Sunday, August 31, 2014

Pamffled Llafur yn Arfon

Dwi newydd gael cip ar bamffled etholiadol cyntaf Alun Puw, Llafur - ymgeisydd Llafur yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 2015. 

Er bod y pamffled braidd yn or eiriog, dyda ni ddim yn dysgu llawer a dweud y gwir.  Mae'n dod yn amlwg bod Alun yn hoff o falwns - dim o'i le yn hynny wrth reswm, dwi'n eithaf hoff o falwns fy hun.  Rydym hefyd yn cael un o'r graffiau Lib Demaidd yna sy'n dangos i gefnogwyr y Toriaid a'r Lib Dems mai dim ond Llafur all guro'r Blaid.  Ymgais i ddenu pleidleiswyr tactegol o gyfeiriad cefnogwyr pleidiau tebyg i'r Blaid Lafur o bosibl.

Beth bynnag y prif bwynt ydi'r un arferol - os nad ydi pobl yn fotio i Alun Puw bydd y Toriaid yn ennill - ac mae pawb yn gwybod bod y rheiny yn bobl ddrwg iawn, iawn.  Oni bai bod y syniad y byddai'r Blaid yn cynnal llywodraeth Doriaidd yn nonsens mae yna ddau ateb arall i hon.

Yn gyntaf pan mae'n dod i doriadau gwariant cyhoeddus tair boch o'r un pen ol (mae yna rhywbeth o'i le ar y trosiad yna) ydi Llafur, y Toriaid a'r Lib Dems - maen nhw i gyd wedi ymrwymo i'r un cynlluniau gwariant, ac mi fyddan nhw i gyd yn torri gwariant cyhoeddus i'r bon yn dilyn 2015.

Yn ail mi'r ydan ni yng Nghymru wedi fotio i Lafur ym mhob etholiad bron ers 1918 ac mi'r ydan ni yn dal yn dlotach na'r unman arall yng Ngorllewin Ewrop.  Dydi fotio Llafur ddim yn gweithio - mae'n arwain at dlodi a methiant - mae ganddon ni bron i gan mlynedd o hanes i ddangos hynny.  Y cwbl sydd gan blaid Alun Puw i'w gynnig i Gymru ydi methiant a thlodi.


No comments: