blaen.

Y tro diwethaf yn Cork South Central (etholaeth Noel O'Flynn) cafodd FF 36% o'r bleidlais. Mae hyn yn 1.79 cwota mewn etholaeth pedwar aelod. O dan yr amgylchiadau hyn byddai'n ddoeth rhoi dau ymgeisydd.

Oherwydd y cwymp trychinebus ym mhleidlais debygol FF mae'n debyg mai tua 0.6 cwota fydd ganddynt y tro hwn. O rannu hynny rhwng dau ymgeisydd mae'n debyg y byddai'r ddau yn is na 0.5 cwota ar ol y cyfri cyntaf. Fel rule of thumb ti eisiau dy ymgeiswyr i gyd i fod uwchben 0.5 cwota, neu mae'n anodd adeiladu at 1 cwota.

Y newid mawr ym mhleidlais debygol FF sy'n golygu bod rhaid i O'Flynn fynd - nid y system ei hun.

Anonymous said...

i think i was reading about this on NYT last week