Friday, October 22, 2010

Ydi Rod Liddle yn hilgi?


Fedra i ddim peidio sylwi bod nifer ar y blogosffer Cymreig yn flin oherwydd i rhywun nad oeddwn erioed wedi clywed amdano tan ddoe o'r enw Rod Liddle, wneud sylwadau gwrth Gymreig. Yn wir mae Mabon wedi mynd mor bell a riportio'r creadur rhyfedd i'r heddlu am hiliaeth. Ymddengys mai erthygl ganddo sy'n argymell taflu S4C i fin sbwriel hanes sydd wedi codi'r holl stwr. Mae'r dyfyniad isod yn rhoi blas o oslef yr erthygl:

What an epic waste of money just to assuage the sensibilities of some of those miserable, seaweed munching, sheep-bothering pinch-faced hill tribes who are perpetually bitter about having England as a next door neighbour. S4C has become a state funded sinecure for the utterly talentless, the dregs who cannot even get a job at HTV (Cymru);

Os ydych (am rhyw reswm neu'i gilydd) eisiau darllen y campwaith yng nghyflawnder ei ogoniant llachar, gallwch edrych yma.

Mae'n gwestiwn digon diddorol os ydi Rod yn hilgi neu beidio. Ar un llaw mae Syniadau yn gwbl gywir i nodi mai gwlad ydi Cymru, ac nid hil, ac nad ydi sylwadau Rod yn rhai hiliol felly.

Ar y llaw arall mae rhywbeth digon anymunol yn ymgais Rod i briodoli nodweddion corfforol (pinch faced), moesol (sheep-bothering), cymeriadol (miserable, bitter, talentless dregs), anymunol i'r Cymry. 'Dydi hyn ddim yn ei wneud yn hiliol wrth gwrs, ond mae'n awgrymu bod ganddo ffordd ryfedd iawn o edrych ar y byd.

Mae ymgais i gysylltu'r Cymry efo nodweddion corfforol, emosiynol a moesol anghynnes yn eithaf cyffredin ymysg criw bach o ysgrifenwyr gwrth Gymraeg. Ystyrier AA Gill er enghraifft:

(The Welsh are) oquacious, dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls.

Neu Jeremy Clarkson:

It’s entirely unfair that some people are born fat or ugly or dyslexic or disabled or ginger or small or Welsh. Life, I’m afraid, is tragic

Mi fedrwn fynd ymlaen am dipyn yn dyfynnu'r math yma o beth (yn arbennig yn achos Clarkson). Rwan, yr hyn sydd yn drawiadol (ac ychydig yn sbwci) am y bobl 'ma ydi'r ymdrech maent yn mynd iddo i geisio creu gwahaniaethau hiliol rhwng Cymry a Saeson. Mae yna gyd destun hanesyddol i hyn wrth gwrs. 'Dydi o ddim yn ormodiaeth i ddweud bod hiliaeth yn un o syniadaethau creiddiol yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod Oes Fictoria, a bod chwilio am fan wahaniaethau hiliol yn rhywbeth o obsesiwn cenedlaethol.

Roedd damcaniaethau yn ymwneud ag uwchraddoldeb ac is raddoldeb hiliol yn gyffredin iawn ar y pryd - roedd Phrenology yn esiampl o hyn. Roedd llyfrau lu yn cael eu hysgrifennu ar y pwnc. Yr enwocaf efallai oedd Robert Knox - The Races of Men 1850, ond roedd llawer iawn o rai eraill hefyd.

Un o ddeilliannau hyn oedd bod y Fictorianiaid gyda ffordd wahanol iawn i ni o edrych ar y Byd. Roeddynt yn graddio pobl yn ol eu deallusrwydd - ac yn wir yn ol eu hawl i gael eu hystyried yn ddynol. Roedd y Celtiaid yn gymharol uchel yn nhrefn pethau - tua hanner ffordd i lawr yr ysgol - pobl dywyll iawn eu crwyn oedd ar y gwaelod - gyda'r Hotentots druan yn dal yr holl bentwr i fyny. Nid oes rhaid dweud wrth pwy oedd ar ben y rhestr.

Mae'r adroddiad a adwaenir fel Brad y Llyfrau Gleision yn adlewyrchu'n aml rhai o'r rhagfarnau Seisnig yn erbyn y Cymry - diffyg moesoldeb rhywiol ac ati. Mae'r un rhagfarnau i'w gweld yng ngwaith Caradoc Evans.

Roedd y rhagfarnau gwrth Wyddelig yn fwy eithafol wrth gwrs. Er enghraifft, mewn llythyr at ei wraig nododd Charles Kingsley wedi ymweliad a Sligo yn 1860:

I am haunted by the human chimpanzees I saw along that hundred miles of horrible country. I don't believe they are our fault. I believe ... that they are happier, better, more comfortably fed and lodged under our rule than they ever were. But to see white chimpanzees is dreadful; if they were black, one would not feel it so much, but their skins, except where tanned by exposure, are as white as ours.

Er gwaethaf y newidiadau sylweddol mewn agweddau cymdeithasol tuag at hil a hiliaeth yn ddiweddar, mae'r hen agweddau hiliol wedi eu gwreiddio'n dwfn, ac maent yn llawer, llawer mwy cyffredin nag y byddech yn ei gredu o'r cyfryngau torfol.

Rwan dydi'r gyfraith ddim yn caniatau dilorni pobl o hiliau eraill bellach, felly 'dydi hi ddim yn hawdd i bobl fel Clarkson, Liddle a Gill wneud sylwadau hiliol am bobl sydd o hiliau gwahanol iddyn nhw eu hunain. Felly maent yn gwneud sylwadau hiliol am bobl sydd o'r un hil a nhw eu hunain, ac yn chwilio am wahaniaethau hiliol er mwyn cyfiawnhau'r rheini.

Rhyw fath o siwdo hiliaeth ydi hyn mewn gwirionedd. Yr hyn y byddant yn hoffi ei wneud mewn gwirionedd fyddai gwneud sylwadau cyhoeddus sy'n dilorni pobl o Bacistan, India, y Caribi a'r gwledydd Arabaidd. Ond fedra nhw ddim - felly maent yn gwneud y peth agosaf posibl at hynny.

Felly ydi sylwadau Liddle am y Cymry yn hiliol? Nac ydynt wrth gwrs, mae Liddle yn perthyn i'r un hil a'r Cymry. Ond - serch hynny - mae'n gwbl rhesymol i gasglu bod Liddle, Gill, Clarkson et al yn hilgwn mewn gwirionedd gan eu bod yn mynd o'u ffordd i ddod mor agos a phosibl i wneud sylwadau hiliol yn gyhoeddus. Hiliaeth yr hilgi llwfr o bosibl - hilgwn sydd heb y gyts i sefyll yn gyhoeddus tros eu daliadau anymunol. Yn wir mae'r tri wedi cael eu cyhuddo o hiliaeth ar sawl achlysur yn y gorffennol. Ni fyddai'n syndod o fath yn y byd deall bod eu hagweddau a'u hymgom preifat yn uwd o hiliaeth - yn union fel eu hen deidiau Fictorianaidd.

7 comments:

Ifan Morgan Jones said...

"Yr hyn y byddant yn hoffi ei wneud mewn gwirionedd fyddai gwneud sylwadau cyhoeddus sy'n dilorni pobl o Bacistan, India, y Caribi a'r gwledydd Arabaidd. Ond fedra nhw ddim..."

Mae Liddle wedi: http://www.independent.co.uk/news/media/press/liddle-under-fire-over-racist-blog-1835496.html

Cai Larsen said...

Ia - achos arall o fynd mor agos a phosibl heb groesi'r llinell.

Anonymous said...

mae'n reit debyg i nifer o'r dyfyniadau yn llyfr rhagorol Mike Parter, 'Neighbours from Hell'.
http://stwnsh.com/bi9

Anonymous said...

"Felly ydi sylwadau Liddle am y Cymry yn hiliol? Nac ydynt wrth gwrs, mae Liddle yn perthyn i'r un hil a'r Cymry."

Mae hynny'n dibynnu ar dy ddiffiniad o hil. Yn ôl y Wicipedia:

Race refers to classifications of humans into populations or groups based on various factors, such as their culture, language, social practice or heritable characteristics.

A'r Encyclopedia Britannica

Today the term has little scientific standing, as older methods of differentiation, including hair form and body measurement, have given way to the comparative analysis of DNA and gene frequencies relating to such factors as blood typing, the excretion of amino acids, and inherited enzyme deficiencies. Because all human populations today are extremely similar genetically, most researchers have abandoned the concept of race for the concept of the cline, a graded series of differences occurring along a line of environmental or geographical transition. This reflects the recognition that human populations have always been in a state of flux, with genes constantly flowing from one gene pool to another, impeded only by physical or ecological boundaries. While relative isolation does preserve genetic differences and allow populations to maximally adapt to climatic and disease factors over long periods of time, all groups currently existing are thoroughly “mixed” genetically, and such differences as still exist do not lend themselves to simple typologizing. “Race” is today primarily a sociological designation, identifying a class sharing some outward physical characteristics and some commonalities of culture and history

Mewn geiriau eraill, mae sylwadau Liddle yn rhai hiliol.

Anonymous said...
This comment has been removed by the author.
Dylan said...

Hyd yn oed os ydi'r sylwadau'n "hiliol", mae gen i broblem egwyddorol anferth efo mynd at yr heddlu ynglyn â hyn. A dw i'n dweud hynny fel rhywun sydd wedi casau Liddle ers blynyddoedd lawer.

I mi mae rhyddid llafar yn nesaf peth at absoliwt. Mae defnyddio grym y wladwriaeth i dawelu llais rhywun yn anfoesol. Hyd yn oed pan fo'r rhywun hwnnw'n goc oen.

Aled G J said...

Be sy'n ddiddorol yn y stori fach hon yw'r synnwyr nad ydi'r ieithwedd draddodiadol i ddisgrifio sylwadau fel hyn yn ddigonol bellach. Dro nol, byddid wedi condemnio sylwadau Rod Liddle fel rhai gwrth-Gymreig,imperialaidd,trahaus a di-ddeall. (Dyna ydi nhw o hyd i mi) Ond, bellach, dydi rheini ddim yn ddigon i lawer ac mae'n rhaid eu disgrifio'n "hiliol" mewn math o wag-obaith y bydd hynny'n rhoi taw arnyn nhw. Mae hynny'n nonsens ac hefyd yn gamgymeriad strategol gan fod hynny felly yn ein rhwystro ni rhag ymladd brwydr ar sail ein cenedligrwydd a deud hi fel ag y mae hi am Saeson a Seisnigrwydd yng Nghymru heddiw. Ydi'r Catalaniaid, er enghraifft, yn gweiddi "hiliaeth" bob tro y mae Sbaenwyr yn eu sarhau nhw neu eu hiaith( fel sy'n digwydd dro ar ol tro ar ol tro?) Nadyn siwr- maen nhw'n derbyn natur imperialaidd cenedligrwydd y Sbaenwyr ac ymroi o'r newydd i warchod ac hyrwyddo eu cenedligrwydd Catalaneg eu hunain. Dyna sy'n rhaid i ninnau wneud yng Nghymru- nid apelio at y gyfraith a'r sefydliad i'n gwarchod!