Tuesday, October 05, 2010

Guto'n dechrau cicio yn erbyn y tresi yn barod!


Pleser anisgwyl ydi cael fy hun yn cytuno efo fy nghymydog Guto Bebb ynglyn ag anhegwch cynlluniau'r llywodraeth glymblaid i amddifadu trethdalwyr sy'n talu'r lefel uchaf o dreth incwm o fudd dal plant. 'Dwi'n cytuno mai dyma un o'r pethau mwyaf anheg sydd erioed wedi digwydd yn hanes y Ddynoliaeth.

Gadewch i ni ystyried teulu cwbl nodweddiadol o Gaernarfon fel enghraifft o erchylldra'r anhegwch yma, gyda'r tad yn aelod seneddol digon cyffredin ar gyflog o £65,738, y wraig yn rhannu ei hamser rhwng edrych ar ol y teulu a gweithio'n rhan amser am ychydig filoedd y flwyddyn. Teulu o faint digon cynrychioladol 0 Ogledd Caernarfon ydyw - gyda phump o blant.

Fel mae pethau'n sefyll gallai'r teulu bach ddisgwyl budd dal plant o £20.30 yr wythnos am y plentyn cyntaf a £13.40 yr wythnos ar gyfer pob un o'r pedwar arall. Daw hyn a ni at gyfanswm o £3,842.80 tros flwyddyn. Hen ddigon i brynu gwyliau go lew yn haul De Ffrainc - hyd yn oed i deulu o saith. Ond och a gwae, mae hynny oll yn mynd i ddiflannu gydag un clic o fysedd merchetaidd George Osborne.

Meddyliwch mewn difri calon am orfod trampio o gwmpas blydi Sir Benfro ynghanol gwynt a glaw Awst efo pump o blant wrth eich cwt. Does yna neb yn fwy ymwybodol o ddwyster poenus a dirdynnol y profiad hwnnw na fi.

9 comments:

Anonymous said...

da

Anonymous said...

30 darn o arian sy'n dod i'r meddwl ... ond nid eu hennill ond amddifadu eraill ohonynt sydd yma!

Un o Eryri said...

Fel unrhyw dori da mae Lord Haw Haw yn dechrau gyds aut mae'n effeithio ef

Anonymous said...

Blog class.

Anonymous said...

Cyn dechrau, dylwn ddweud dwi yn aelod o blaid cymru a ddim rhy hoff o Guto Bebb - cachwr ydio!

OND, tro yma dwi am amddiffyn Guto achos mae bwysig gen i fod mewn byd gwleidyddiaeth deg - hyd yn oed os dio ddim. Dwi ddim ishio i'r blaid fynd lawr i lefel budur y toriaid a llafur plis.

Be mae'r cradur wedi ei ddweud ydi fod sut mae'r peth am gael ei wneud yn anheg nid fod yr holl beth yn anheg - a dwi yn cytuno.

Dau bwynt dwi siwr fyddai blog menai yn cytuno hefo nhw:

1) Mae yn berffaith iawn i bobl sy'n ennill mwy i gymeryd yr "hit".
2) Mae'r system mae'r toriaid yn ei roi ymlaen yn wirion bost:

Cwpl 1:
Y wraig yn ennill £45k a'r gwr adra yn edrych ar ol y plant - DIM taliad. (mae o yn fy wylltio yn bost pan mae pobl yn son am "y fam" angen yr arian - son am hen ffasiwn!)

Cwpl 2:
Y wraig yn enill £42K ar gwr yn ennill £42K yn cael taliad!

H.y. Mae cwpl 1 yn ennill £45K y flwyddyn ag yn derbyn dim, tra fod cwpl 2 yn ennill £84K y flwyddyn ag yn derbyn y taliad llawn!!

Yn erbyn yr ail bwynt mae Guto yn dadlau a dwi siwr fyddai pawb yn cytuno fod y peth yn wirion bost. I fod yn deg i'r hen rwdlyn, hyd yn oed os byddai yn curo ei ddadl, mi fysa fo yn colli yr arian eniwe.

Sa ddim yn well i bawb sy'n ennill dros £50k dalu ceinniog yn fwy o dreth?

Sa ein amser ni yn well yn meddwl am sut da ni am ennill mis Mawrth, ag ennill mis Mai fel fedra ni fynd i'r afael ar greu swyddi sy'n talu y math yna o arian yng Nghaernarfon, ym Mangor, yn Aber ayyb

Anonymous said...

Mae na effeithiadau eraill hefyd. Dweder bod gennych 4 o blant ac eich bod yn cael cynnig swydd gyda cyflog o £44k yna fe allech fod ar eich colled o dderbyn y swydd a byddai yn well i chi ddychwelyd £150 o gyflog i ddisgyn o dan y trothwy. Er mwyn gwneud i fynu'r golled byddai angen i chi ennill dros £49k ac ni fyddech yn well allan tan eich bod yn ennill dros £50k ac yna fe fyddech yn debygol o gael ei effeithio gan lefel treth uwch.

Cai Larsen said...

Mae yna ddau reswm pam dwi'n cael y stori fach yma yn un ddigri.

Yn gyntaf mae Guto yn un garw am chwilio am rhyw fudd personol i egluro safbwynt gwleidyddol rhywun.

Yn ail, mae'n weddol amlwg bod y drefn yn un anheg - ond dydi hi ddim yn effeithio ar y rhan fwyaf o bobl - mae'r gyfundrefn budd daliadau yn llawn o elfennau anheg i bobl sydd yn nes at waelod y pentwr cymdeithasol. Ond dydi o ddim ots am hynny wrth gwrs _ _ _.

Anonymous said...

Peth arall hurt am 6 uchod yw petai rhywun yn trefnu i ddisgyn o dan y trothwy yna fe fyddai incwm treth i'r llywodraeth yn gostwng rhyw £2,000 o ychwanegu hyn at y lwfans plant o £3,146 yna byddai y llywodraeth ar ei cholled o £5,000 o'i gymharu a £3,146 petai'r lwfans yn parhau i gael ei dalu. Gwn y byddai hyn ym amrywio o unigolyn i unigolyn ac yn seiliedig ar lefel cyflog a nifer y plant ond mae yn brawf pellach o wendid yr argymhelliaid. Dwi yn cytuno gyda 5 y byddai ceiniog ychwanegol ar rai dros £50k yn well ond byddai hyn yn siwr o effeithio ffrindiau Mr Osborne yn byddai.

Anonymous said...

Hey, I can't view your site properly within Opera, I actually hope you look into fixing this.