Monday, October 25, 2010

Pwy sy'n gyfrifol am dranc posibl S4C mewn gwirionedd


Diolch i'r dyn bach o Fro Morgannwg sydd ddim yn or hoff o Eidalwyr, mae bellach yn gwbl glir bai pwy ydi'r smonach mae S4C yn cael ei hun ynddo - dim byd i'w wneud efo Jeremy Hunt a'r llywodraeth glymblaid yn San Steffan wrth gwrs - o na, er mwyn i chi gael dallt, ar Awdurdod S4C a Ieuan Wyn Jones mae'r bai.

Mae yna fai mawr, mawr, mawr hefyd ar Blaid Cymru ac Alun Ffred Jones yn benodol am feiddio bod eisiau trafod dyfodol y sianel.

Dyna hynna i gyd wedi ei glirio o leiaf. Diolch Alun am ddadansoddiad cynhwysfawr, treiddgar ac aeddfed.

4 comments:

Anonymous said...

Wn i ddim am 'fai' ar IWJ ac Alun Ffred. Dwi'm yn meddwl fod hynny'n deg. Ond mae llawer o beth arall ddywedir gan Alun Cairns yn gywir - S4C heb fodlon trafod; cyfrinachedd/dirgelwch ymadawiad Iona Jones; colli cyswllt gyda gwylwyr (a threth-dalwyr).

Nashi

Cai Larsen said...

'Dwi'n derbyn hynny - ond onid oes mymryn bach, bach, bach o fai ar Jeremy Hunter? Na?

Anonymous said...

Mae S4C wedi cael ei chyhuddo o beidio รข bod yn barod i ‘gydweithredu’ (dwi’n synhwyro bod na gyhuddiad felly ym mlog Vaughan Roderick). Efallai fod hynny’n wir am esbonio ymadawiad Iona Jones. Ond trefn ariannu STATUDOL oedd gan S4C. Ydy pobl wir yn awgrymu y dylai Awdurdod S4C fod wedi cytuno i wneud rhywbeth a allai fod yn anghyfreithlon?

Cai Larsen said...

Mae'n ymddangos mai dyna yn union sy'n cael ei awgrymu.