Felly dyma ni ddiwrnod cythryblus yn hanes S4C yn dod i ben gydag ymddiswyddiad arall sydd hyd yn hyn yn ddi eglurhad. Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu'r sianel sydd wedi neidio tros yr ochr y tro hwn.
Mi ddechreuodd y diwrnod efo cyfweliad hynod bigog gan Arwel Ellis Owen ar Radio Cymru. Ymateb oedd Arwel i stori gan Vaughan bod Jeremy Hunt, Gweinidog Treftadaeth y DU eisoes wedi penderfynu gorfodi toriadau o 20% i 30% ar y Sianel. Yr hyn oedd yn ymddangos i fod wedi troi'r drol oedd awgrym gan Vaughan Roderick bod dogfen a baratowyd gan y gorfforaeth yn amlinellu effeithiadau toriadau posibl, yn rhy hwyr i effeithio ar benderfyniad y llywodraeth. Roedd Arwel yn bendant nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud. Am beth ydi fy marn i werth, mi fyddwn yn tybio bod y ddau ddyn yn gywir - mae Vaughan yn gywir i'r penderfyniad gael ei wneud ynglyn ag amrediad y toriad (20% i 30%), ac mae Arwel yn gywir yn yr ystyr nad yw'r union ffigwr wedi ei benderfynu eto. Serch hynny mae'n weddol amlwg bod wythnos nesaf am fod yn un anodd iawn i'r sianel - yn arbennig a deall heno bod y gyllideb ysgolion yn ogystal a'r gyllideb iechyd yn Lloegr yn debygol o gael eu harbed. Mae'r arbediad i'r ddwy gyllideb sylweddol yma yn sicrhau y bydd y toriadau yn y gweddill yn sylweddol iawn.
Wedyn yn ystod y prynhawn aeth Arwel ati i geisio ehangu'r ddadl (ac ennill cyfeillion pwerus) trwy honni bod y newidiadau sydd ar y gweill yn nhrefn cyllido S4C yn gosod cynsail a allai effeithio ar ddarlledwyr eraill - yn arbennig felly y BBC. Yn y cyfamser roedd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Diwylliant a Hamdden yng Nghaerdydd yn gwneud ymdrech i dynnu sylw at bwysigrwydd y sianel o safbwynt y berthynas rhwng Cymry Cymraeg a rhai di Gymraeg.
Mae pethau'n argoeli'n ddrwg mae gen i ofn - a gallwn gymryd bod brwydr hir o'n blaenau i sicrhau cyfundrefn ddarlledu deilwng trwy gyfrwng y Gymraeg - brwydr roedd llawer ohonom yn hyderu oedd wedi ei hen ennill
2 comments:
Ymddengys nad ydi llywodraeth Cameron รข diddordeb yn y Gymraeg. Ar wahan i S4C, mae fersiwn Cymraeg gwefan 10 Downing Street i bob pwrpas wedi dod i ben, a chyda Swyddfa Basbort Casnewydd ar fin diflannu, beth fydd yn digwydd i'r ffurflenni cais am basbort yn Gymraeg?
Na - ychydig o ddylanwad sydd gan y llywodraeth glymblaid ar y Gymraeg oherwydd datganoli - ond mae pob agwedd lle mae ganddi ddylanwad yn dioddef.
Post a Comment