Tuesday, October 12, 2010

Lle S4C yn y darlun Prydeinig

Ynghanol yr holl boeni am ddyfodol S4C mae'n werth ystyried beth ydi maint y sianel mewn perthynas a'r busnes darlledu yn y DU yn ei gyfanrwydd. Mi fyddwch yn cofio mae'n debyg gen i bod refeniw presennol S4C yn dod i tua £100m y flwyddyn. Yn ychwanegol at hyn bydd y sianel yn terbyn rhaglenni 'am ddim' gan y BBC. Y dybiaeth ar hyn o bryd yw y gallai S4C golli tua chwarter ei refeniw tros bedair blwynedd - tua £25m i gyd - er y gallai'r toriad fod yn fwy o lawer.

'Rwan mae'r ffigyrau hyn yn ymddangos yn sylweddol - ac mae'r £75m (o bosibl) fydd gan y sianel yn weddill o refeniw blynyddol ar ddiwedd y cyfnod yn dal i ymddangos i'r llygaid lleyg yn dipyn go lew o bres. Ond sut ydi refeniw felly yn edrych yng nghyd destun y sefyllfa Brydeinig yn ei chyfanrwydd? Mae'r tabl isod yn rhoi syniad o refeniw'r darlledwyr Prydeinig.

B Sky B £5.9bn
BBC £3.6bn
ITV (2009) £1.9bn
Channel 4
£0.83bn
Channel Five £0.27bn
S4C £0.1bn

Mewn geiriau eraill mae refeniw S4C yn 0.8% o refeniw y chwech prif gorfforaeth darlledu. Mae gwariant BSkyB ar hysbysebu eu cynnyrch yn sylweddol uwch nag ydi holl refeniw S4C - (£127m yn 2007). Mae BSkyB mewn sefyllfa i wario tua £1bn y flwyddyn ar chwaraeon - deg gwaith cyfanswm gwariant S4C ar hyn o bryd. Maent yn gwario £278m ar ffilmiau. Mi fydd cyfran S4C o'r refeniw yn lleihau os ydi'r toriadau sy'n cael eu hystyried yn cael eu gwireddu - gan o bosibl gyrraedd 0.5% neu lai o'r cyfanswm Prydeinig.

'Dwi'n sylweddoli fy mod yn gwneud cymhariaeth ychydig yn gamarweiniol gan bod y pum darlledwr arall yn darlledu ar hyd a lled y DU, yn hytrach nag yng Nghymru yn unig. Ond mae S4C yn cystadlu yn y farchnad Brydeinig ehangach - mae'r cwbl ohonom sydd ar gael i S4C fel gwylwyr hefyd ar gael i'r sianeli eraill.

Mae S4C yn ei chael yn anodd i gystadlu ar hyn o bryd. Y sianel ei hun sy'n gyfrifol am rhai o'r ffactorau sy'n gyrru hyn, ond mae rhai ffactorau pwysig y tu hwnt i'w rheolaeth - yn arbennig felly y ffaith eu bod yn bysgodyn bach mewn pwll hynod o fawr a ffyrnig o gystadleuol. Canlyniad glastwreiddio presenoldeb S4C ymhellach yn y cwiltwaith ehangach fydd cyfyngu ymhellach ar allu'r sianeli i gystadlu - a rhoi hergwd go arw iddi tuag at ei thranc.

Data o datablog

1 comment:

Anonymous said...

Digon gwir. Mae'n bwysig nodi wrth gwrs fod y BBC yn cyflenwi sawl gwasanaeth teledu (gyda gwasanaeth 'rhanbarthol' iddynt), ditto radio.

Ond yr hyn sydd yn wir yw fod disgwyl gan y gwylwyr (a'r gwleidyddion) fod S4C yn cynnig arlwy tri neu bedwar sianel BBC mewn un sianel. Ymhellach, mae disgwyl iddynt gael safonnau golygu a chynhyrchu y BBC gyda chydieb llai nag hanner un Channel 5.

At hynny, gellid ychwanegu fod peth wmbreth o gynnyrch C5 yn stwff o America sydd wedi ei brynu fewn. Dydy'r ffigurau ddim gen i, ond faswn i'n barod iawn i ddweud fod yn agos at 90% o gynnyrch S4C yn raglenni sydd wedi eu comisiynnu'n uniongyrchol gan y rhaglen - canran lot uwch na C5, C4a'r BBC hyd yn oed.

Hynny yw, mae'n costio fwy i gael sianel yn y Gymraeg achos dydy'r opsiwn o brynu ac yna isdeitlo/trosleisio stwff tramor Americanaidd (fel gall teledu Basgeg neu Gatalaneg neu Iseldireg am wn i wneud) ddim ar gael. Wneith siaradwyr Cymraeg ddim gwylio rhaglen Saesneg wedi ei drosleisio (er, gellid cael telenovas o Brasil wedi eu trosleisio ... bydde hynny'n sbri!).

Rhaid felly comisiynnu gwaith gwreiddiol. Dyna un rheswm pan fod cyfraniad S4C i economi Cymru'n bwysig ac fod gan Gaerdydd y staff a'r gallu i gynnal pethau fel Dr Who maes o law.

Macsen

ON - Fel dywed y Quixotic Quizling ar ei flog rhyw dro, does dim rheswm pan na all S4C isdeitlo rhai cyfresi o'r cyfandir e.e. fel gwelir o'r gyfres dditectif Swedeg sydd ar BBC4, Wallander.