'Dydi Andrew Marr o'r Bib ddim yn meddwl llawer o'r blogosffer gwleidyddol.
Dyfynaf:
Most citizen journalism strikes me as nothing to do with journalism at all_ _ _.
A lot of bloggers seem to be socially inadequate, pimpled, single, slightly seedy, bald, cauliflower-nosed, young men sitting in their mother's basements and ranting. They are very angry people."OK – the country is full of very angry people. Many of us are angry people at times. Some of us are angry and drunk. But the so-called citizen journalism is the spewings and rantings of very drunk people late at night.
Mae Mr Marr yn gywir i'r graddau bod yna flogio difrifol o wael a gor emosiynol i'w weld yn weithiau, ac mae yna lawer iawn o flogio di ddim. Mae yna hefyd flogio arbennig o dda ar gael. Ar ei orau mae blogio gwleidyddol yn llenwi twll na all y Bib ei lenwi yn yr ystyr ei fod yn rhoi perspectif gwahanol, llai sefydliadol nag un y gorfforaeth, ac yn aml bydd gwybodaeth y Bib yn llai trylwyr, ac yn fwy arwynebol na'r hyn sydd gan rhai blogwyr.
A dweud y gwir mae sylwadau Mr Marr yn nodweddiadol o'r hyn sydd yn aml yn fy mhoeni am ohebiaeth gwleidyddol y Bib - ceir tueddiad parhaus i geisio gwneud i sefyllfaoedd cymhleth ffitio i mewn i ddehongliadau syml. Diogi newyddiadurol mewn geiriau eraill. Mae'r byd blogio yn gymhleth ac yn amrywiol - ac yn eironig ddigon mae newyddiadura gwleidyddol gorau'r Bib yng Nghymru i'w gael ar flogiau Vaughan a Betsan ac nid ar y cyfryngau prif lif.
O - a rhag ofn bod rhywun a diddordeb, mae gen i fwy o wallt, llai o blorod, clustiau twtiach a mwy o blant nag Andrew a 'dwi heb fyw efo mam ers 1978. Fydda i ddim yn gwylltio'n aml chwaith.
4 comments:
Sylwi dy fod wedi hepgor "meddw" yn dy amddiffyniad o beidio a rhannu ei weddau ef o flogiwr!
Hmm - mae yna ambell i flogiwr sydd mor dreiddgar nes chwalu damcaniaethau Mr Marr.
Mae'n rhaid i mi syrthio ar fy mai Alwyn a chydnabod fy mod weithiau ychydig yn benysgafn ar ddiwrnod 'Dolig ar ol yfed sieri efo fy nghinio.
Tybed a ydi'r diffiniad o 'slightly seedy' yn cynnwys bod รข 'superinjunction' yn gwahardd straeon am fywyd personol rhywun?
Wel Guto, mae yna agweddau ar fywyd personol Andrew sy'n waeth na 'slightly seedy'_ _ _ - ond doethach fyddai rhoi taw arni rwan hyn rhag ofn i mi gael fy hun o flaen fy ngwell.
Post a Comment