Monday, April 26, 2010

Brolio ei fod wedi ei cholli hi

Diddorol gweld bod Guto yn brolio iddo gael y myll ar Hawl i Holi nos Wener.

Ymateb yn weddol hysteraidd wnaeth Guto ar Pawb a'i Farn, i'r ffaith bod Elfyn Llwyd wedi tynnu sylw at gelwydd yn ei ohebiaeth etholiadol, trwy wrthod ymateb a chodi'r pwynt hollol amherthnasol bod Elfyn wedi hawlio costau am ei fwyd yn San Steffan - rhywbeth roedd llawer o Aelodau Seneddol Toriaidd (a'r pleidiau eraill) wedi ei wneud wrth gwrs.

Rwan mae gwrando ar Dori yn cega am dreuliau braidd fel gwrando ar Fred West yn cwyno bod yna ormod o dor cyfraith. Roedd sylwadau Guto yn gyfle gwych i Elfyn son am y ffosydd o gwmpas y stadau, yr ynysoedd hwyaid, fflipio tai di ddiwedd Stephen Crabb, Nick Bourne yn cael y trethdalwr i drwsio ei ystafell molchi, i pod Alun Cairns, a bwyd ci Cheryll Gillan ac ati, ac ati, ac ati.

Mae'n anffodus bod Elfyn yn rhy anrhydeddus i gicio'r bel i mewn i'r gol agored.

4 comments:

Hogyn o Rachub said...

Dwi'm yn meddwl bod Guro Bebb wedi gwneud llawer o ffafr â'i hun ar Pawb a'i Farn - ddaeth o ddim drosodd yn dda iawn o gwbl mae arna' i ofn.

Da gweld bod cymaint wedi mynd i'r rali yn Aberystwyth hefyd, gyda llaw. Dwi ddim yn un o'r rhai sy'n anobeithio am Geredigion ac yn dal yn meddwl bod gan y Blaid gyfle da o'i hadennill.

Anonymous said...

Sgen ti'm pethau gwell i'w gwneud?

Anonymous said...

You're so interesting! I don't beliеνe I've read a single thing like this before. So nice to discover somebody with original thoughts on this issue. Really.. thanks for starting this up. This web site is one thing that's neeԁеd on the web,
ѕomeοne with sоme originality!
Here is my website ... http://www.prweb.Com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm

Anonymous said...

We stumbled over here by a different page and thought I
may as well check things out. I like what I see so now i'm following you. Look forward to going over your web page repeatedly.

Look at my web site: illinois cash advance