Friday, October 08, 2010

Llais Gwynedd yn taro'n ol

Cafodd Llais Gwynedd lwyddiant heno yn ward Seiont yng Nghaernarfon, gan ennill sedd oddi wrth y grwp annibynnol. Bydd hyn yn ryddhad iddynt ar ol iddynt golli un o'u seddau ym Mlaenau Ffestiniog yr wythnos diwethaf i Blaid Cymru. Y canlyniad yn llawn oedd:

James Endaf Cooke Llais Gwynedd 399

Gareth Edwards 91

Llinos Mai Thomas Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru 23

Menna Wyn Thomas Plaid Cymru 279

Tecwyn Thomas Ymgeisydd Plaid Lafur 184


Pob clod i Menna Thomas am berfformiad da mewn ward sydd yn hanesyddol wedi bod yn un anodd i'r Blaid. Mi fydd Llafur yn hynod siomedig na wnaethant yn well mewn ward lle maent wedi cael cryn lwyddiant yn y gorffennol agos.

Bydd o beth cysur i'r Blaid bod gwr Menna, Glyn wedi ennill yr is etholiad cyngor tref yn y ward a thrwy hynny sicrhau rheolaeth i'r Blaid ar Gyngor Tref Caernarfon am y tro cyntaf erioed.

Cadwodd Llafur eu sedd cyngor tref yn ward gyfagos Cadnant yn weddol hawdd.

9 comments:

Anonymous said...

be am longyfarch Endaf Cooke am ei lwyddiant ysgubol?

Hogyn o Rachub said...

Wel myn ffwc.

Dylan said...

doeddwn i ddim yn disgwyl i LlG ennill yn Dre rhaid i mi ddeud. Oeddet ti?

Cai Larsen said...

Y baradocsaidd dydi o ddim syndod i Endaf ennill - ond mae'n syndod i blaid sydd eisiau lleihau buddsoddiad yng Nghaernarfon ennill.

Anonymous said...

endaf gurodd hon nid llais gwynedd. Rwan be ma hunna ddeud am bobl y dre fach? Fotio mewn twoncyn fatha hwn? O diar. O diar mi. Mae na fwy o fren yn y pysgod mae o yn ei ffrio nhw!!

Anonymous said...

Menaiblog: yn ol beth dwi wedi ddeallt, tydy Llais Gwynedd ddim eisiau lleihau buddosddiad yng Nghaernarfon, dim ond dosbarthu'r arian drwy Wynedd????

Cai Larsen said...

Pam gwrthwynebu'r pecyn a arweiniodd at Ysgol yr Hendre, pam gwrthwynebu grant i syr Hugh, pam cefnogi pob cais i anfon swyddi o G'narfon 'ta?

Anonymous said...

fel y dywedais eisoes, menai blog, tyfa i fyny a 'get a life'

Cai Larsen said...

Anon 10.46 - fel y dywedais eisoes, menai blog, tyfa i fyny a 'get a life'

Mae gen ti ddawn dadlau, a chadw at edefyn dadl. Hwyrach y dylet geisio gwneud gyrfa o dy ddawn.