Saturday, October 16, 2010

Llafur Cymru yn gloddesta ar fethiant Llafur y DU

Llwyddodd Llafur i ennill dwy is etholiad yng Nghymru ddydd Iau, gan gadw sedd yn hawdd yng Nghastell Nedd Port Talbot, a chymryd sedd oddi wrth y Blaid gyda mwyafrif bach, ond gogwydd sylweddol yn Nhreherbet yn Rhondda Cynon Taf.

Rhondda Cynon Taf CBC: Treherbert

Llafur 883 (50.8;+9.7),
Plaid Cymru 855 (49.2;-9.7)
Mwyafrif 28
Cyfradd pleidleisio 40%

Castell Nedd Port Talbot: Gogledd Castell Nedd

Llafur 437 (57.2;-5.3),
Neath Port Talbot Ind Party 144 (18.8;-18.6),
Plaid Cymru 132 (17.3;+17.3),
Lib Dem 51 (6.7;+6.7)
Mwyafrif 293.
Cyfradd Pleidleisio 24.08%


Felly dyna ni - esiampl o Lafur yn gwneud yn dda yng Nghymru o ganlyniad i wrthwynebiad i doriadau sy'n cael eu gweithredu oherwydd i Lafur yn Llundain wneud smonach llwyr o economi'r DU.

2 comments:

Un o Eryri said...

Mae hyn oherwydd methiant y Blaid i berswadio etholwyr Cymru o ddiffyg Sosialaeth y Blaid Lafur. Mae'n rhaid i ni rhywsut neu gilydd ddangos yn hollol eglur mai'r unig ffordd i wrthwynebu toriadau y Llywodraeth Brydeinig yw trwy Blaid Cymru a thrwy gael mwy o bwerau i'n Senedd yma yng Nghymru

Cai Larsen said...

Cweit - methiant Llafur sydd wedi gadael Cymru yn ddiymgeledd yn wyneb y toriadau sydd ar gael.