Sunday, October 10, 2010

Mynd a'r busnes dwyieithrwydd yma'n rhy bell?

Peidiwch a fy nghamddeall, 'does yna neb yn fwy balch o weld arch farchnadoedd a 'ballu yn defnyddio'r Gymraeg na fi. Ond, ydi hi'n wirioneddol angenrheidiol i gyfieithu petrol i _ _ wel, petrol?

Ymddengys bod Morrisons, Caernarfon yn credu hynny beth bynnag.

6 comments:

Emlyn Uwch Cych said...

Ac ai "Storfa" yw gair yw Cofis am lle i wneud eu siopa? Wes, mae'n rhaid i fi ehangi fy ngeirfa!

Anonymous said...

Twp, ie. Mater o synnwyr cyffredin a chael gwaith graffig gwell. Mae'r rhan fwyaf o arwyddion yn M&S yng Nghanol Abertawe yn uniaith Saesneg ond mae un sy'n dweud "Lift/Lifft". Erbyn feddwl, oni fyddai'r Gymraeg yn ddigon yn yr achos hon? Weithiau byddai'r Gymraeg a symbol yn ddigon (a dilyn dy enghraifft di: y gair "Tanwydd" wedi'i baentio ar y ffordd llun o bwmp petrol, efallai).
Efrogwr

Anonymous said...

Sim Siop ddylsa fo fod? I ni, storfa ydy lle i gadw pethau, dimm lle i siopio?

Anonymous said...

Dim Siop ddylsa fo fod? I ni, storfa ydy lle i gadw pethau, dim lle i siopio?

Sori, cyweirio'r teipio!!

Anonymous said...

Mae Morrisons yng Nghaernarfon wedi cael trafferth efo Cymdeithas yr Iaith o'r blaen am ei arwyddion, felly allwch chi ddim gweld bai arna nhw'n chwarae'n (rhy) saff tro yma!

Anonymous said...

Fedrith nw jyst ddim curo! Chware teg iddynt am drio ddyweda i.

Os da ni wir am ennill y ddadl, fedra ni ddim mynd 'mlaen i gwyno byth a hefyd!

Beth am ddechrau'r ddadl hon yn adeilad y cynulliad lle mae aml i wall iaith!