Saturday, April 17, 2010

Y penderfyniad etholiadol gwaethaf erioed?

Mae'r gyfres o bolau sydd wedi eu rhyddhau ers y sioe nos Iau (mae'r diweddaraf yn rhoi'r Lib Dems ar y blaen o ran pleidleisiau) yn galonogol i'r Lib Dems wrth gwrs - ond mae hefyd yn dda i Lafur. Er mai trydydd fyddant o ran pleidleisiau pe gwireddid y polau, byddant yn dod yn gyntaf o ran y seddi y gallant ddisgwyl eu hennill.

Mae'r holl beth yn drychineb o'r radd flaenaf i'r Toriaid ar y llaw arall. Flwyddyn yn ol roedd ganddynt oruwchafiaeth o fwy na 10% yn y polau. Erbyn heddiw mae'n ymddangos yn bosibl y bydd Toriaid Cameron yn 2010 yn llai poblogaidd na rhai Michael Howard yn 2005.

Penderfyniad trychinebus Cameron i gymryd rhan yn y sbloets ydi un o'r prif resymau am y sefyllfa sy'n ei wynebu heno. Yn draddodiadol 'dydi'r sawl sydd ar y blaen ddim yn mentro cymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath rhag ofn rhywbeth tebyg i'r hyn sydd newydd ddigwydd. Mae'r blog yma eisoes wedi trafod pam ddigwyddodd hyn - oherwydd bod y sgandal treuliau wedi newid strwythur gwleidyddiaeth etholiadol Prydain trwy gryfhau'r pleidiau llai, a bod y Toriaid eisiau ail greu'r hen drefn tair plaid sydd wedi bod mor garedig tuag atynt tros y degawdau.

Mi fydd darllenwyr cyson y blog hwn yn fwy nag ymwybodol nad oes gen i fawr o amser i'r Lib Dems a'u nonsens gwirion. Serch hynny mae'n anodd peidio a gwenu wrth feddwl am Cameron yn gwneud yr hyn a allai fod yn benderfyniad etholiadol mwyaf trychinebus yn hanes diweddar y DU oherwydd ei fod, fel ei blaid, o ran greddf yn wrth ddemocrataidd ac am gadw grym gwleidyddol mewn cyn lleied o ddwylo a phosibl.

Y reddf yma sydd hefyd y tu ol i wrthwynebiad y Toriaid i gyfundrefn bleidleisio gyfrannol a theg. Mae'r dymuniad i gadw cymaint a phosibl o bleidiau rhag ymarfer grym (trwy hyrwyddo a chynnal cyfundrefn etholiadol llwgr) a rhag cael sylw cyfryngol (trwy ganoli'r ymgyrch ar ymryson arlywyddol ar y teledu) yn dechrau edrych fel petai am gadw'r Toriaid eu hunain rhag ymarfer grym am gyfnod eto.

Trist iawn, very sad.

2 comments:

Anonymous said...

mae'n siwr fod Cameron yn cicio ei hun ... a'i MPs yn ei gicio yntai!

Fe all weithio o blaid y Toriaid os gallan nhw gymryd fôts UKIP yn ôl a dweud fod pleidlais i'r LibDems yr un peth â phleidlais i Gordon Brown.

Anonymous said...

... neu penderfyniad dogmatig Simon Thomas i gadw gwisgo clustdlws yng Nheredigion gan lwyddo i wneud pobl yn ddrwgdybus ohono am ddim rheswm o gwbl. Llwyddo i ddieithro lot o bobl am reswm hollol wirion fel nad oedden nhw'n gwrando ar ei neges.

Colli o 200 er mwyn edrych fel rhywun o 1985 yn styc yng ngwleidyddiaeth asgell chwith y ddegawd.