Canolfan hyfforddi arfaethiedig Sain Tathan ydi'r sefydliad Cymreig diweddaraf i flasu'r fwyell. Fedra i ddim honni fy mod yn colli llawer o ddagrau yn yr achos hwn a dweud y gwir, ond ychwanegwch hwnnw at y swyddfa basports yng Nghasnewydd a'r morglawdd ar draws yr Hafren, a'r hyn sy'n debygol o ddigwydd i S4C a'r cynllun i drydaneiddio'r rheilffordd i Gaerdydd tros y dyddiau nesaf, ac mae'n weddol amlwg bod patrwm pendant ar y gweill i dorri'n ol yn sylweddol ar gynlluniau cyfalaf ac ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.
'Dwi'n gwybod bod hyn oll yn digwydd mewn cyd destun o doriadau tros y DU, ond mae'n anodd osgoi'r teimlad bod Cymru yn cymryd mwy na'i siar o'r boen ar hyn o bryd. A'r gwir ydi y byddai Cymru'n dioddef mwy na'r rhan fwyaf o'r DU petai'n derbyn yr un siar o'r toriadau na phawb arall - mae'r sector cyhoeddus yn fwy (mewn termau cymharol) yng Nghymru nag yw yn y rhan fwyaf o weddill y DU, ac mae'r sector preifat yn wan ac yn ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus. Mi fyddai trefn deg yn rhoi llai o doriadau i Gymru - nid mwy.
Ond peidiwch a disgwyl i'r glymblaid yn Llunain gydnabod pwysigrwydd ychwanegol gwariant cyhoeddus i economi Cymru - cydadran fechan o wladwriaeth Brydeinig ydi Cymru iddyn nhw, ac un lle nad oes yna fawr ddim yn y fantol o safbwynt etholiadol - 5% o aelodau seneddol y Lib Dems sydd yng Nghymru a llai na 2% o rai'r Toriaid. Disgwyliwch fwy o doriadau na'r rhan fwyaf o'r DU a disgwyliwch ddiffyg cydnabyddiaeth llwyr o'r niwed ychwanegol mae toriadau mewn gwariant cyhoeddus yn debygol o'i gael ar economi'r wlad.
No comments:
Post a Comment