Friday, April 23, 2010

Pam nad ydi Robin eisiau dweud yn lle mae'n byw?


Fel y gwelwch, er bod Robin 'I live in Gerlan' Millar yn disgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' 'dydi o ddim eisiau dweud ymhle mae'n byw ar y papur pleidleisio. Yn wahanol i bobl sydd eisiau mynd ar gyngor er enghraifft, mae ganddo pob hawl i wrthod datgelu ei gyfeiriad.

Mewn blogiad diweddar holais os oes gan Robin dy yn Arfon o gwbl. 'Dwi ddim yn gwybod yr ateb i hynny, ond 'dwi'n gwybod bod yna Mr a Mrs R Millar yn berchen ty sydd a chyfeiriad Gerlan (ond mae wedi ei leoli mewn gwirionedd yn nes o lawer at Dal y Bont) wedi gwneud cais yn 2003 i droi adeilad cyfagos (hen feudy) yn dy. Cafwyd caniatad. Gellir gweld y cofnodion perthnasol yma. Cais rhif 14 ydi'r un 'dwi'n cyfeirio ato.

A derbyn bod mae gan Robin dy (neu yn hytrach efallai dai) yn Arfon, yn ogystal a chartref yn Newmarket (lle mae'n gweithio a lle mae'n gynghorydd) mae'n ddiddorol holi pam nad yw'n rhoi cyfeiriad un o'r tai lleol ar y papur pleidleisio er mwyn 'profi' ei fod yn 'hogyn lleol' chwedl yntau?

Tybed os mai'r ateb ydi bod mai dau dy haf sydd ganddo, ac nad ydi Robin wedi treulio llawer o amser o gwbl ynddynt hyd eleni, a bod y naill dy wedi bod yn dy haf ers iddo gael ei brynu yn 2001 a bod y llall hefyd wedi ei droi yn dy haf rhywbryd wedi iddo ddechrau cael ei adnewyddu yn 2003?

Wedi'r cwbl 'dydi bod yn berchenog tai haf yn Arfon ddim yn union yr un peth a bod yn hogyn lleol.

Os mai perchnogaeth tai haf ydi'r peth pwysig mi fyddai gan Arglwydd Penrhyn well lle i ddisgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' na Robin.

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Pam bod gen ti bleidlais post?

Cai Larsen said...

Does gen i ddim, ond mae'r Mrs yn treulio llawer o'i hamser yng Nghaerdydd ar hyn o bryd oherwydd bod ei mam yn wael.