Wednesday, October 20, 2010

Beth am beidio a llafurio ar dir hesb y tro hwn?

Mae Aled yn nhudalen sylwadau'r blog isod ac Alwyn ar ei flog Saesneg yn codi'r cwestiwn yn eu gwahanol ffyrdd os ydi'r Mudiad Cenedlaethol yn rhy ddof o ran ei naratif ag ystyried digwyddiadau diweddar. Mae'n gwestiwn digon diddorol - ac amserol.

'Rwan un peth sydd y tu hwnt i amheuaeth ydi bod toriadau, neu'r bygythiad o doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus yn newid y tirwedd gwleidyddol yn sylweddol - a 'dydi'r newid hwnnw ddim o fudd i'r Mudiad Cenedlaethol. Roedd wythdegau'r ganrif ddiwethaf yn gyfnod llwm iawn i genedlaetholdeb Cymreig - ac roedd y tirwedd gwleidyddol bryd hynny'n ddigon tebyg i'r hyn ydyw heddiw.

'Dydi hi ddim yn anodd gweld pam. Os mai toriadau mewn gwariant cyhoeddus ydi'r brif stori wleidyddol, mae'n dilyn y bydd plaid sydd yn cael ei chysylltu efo gwariant cyhoeddus yn gwneud yn dda mewn ardaloedd lle mae gwariant felly yn bwysig.

Y Blaid Lafur ydi'r blaid sy'n cael ei chysylltu a gwariant cyhoeddus yn llygaid y rhan fwyaf o bobl, a does yna ddim llawer y gall y Blaid wneud am hynny. Mae pobl yn reddfol yn cysylltu gwariant cyhoeddus efo Llafur, fel y maent yn ein cysylltu ni efo gwladgarwch. Pan mae pobl yn teimlo o dan fygythiad personol, tuedda gwladgarwch i ddod yn tipyn o foethusrwydd - yn ei ffurf gwleidyddol o leiaf. Pan mae pobl yn teimlo bod y bygythiad hwnnw'n wan maent yn fwy tebygol o fynegi eu gwladgarwch ar ffurf gwleidyddol - fel y gwnaethant yn etholiadau cyntaf y Cynulliad er enghraifft. Mewn sefyllfa fel hyn mae gwleidydda oddi mewn i'r tirwedd gwleidyddol yr ydym ynddo ar hyn o bryd yn wastraff ynni ac amser o safbwynt y Blaid. Yr unig obaith o lwyddo ydi trwy geisio newid y tirwedd gwaelodol.

Y ffordd o gamu ymlaen ydi trwy wthio yr hyn sydd yn ein gwneud yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol i ganol y talwrn etholiadol a'i drin fel ased, yn hytrach na'i guddio a cheisio bod yn fwy llafuraidd na'r Blaid Lafur.

Mae'n amlwg bod perthynas gweddol glos rhwng ein statws cyfansoddiadol a'n tan berfformiad economaidd parhaus. Mae caniatau i wlad arall gymryd pob penderfyniad economaidd arwyddocaol ar ein rhan yn ffordd gweddol amlwg o grefu ar ein gliniau am fethiant economaidd. 'Dydi'r cysylltiad rhwng tan berfformiad economaidd a diffyg rheolaeth tros ein economi ddim yn cael ei wyntyllu yn ddigon aml, na chyda digon o arddeliad. Y brif ddadl tros annibyniaeth - yr unig un sydd yn bwysig mewn gwirionedd - ydi'r un sy'n sydd wedi ei gwreiddio yn niffyg gallu'r drefn bresennol i wella perfformiad economaidd Cymru, a'i methiant i godi ansawdd bywyd trwch pobl Cymru.

'Dwi ddim yn amau bod gwleidydda oddi mewn i'r matrics sydd mor gyfforddus, mor gyfarwydd, mor Brydeinig yn haws nag ydi ceisio newid y tirwedd gwleidyddol sylfaenol trwy gysylltu'r tlodi endemig sy'n bla ar y rhan fwyaf o'n gwlad gyda'n dibyniaeth ar y wladwriaeth Brydeinig - a thrwy estyniad dibyniaeth ar y Blaid Lafur. Ond y ffaith i ni gymryd y dewis hawdd tros y degawdau ydi'r rheswm pam yr ydym ni ymhle yr ydym heddiw, a pham bod y Blaid Lafur yn lle maen nhw.

Siawns bod yr amser wedi dod i ddysgu'r wers a cheisio llafurio ar dir mwy ffrwythlon o ran ei botensial am unwaith.

6 comments:

Hogyn o Rachub said...

Cytuno i raddau helaeth. Mae gan y Blaid fwy o sylw na chafodd yn yr 80au ac mae ganddi ei hun seiliau cadarnach. Rhaid gwneud y cysylltiad rhwng camreolaeth Lundeinig a thanberfformiad economaidd - ond mae'n hanfodol hefyd ymosod ar Lafur drwy wneud i bobl gofio mai ei thwpdra hi a'n cafodd i'r llanast hwn yn y lle cyntaf.

Dwi'n teimlo hefyd fod yn rhaid i'r Blaid fod yn llawer crocach am S4C - mae'r sylw sydd wedi'i roi iddi ganddi wedi bod yn gwbl annigonol.

Anonymous said...

Roedd Ieuan Wyn, yn anffodus, yn hynod wan a ddifflach ar Wales Today neithiwr. Jyst yn dod allan efo'r whinge a'r victimhood.

Y gwir ydy, fod y mwyafrif helaeth o bobl yn cytuno efo'r toriadau mewn egwyddor ond yn credu eu bod yn rhy hallt. Mae'r 'what has Wales done wrong' jyst yn rybish Llafuraidd sy'n peintio Cymru fel rhyw wlad bach yn menyg gwynion ddim yn deall pam fod dadi yn gas iddi. Mae fel bod nol yn Oes Victoria ... yr oes wrth gwrs lle mae'r Blaid Lafur Gymreig hapusaf o ran hunaniaeth Gymreig.

Y stori - a'r her a'r gobaith - i Blaid Cymru yw dweud. Drychwch mae Llafur a'r Toriaid wedi gwneud mess, mae ffordd allan o hyn, gadewch i ni ddangos ein bod ni'n wlad ddisgybliedig nad yw'n ddibynnol ar hand-outs rhowch bwer i'r Cynulliad dros ddwr, dros adnoddau naturiol, dros drethi a gallwn ddod allan o'r twll yma.

Plis, dim mwy o'r rybish victimhood a ochri gyda'r Undebau. Dwi ddim yn barod i fod yn was bach i'r undebau sy'n ffrynt i'r Blaid Lafur.

Dyfed said...

Credaf fod y tirwedd yn wahanol i'r hyn a fu yn yr 80au gan fod y cynulliad gennym. Mae gan bobl rhyw syniad ar sut y gall polisiau Cymreig fod yn wahanol i'r rhai yn Lloegr heb i'r byd ddod i ben. Ac yn ôl y polau mae pobl yn cefnogi'r syniad o gael mwy o rym i'r cynulliad. Mae cyd-destun y ddadl bresennol felly yn dra gwahanol a dylai hyn olygu y gall y Blaid fod yn gryfach wrth alw am hunanlywodraeth llawn. A wnaiff hi hynny sy'n gwestiwn arall.

Cai Larsen said...

Anhysb - fyddwn i ddim yn anghytuno - mae'r blog yma wedi dadlau sawl gwaith nad ydi naratif sydd wedi ei seilio ar hunan dosturi yn un da.

Dyfed - rwyt ti wrth gwrs yn gywir i ddweud bod y Cynulliad yn un gwahaniaeth mawr rhwng heddiw a'r 80au. Dwi hefyd yn gobeithio dy fod yn gywir bod presenoldeb y corff hwnnw yn ei gwneud yn haws i ffurfio naratif gwleidyddol sydd y tu allan i'r bocs Prydeinig.

Un pwynt bach arall sydd werth ei wneud o bosibl - mae yna dair plaid Geltaidd genedlaetholgar yn y DU - ac maent oll yn fwy parod i ddadlau yn gryf tros annibyniaeth na'r Blaid. Mae dwy, yr SNP a Sinn Fein yn sylweddol gryfach na'r Blaid o ran cefnogaeth, ac mae'r drydydd - yr SDLP yn ddigon agos at y Blaid.

Dylan said...

Yn union. Y gwir ydi ei bod yn wirioneddol anodd dweud y gwahaniaeth rhwng datganiadau'r Blaid a rhai Llafur ar y funud. Mewn sefyllfa o'r fath, i Lafur Cymru y bydd rhannau helaeth o bobl Cymru'n gwrando. Allwn ni ddim cystadlu trwy ddweud yr un peth.

Mae angen pwysleisio'r hyn sy'n gwneud Plaid Cymru'n unigryw; does dim pwynt cuddio'r ffaith mai annibyniaeth ydi'r nod. Trwy beidio siarad am y peth, caniateir i'r pleidiau unoliaethol i ddiffinio'r gair, sef mewn modd negyddol. Mae angen angen ad-ennill a hawlio'r gair a'i wneud yn rhywbeth i ymfalchio ynddo, fel mae'r SNP yn gwneud. Os rhywbeth, mae'r sefyllfa bresennol yn gwneud rwan yn amser delfrydol i wneud.

Un o Eryri said...

Tra yn cytuno a'r hyn 'rwyt yn ei ddweud, credaf hefyd bod y Blaid yn cesio rhoi ei hunan drosodd yn wahanol i'r Blaid Lafur. Er enghraifft er fod anhysbys yn dweud bod y mwyafrif helaeth yn cytuno bod toriadau yn anochel (yr unig reswm am hyn yw mai dyma beth mae'r peiriant propaganda Prydeinig yn ddweud wrthym a dyma beth yw neges y prif bleidiau Prydeing)credaf bod y Blaid yn rhoi y neges allan bod ffordd arall i ooresgyn y broblem a hynny yw trwy drethiant sylweddol uwch ar y rhai hynny all fforddio i dalu. Dyma'r ffordd ymlaen i'r Blaid. Ni fuasai hyn yn ymgais i fod yn fwy Llafuraidd na'r Blaid Lafur ond yn hytrach neges hollol wahanol sydd yn dangos fod yn bosib rhoi pobl gyffredin yn gyntaf, yn hytrach na'r cyfoethogion hynny mae Prydain wedi eu cefnogi ar hyd yr oesoedd.