Thursday, October 14, 2010

Sefyll yn y bwlch yn erbyn yr Americanwyr

Hmm - felly 'dwi wedi llwyddo i sicrhau nad ydi'r categori blogio Cymraeg ei iaith yng ngwobrau'r Wales Blog Awards heno wedi syrthio i ddwylo Americanaidd fel Manchester United neu Lerpwl. Wedi dweud hynny 'dwi'n poeni ychydig cyn fy mod wedi anfon un o fy meibion i'r Chapter i gasglu'r dystysgrif a bod yna win a ballu yn cael ei hwrjio ar y mynychwyr. Ar wahan i'w nain, fo ydi'r peth agosaf at lwyr ymwrthodwr yn y teulu - dwi'n gobeithio na fydd y creadur yn sal yn y bore.

Llongyfarchiadau (trwy fy nannedd) i'r unig flogiwr gwleidyddol Cymreig y gwn amdano sydd wedi ei leoli ymhellach i'r gogledd na fi - y Tori o Ynys Mon, the Druid am ennill yr unig gategori gwerth ei ennill - yr un gwleidyddol.

Yr unig gysur ydi fy mod wedi ll'nau'r llawr efo'r uffar pan mae pobl yn cael cyfle i bleidleisio.

5 comments:

Rhys Wynne said...

Mi enwebais i ti ar gyfe ry categori Blog Gwleidyddol - falle tro nesaf.

Paul Williams said...

Diolch am y llongyfarchiad. Dim yn drwg am flog sy'n "gwneud defnydd dethol o ystadegau i geisio cynnal dadl na allwn ei chynnal ar ei phen ei hun"... ;)

Cai Larsen said...

Diolch am y llongyfarchiad. Dim yn drwg am flog sy'n "gwneud defnydd dethol o ystadegau i geisio cynnal dadl na allwn ei chynnal ar ei phen ei hun"

A rhoi tynnu coes ac anghytundebau'r gorffennol i un ochr am ennyd fechan - da iawn chi.

Paul Williams said...

Diolch, Cai.

Anonymous said...

Hey Lilian, whatever dude?!?

Rosanne