Friday, October 01, 2010

Cais bach i'r BBC

'Dwi'n gwybod bod Gwynedd ymhell i'r gogledd o Landaf, ymhell o wareiddiad dinesig Pontcanna, a'n bod ni i gyd mor debyg i'n gilydd nad ydi hi'n bosibl i selogion y Cameo Club weld y gwahaniaeth rhyngom pan rydym yn cyrraedd y ddinas yn ein heidiau i weld gem beldroed neu rygbi.

Ond er cymryd hyn oll i ystyriaeth 'dwi'n dal i deimlo y dylai'r Bib wneud rhyw fath o ymdrech i wneud yn siwr bod eu storiau am y Gogledd yn ffeithiol gywir. Er enghraifft roedd newyddion y Bib y bore yma yn ein sicrhau bod Plaid Cymru wedi ad-ennill un o'r seddi yr oedd wedi ei cholli ar Gyngor Gwynedd i Lais Gwynedd.

'Dwi'n deall mai naratif newyddiadurol etholiadau lleol 2007 oedd i Lais Gwynedd ennill seddau gan Blaid Cymru yn sgil yr hen gynllun ad drefnu ysgolion. Ond nid dyna ddigwyddodd yn Bowydd a Rhiw - sedd Llafur oedd hon cyn dyfodiad Llais Gwynedd. Fe'i henillwyd gan y meicro grwp wedi is etholiad a alwyd yn sgil marwolaeth yr aelod Llafur, Ernest Williams yn ystod ymgyrch etholiadau lleol 2007. Prin i'r Blaid gael ei chynrychioli yn yr ardal erioed.

Yn eironig ddigon yr unig dro y gallaf feddwl amdano i'r ardal gael cynrychiolydd Plaid Cymru (cyn Paul) ar gyngor sir oedd am gyfnod byr yn ol yn nyddiau'r hen Gyngor Gwynedd pan roedd rhannau sylweddol o'r ward bresennol yn ward Gwilym Euros Roberts (oedd yn aelod o'r Blaid ar y pryd wrth gwrs).

Felly y stori ffeithiol gywir yw i'r Blaid lwyddo i gymryd sedd gan Lais Gwynedd mewn ardal sydd wedi bod yn un wan iddi (ar lefel llywodraeth leol o leiaf) yn hanesyddol - ac i Lafur fethu hyd yn oed ddod o hyd i ymgeisydd.

'Rwan - mae'r blog yma - yn ogystal a llawer o flogiau Cymreig eraill yn llwyddo i gael y rhan fwyaf o bethau (fwy neu lai) yn ffeithiol gywir, efo dim byd mwy nag un boi efo cyfrifiadur, mynediad i Google, ychydig o wybodaeth ynglyn a'r hyn maent yn 'sgwennu amdano, ambell i gysylltiad yma ac acw a'r amynedd i wirio ffeithiau cyn eu cyhoeddi.

Mi fyddai dyn yn disgwyl i gorfforaeth anferth fel y Bib i wneud ychydig yn well.

4 comments:

Un o Eryri said...

Cytuno'n llwyr efo dy sylwadau ynglyn a'r Bib, ond yn anffodus mae gennyt tithau un ffaith anghywir. 'Roedd y sedd yma yn nwylo'r Blaid o 95 tan 99 ar y Cyngor Gwynedd newydd hefyd, gyda G.E.R. yn gynghorydd arni fel aelod o'r Blaid adeg hynny. Ac felly G.E.R. wnaeth y drwg i Blaid Cymru golli y sedd i Lafur adeg hynny, ond trwy ddaioni arweiniodd hynny hefyd i'r Blaid golli G.E.R. a dyna beth oedd buddugoliaeth aruthrol. Ta waeth, Ia fe ddylai'r BBC wneud eu gwaith cartref, ond y peth pwysicaf yn hyn oll Llongyfarchidau mawr i chdi Paul

Cai Larsen said...

A reit - mi roedd Gwilym yn gynghorydd Plaid o dan y ddwy gyfundrefn felly - doeddwn i ddim yn sylweddoli iddo gymryd cymaint o amser i Gwil sylwi bod y Blaid yn waeth na'r Natsiaid.

Roedd y ffiniau o dan yr hen drefn yn dra gwahanol wrth gwrs.

beth oedd Ernest yn ei wneud cyn cymryd sedd Gwil?

Un o Eryri said...

Nid oedd Ernest yn Gynghorydd rhwng 95 a 99, ond dwi'n meddwl ei fod yn Gynghorydd Dosbarth yn y Blaenau cyn 95. Dwi rhy ifanc i gofio

Cai Larsen said...

Ia - y norm ym Mlaenau tros y blynyddoedd oedd cynrychiolaeth Lafur - Owen Edwards etc.

Mae'n edrych fel petai'r dyddiau hynny wedi dod i ben bellach.